ECONOMEG
20
AR GYFER BODDHAD Â’R ADDYSGU 16 (GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2024)
AR GYFER ANSAWDD ADDYSGU
(TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024)
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/gwyddorau-cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
RYDYM YN CYNNIG:
Croeso cynnes i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
Graddau Achrededig Cyfleoedd Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Dealltwriaeth drylwyr o egwyddorion economaidd modern a materion cyfoes
Cyfathrebu a gweithio mewn tîm Datrys problemau Rheoli amser SGILIAU I’W CAFFAEL:
Meithrin sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol Elwa o gymorth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
STRWYTHUR GRADD HYBLYG GYDAG YSTOD O OPSIYNAU MODIWL I DEILWRA’CH ASTUDIAETHAU
ECONOMEG Mae ein graddau yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o egwyddorion economaidd modern a materion cyfoes. Mae’r rhaglenni hyn, sy’n cael eu diweddaru’n barhaus i gynnal perthnasedd byd go iawn, modern, yn addas os hoffech chi ddilyn gyrfa fel economegydd neu os ydych chi’n yn agored i gael swydd ar draws gwahanol feysydd economaidd ac ariannol.
EIN GRADDAU
L100 L101 L1W0 L10F
Economeg, BSc (Anrh) Economeg, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Dramor Economeg, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Economeg, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Sylfaen
Byddwch yn cael eich addysgu am theori economaidd wedi’i chyfuno ag elfennau mathemategol ac ystadegol. Mae hyn yn helpu creu’r offer, y wybodaeth a’r technegau dadansoddol sydd eu hangen i ffynnu mewn swydd ym maes economeg sy’n werth chweil yn ariannol. Mae’r BSc mewn Economeg yr un mor addas os ydych chi’n dyheu i ddilyn gyrfa fel economegydd, os ydych chi’n agored i gael swydd ar draws gwahanol feysydd economaidd ac ariannol, neu os ydych chi’n ystyried dilyn llwybr estynedig o astudiaethau ôl-raddedig.
L112 L1W3 L1W2 L12F
Economeg a Busnes, BSc (Anrh) Economeg a Busnes, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Dramor Economeg a Busnes, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Economeg a Busnes, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae’r radd hon, sy’n cyfuno elfennau craidd o economeg a busnes, yn ddelfrydol os hoffech yrfa mewn llywodraeth, ym maes rheoli, cyllid neu fasnach. Mae’n rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn o egwyddorion economaidd o ran llunio polisïau ac amgylcheddau busnes, yn ogystal â’r technegau dadansoddol a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau ac mewn strategaeth mewn llywodraeth a busnes. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cymhwyso gwybodaeth, sgiliau ymchwiliol a chreu modelau yn hyderus i gynghori gwahanol fathau o sefydliadau. O fusnesau preifat i’r llywodraeth, gallwch gael effaith wirioneddol ar bolisi economaidd.
L111 L1W4 L1W1 L11F
Economeg a Chyllid, BSc (Anrh) Economeg a Chyllid, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Dramor Economeg a Chyllid, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Economeg a Chyllid, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae’r radd hon, sy’n cyfuno elfennau craidd economeg a chyllid, yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o economeg fodern a’i chymhwyso o fewn y diwydiant cyllid. Bydd y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd arbenigol fel cyllid corfforaethol yn datblygu eich gwerthfawrogiad o’r berthynas rhwng dadansoddi economaidd a gweithrediadau ariannol. Yn ystod eich astudiaethau, bydd arsylwi’r modd y mae theori yn effeithio ar ymarfer yn gyson yn ymestyn eich galluoedd i wneud penderfyniadau strategol. Erbyn i chi raddio, byddwch chi’n hyderus o ran cymhwyso’ch gwybodaeth, eich sgiliau ymchwiliol a chreu modelau i gynghori gwahanol fathau o sefydliadau yn effeithiol.
ADDYSGU 20
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ gwyddorau-cymdeithasol/economeg I gael mwy o wybodaeth, sganiwch y cod QR neu ewch i’n gwefan.
UCHAF YN Y DU AR GYFER ANSAWDD
(TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024)
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol.
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/economeg
TEITL Y CWRS
SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL
BAGLORIAETH RYNGWLADOL
CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC
TGAU NEU GYFWERTH
ECONOMEG, BSc (Anrh)*
Isafswm Gradd C mewn Mathemateg (4)
ABB- BBB
DDM neu uwch
32-33
ECONOMEG A BUSNES, BSc (Anrh)*
ECONOMEG A CHYLLID, BSc (Anrh)*
*gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo
Blwyddyn Sylfaen - yn amodol ar eich graddau disgwyliedig a’ch dewis o gwrs, efallai y byddwn yn gallu cynnig lle ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall – a bydd ei chwblhau yn arwain at B1 o’ch cwrs dewisol. Caiff eich blwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, wedi’i leoli ar Gampws y Bae, ac fe gaiff gweddill eich blynyddoedd eu haddysgu ar Gampws Singleton, yn bennaf. Bydd modiwlau Cyfrifeg, Cyllid a Busnes yn cael eu haddysgu ar Gampws y Bae. Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@abertawe.ac.uk .
ACHREDIAD PROFFESIYNOL
CIMA: Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli yw’r sefydliad cyfrifwyr rheoli proffesiynol mwyaf yn y byd ar hyn o bryd. Mae CIMA yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfrifeg busnes ac, yn benodol, cyfrifwyr rheoli sy’n delio ag elfennau strategol busnes, fel strategaethau rhagweld, ariannol, risg a rheoli.
CWRS
MANYLION
*yn amodol ar ddewis modiwl
Economeg, BSc (Anrh)
Hyd at 4 eithriad Arholiad CIMA* Hyd at 4 eithriad Arholiad CIMA* Hyd at 8 eithriad Arholiad CIMA*
Economeg a Busnes, BSc (Anrh) Economeg a Chyllid, BSc (Anrh)
ACCA: Mae Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig yn gorff cyfrifyddiaeth rhyngwladol blaenllaw. Mae cymhwyster ACCA yn profi i gyflogwyr bod gennych allu ym mhob agwedd ar fusnes.
CWRS
MANYLION 1 Eithriad o Bapur Gwybodaeth Gymhwysol a Sgiliau Cymhwysol ACCA* *yn amodol ar ddewis modiwl 1 Eithriad o Bapur Gwybodaeth Gymhwysol a Sgiliau Cymhwysol ACCA* 3 Eithriad o Bapur Gwybodaeth Gymhwysol a Sgiliau Cymhwysol ACCA*
Economeg, BSc (Anrh) Economeg a Busnes, BSc (Anrh) Economeg a Chyllid, BSc (Anrh)
Beth yw cwrs achrededig? Un sydd wedi cael ei gymeradwyo gan gorff proffesiynol perthnasol sy’n bodloni ei safonau ansawdd. Mae’n amlygu cysylltiad agos rhwng diwydiant â’ch cwrs, gan ddod ag ymarfer arloesol y byd go iawn i’ch astudiaethau. Mae cyrsiau achrededig, sy’n cyfri tuag at gymwysterau a chofrestriadau proffesiynol, yn gallu helpu eich cyflymu yn eich dewis o lwybr gyrfa. Beth yw manteision Achrediadau Proffesiynol? Cychwyn arni: Bydd graddau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol yn eich eithrio o arholiadau / cymwysterau proffesiynol cyfnod cynnar penodol, gan olygu y gallwch gychwyn arni yn eich gyrfa. Cymorth: Cofrestrwch ar gyfer aelodaeth myfyriwr a dechrau manteisio ar gymorth gyrfa gan gorff proffesiynol, yn ogystal â chysylltiadau â chymheiriaid ac arbenigwyr. Mae’n edrych yn dda ar eich CV ac yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth.
SYLWER: I lawer o broffesiynau, astudio cwrs achrededig yw’r cam cyntaf i fod yn gwbl gymwys. Gallwch wirio gyda’r cyrff proffesiynol perthnasol ar gyfer gofynion penodol eraill.
MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein gradd Economeg BSc (Anrhydedd) 3 blynedd safonol. Ewch i’n gwefan i weld manylion am yr opsiynau sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs. Gellir gweld y
rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/economeg
ECONOMEG, BSc (Anrh): Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 o gredydau yn cynnwys 8 modiwl gorfodol ag 15 credyd
MODIWLAU GORFODOL
Egwyddorion Microeconomeg Current Issues in Economics
Ymagweddau at Ddadansoddi Economaidd
Cyfrifeg ar gyfer Economeg Archwilio Data Economaidd
Technegau Mathemategol ar gyfer Economeg A /B *
SEMESTER 1
Egwyddorion Macroeconomeg
Cyllid ar gyfer Economeg
SEMESTER 2
*Nid yw Prifysgol Abertawe yn gofyn am Fathemateg Safon Uwch ar gyfer cael mynediad at ein rhaglenni Economeg. Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau Mathemateg Safon Uwch yn dilyn Technegau Mathemategol ar gyfer Economeg A. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau Mathemateg Safon Uwch yn dilyn Technegau Mathemategol ar gyfer Economeg B. Blwyddyn 2 (Lefel 5): 120 o gredydau sy’n cynnwys 5 modiwl gorfodol ag 15 credyd, 1 modiwl dewisol ag 15 credyd yn canolbwyntio ar Economeg, a 2 fodiwl arall dewisol ag 15 credyd (dewiswyd o blith opsiynau modiwl yn gysylltiedig ag Economeg, Busnes neu Gyllid)
MODIWLAU GORFODOL
Problemau a Gwneud Penderfyniadau mewn Economeg
SEMESTER 1 SEMESTER 2
Microeconomeg Ganolraddol
Macroeconomeg Ganolraddol
Econometreg Ragarweiniol
Polisi Economaidd
Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 o gredydau sy’n cynnwys 2 fodiwl gorfodol ag 15 credyd ac o leiaf 60 credyd o’r rhestr o gyrsiau astudio dewisol Economeg (naill ai 3-4 modiwl yn dibynnu ar ba opsiynau a ddewiswyd) a hyd at 30 credyd o fodiwlau dewisol eraill (1-2 modiwl yn dibynnu ar ba opsiwn modiwl a ddewiswyd).
Microeconomeg Uwch SEMESTER 1 SEMESTER 2 Macroeconomeg Uwch MODIWLAU GORFODOL
Mae myfyrwyr yn dewis 1 modiwl 15 credyd sy’n canolbwyntio ar Economeg a 2 fodiwl dewisol 15 credyd arall (a ddewisir o blith opsiynau modiwlau Economeg, Busnes neu Gyllid) BLWYDDYN 2 (DANGOSOL) – EWCH I DUDALEN EICH CWRS AR GYFER Y RHESTR GYFLAWN O FODIWLAU Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea. ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen . Mae’r tablau isod yn ddangosol ac yn cael eu darparu fel canllaw i ehangder y modiwlau sydd ar gael. Mae modiwlau yn werth 15 credyd yr un, oni nodir yn wahanol. MODIWLAU DEWISOL
ECONOMEG MODIWLAU DEWISOL
MODIWLAU DEWISOL ERAILL (F = YN GYSYLLTIEDIG Â CHYLLID - B= YN GYSYLLTIEDIG Â BUSNES) F: Buddsoddiadau: Asedau; Ecwitïau a Bondiau F: Egwyddorion Cyfrifeg Rheoli F: Cyllid Corfforaethol 1 F: Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol B: Gwyddor Rheoli B: Dadansoddi Strategol B: Busnes Rhyngwladol B: Rheoli Cadwyni Cyflenwi
Economeg Iechyd
Economeg Amgylcheddol ac Adnoddau Economïau’r Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell Datblygiad Economaidd
Economeg Fathemategol Economeg Contractau
- -
B: Dadansoddeg Busnes
-
Mae myfyrwyr yn astudio o leiaf 60 credyd o opsiynau o’r rhestr modiwlau dewisol Economeg (3-4 modiwl yn dibynnu ar ba opsiynau modiwl a ddewisir) a 30 credyd o opsiynau o fodiwlau dewisol eraill (1-2 modiwl yn dibynnu ar ba opsiwn/opsiynau modiwl a ddewisir). BLWYDDYN 3 (DANGOSOL) - EWCH I DUDALEN EICH CWRS AR GYFER Y RHESTR GYFLAWN O FODIWLAU
ECONOMEG MODIWLAU DEWISOL
MODIWLAU DEWISOL ERAILL (F = YN GYSYLLTIEDIG Â CHYLLID - B= YN GYSYLLTIEDIG Â BUSNES)
Mae’r modiwlau a restrir isod yn 15 credyd yr un ac eithrio ar gyfer Prosiect Astudio Annibynnol Economeg a Phrosiect Blwyddyn Olaf sy’n fodiwlau dwbl (30 credyd yr un)
Economeg Gyhoeddus
F: Deilliadau a Rheoli Risg F: Effeithlonrwydd Marchnadoedd Ariannol F: Bancio Buddsoddiadau
B: Gweithredu Strategol B: Datblygu Cymwysiadau
Micro-econometreg a Modelau Data Panel Prosiect Astudio Annibynnol Economeg (30 credyd) Econometreg Cyfres Amser
B: Cynaliadwyedd a Rheolaeth Amgylcheddol
F: Economeg Ariannol F: Cyllid Corfforaethol 2
B: Arweinyddiaeth B: Rheoli Prosiectau
Economeg Ariannol Economeg Llafur
F: Rheoli Asedau
B: Prosiect Blwyddyn Olaf (30 credyd)
BLWYDDYN SYLFAEN
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu llawn botensial academaidd, gan greu llwybr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn amryw feysydd. Mae myfyrwyr yn dewis cwblhau Blwyddyn Sylfaen fel rhan o’u rhaglen gradd am lawer o resymau. Efallai nad yw rhai myfyrwyr yn bodloni’r meini prawf mynediad ar gyfer cael mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1, efallai bod myfyrwyr eraill wedi bod allan o fyd addysg ers tro ac yn teimlo bod angen cymorth arnynt i ddychwelyd i amgylchedd dysgu. Efallai bod rhai dysgwyr yn pryderu am addasu o amgylchedd addysgu Coleg i Brifysgol. Beth bynnag yw eich rheswm dros ystyried Blwyddyn Sylfaen, mae Y Coleg, Prifysgol Abertawe, yn darparu rhwydwaith cymorth cryf ar gyfer myfyrwyr sy’n sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer astudio israddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Y Flwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0) yw eich llwybr at radd anrhydedd. Pan fyddwch yn astudio yn Y Coleg, sydd wedi’i leoli ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, gallwch fanteisio ar yr holl gyfleusterau a chymorth ar draws y Brifysgol o ddiwrnod cyntaf eich astudiaethau. Wedi i chi gwblhau’r Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn ymuno â myfyrwyr ym Mlwyddyn 1 y radd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd wedi’i lleoli ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.
Dyma sampl o destunau y byddwch yn eu hastudio yn ystod eich blwyddyn sylfaen:
Busnes Meddwl yn Feirniadol
Economeg Globaleiddio
Sgiliau Dysgu Rhyngweithiol a Chyfathrebu
Cewch deimlo’n rhan o’r gymuned mewn amgylchedd hamddenol ac anogol lle byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, gan eich galluogi i ddod i adnabod eich darlithwyr a myfyrwyr eraill sy’n astudio yn Y Coleg. Gydag athroniaeth addysgol bersonoledig a chefnogol, byddwch yn cael eich annog i gyrraedd eich potensial academaidd gorau. Mae myfyrwyr o amryw wledydd a chyfuniad o gefndiroedd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ymhellach.
•I gael y wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i: swansea.ac.uk/cy/gwyddorau-cymdeithasol •Dylai myfyrwyr tramor (nad ydynt o’r Undeb Ewropeaidd) fynd i swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/cyfadrannau/y-coleg i gael mwy o wybodaeth.
Mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn ddifyr a chofiadwy iawn hyd yma. Mae’r darlithwyr wedi bod yn eithriadol o gymwynasgar, yn enwedig yn rhoi adborth ac yn trefnu cyfarfodydd i roi esboniad pellach am gysyniadau nad oeddwn i’n eu deall, pan oedd angen.
HRISHA RAMJEE Economeg, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.
Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,
byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Cwblheais flwyddyn yn astudio dramor ym Mhrifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada. Y peth gorau oedd teithio a chwrdd â llawer o bobl newydd. Roedd hyn wedi fy ngalluogi i ehangu fy ngorwelion a thyfu fy rhwydwaith proffesiynol. Byddwn yn argymell y profiad cant y cant; dyma oedd hoff ran fy ngradd hyd yn hyn.
HELENA BAILEY Blwyddyn Dramor: Prifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.
Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.
Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.
MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS
Yn ystod fy ail flwyddyn, manteisiais ar yr adnoddau a ddarparodd y tîm i’m helpu i sicrhau lleoliad. Roeddwn i hefyd yn gwybod y bydden i’n gallu mynd i siarad â’r tîm i gael cymorth ar unrhyw adeg, pe bai angen. Yn ystod fy mlwyddyn lleoliad, roedd Cydlynydd Cyflogadwyedd o’r tîm yn cysylltu â mi bob mis, a helpodd hyn i mi gynnal fy nghysylltiad i astudio, a’r cysylltiad â’r Brifysgol. Fe wnaeth y lleoliad wella fy sgiliau, a chynyddu fy hyder, yn ogystal ag ennill profiad a gwybodaeth am sut beth yw amgylchedd proffesiynol, a sut mae’n gweithio.
MARTIN SPEKE Lleoliad : EDF, UK
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD DYFODOL
Dadansoddwr Masnachwr Deilliadau
Econometrydd Economegydd
Dadansoddwr Ariannol Cynghorydd Llywodraeth
Ymgynghorydd Rheoli Ymchwilydd
Mae fy mhedair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Economeg wedi bod yn bleserus iawn ac mae’r ystod o weithgareddau allgyrsiol sydd ar gael i fyfyrwyr yn enfawr. Yn ystod fy ail flwyddyn roeddwn wedi ymrestru ar y modiwl cyflogadwyedd a oedd yn anelu at helpu myfyrwyr i gael lleoliad. Roedd fy lleoliad gyda Lidl wedi rhagori ar fy holl ddisgwyliadau, ac roedd gweithio mewn amgylchedd cyflym a heriol wedi cyflymu fy natblygiad proffesiynol.
BETH STENT Cwmni: Lidl, DU | Rôl: Hyfforddai Rhyngwladol
ENGHREIFFTIAU BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
MOLLY WYATT Cwmni: Gymshark Rôl: Lleoliad Gwaith
ANGELIKA KONSTANTINOVA Cwmni: Microsoft Rôl: Rheolwr Prosiect
MOHAMMED MAZHAR HUSSAIN Cwmni: Enterprise Rent a Car Rôl: Hyfforddai Rheoli
MAX INGHAM Cwmni: Microsoft Rôl: Rheolwr Rhaglen Busnes
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu
PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS
MERCHED MEWN BUSNES
BUDDSODDI A CHYLLID
ECONOMEG
BUSNES
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Byddwn i’n dweud wrth fyfyrwyr sy’n ystyried Prifysgol Abertawe y gallant deimlo sicrwydd y byddant yn cael cymorth gan staff academaidd rhagorol a fydd bob amser yn eich cyfarch â chroeso cynnes. Mae’r Brifysgol yn buddsoddi cymaint yn ei myfyrwyr er mwyn darparu’r adnoddau a’r cyfleusterau gorau ar eu cyfer. Mae cymaint o gyfleoedd y tu allan i’r byd academaidd hefyd, fel y cymdeithasau a’r digwyddiadau allanol amrywiol sy’n cael eu trefnu’n dda.
KIERAN GREGORY Economeg, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae Economeg ei hun mor ddiddorol ac yn edrych ar y ffordd y mae’r byd yn gweithredu. Gall hefyd arwain at amrywiaeth o swyddi mewn llywodraeth, ym maes cyllid neu mewn sefydliadau mawr, lle gallwch chi chwarae eich rhan mewn llunio polisïau a ffurfio penderfyniadau busnes mawr. Ymunais â Phrifysgol Abertawe trwy’r System Glirio ac rwy’n falch fy mod i wedi gwneud hynny. Mae gan y Brifysgol enw rhagorol am addysgu, ac mae’r lleoliad yn berffaith. Wrth ymchwilio i’r cwrs, sylweddolais i ba mor ddiddorol ydoedd a’r ffaith fod economeg i gyd yn ymwneud â’r byd rydym ni’n byw ynddo; pam mae pobl yn gwneud y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud, a sut gall hyn effeithio ar bolisïau llywodraethau a’r ffordd y mae gwledydd yn gweithredu ar lwyfan byd-eang.
EMMA SKINNER Economeg, BSc (Anrh)
Mae safleoedd y Brifysgol yn drawiadol iawn, ac fe wnaeth y cyfleusterau diweddaraf ar y campws argraff fawr arna’ i. Mae gan Abertawe enw da am gael cymuned ryngwladol gref, hefyd. Mae dod i Abertawe wedi dysgu i mi sut i ryngweithio ag ystod amrywiol o bobl, gan gynnwys darlithwyr a myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Mae’r Brifysgol yn amlddiwylliannol, ac roedd yn hyfryd gwneud ffrindiau gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd, a chael fy addysgu gan ddarlithwyr sydd â gwahanol arbenigeddau a phrofiad.
GIANLUCA FRISINA Economeg a Chyllid, BSc (Anrh)
Dewisais i Brifysgol Abertawe am y cyfleusterau, yn bennaf. O gymharu â phrifysgolion eraill, roedd hon yn amlwg iawn, ac roeddwn i wir yn hoffi hyblygrwydd y cwrs. Mae gweithio i Siemens yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau trosglwyddadwy, magu fy hyder mewn busnes ac ehangu fy rhwydwaith. Roedd fy rôl o fewn y sector Gwobrwyo a Pholisi, a gweithiais ar amrywiaeth o brosiectau a’m helpodd i ddatblygu’n bersonol. Trwy fy lleoliad, llwyddais i fynd ymlaen i wneud Lleoliad Haf yn gweithio ar Brosiect Brexit, ac fe gynigion nhw swydd i mi ar ôl i mi raddio, hyd yn oed.
JODIE HENNEH Economeg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae’r amrywiaeth o fodiwlau yn wych, ac fe wnaethon nhw fy ngalluogi i deilwra fy ngradd i’r hyn mae gen i ddiddordeb llwyr ynddo. Fe wnes i wir fwynhau’r modiwl Economeg Llafur, a’i ddefnyddio yn fy nghyfweliad swydd ar gyfer fy rôl gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’r amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch chi ymuno â nhw mor drawiadol. Roeddwn i’n rhan o’r Gymdeithas Masnachu Buddsoddiadau a’r Gymdeithas Drafod.
OSMAN FAISAL Economeg, BSc (Anrh)
YMCHWIL
Nodau ein Hysgol yw llunio ymchwil gydweithredol, arloesol, ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a mwyaf craff o bob cwr o’r wlad. Rydym ni’n creu cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, partneriaid a sefydliadau cydweithredol, a myfyrwyr, trwy waith partneriaeth ymgorfforedig a pherthnasoedd â chyn-fyfyrwyr. O ganlyniad, mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn gartref i brosiectau ymchwil pwysig sy’n chwarae rôl bwysig mewn ffurfio’r economi a llywio polisïau’r llywodraeth.
PROSIECTAU A PHARTNERIAETHAU YMCHWIL
SUT RYDYM NI’N GWNEUD GWAHANIAETH Darparu cyngor polisi economaidd yn seiliedig ar dystiolaeth Gwella ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r economi Rydym ni’n ganolfan ymchwil ddynodedig Llywodraeth Cymru
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn hanfodol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu llywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno i’n myfyrwyr. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:
Economeg Polisi Cymdeithasol
Athroniaeth Cysylltiadau Rhyngwladol
Cymdeithaseg Gwyddor Gwleidyddiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ymchwil
CYFLEUSTERAU
HYB CYFLOGADWYEDD Mae myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd dynodedig. Mae gan y tîm hanes o gael swyddi i fyfyrwyr ac yn gallu eich cynorthwyo trwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal â chynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. GOFODAU CYMDEITHASOL A GOFODAU ASTUDIO AR GYFER MYFYRWYR Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol amrywiaeth o ofodau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael ychydig o amser tawel i astudio. Mae nifer o socedi trydanol a phyrth, ynghyd â Wi-Fi ar draws yr adeiladau, yn cynorthwyo mynediad at adnoddau digidol. DARLITHFEYDD AC YSTAFELLOEDD SEMINAR Mae’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf wedi’i gosod yn ein hystafelloedd addysgu, gan gynnwys technoleg cofnodi darlithoedd, i’ch galluogi i ailedrych ar unrhyw un o’ch darlithoedd ar-lein ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael profiad o addysgu mewn darlithfeydd, sy’n gallu dal dros 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai, sy’n gallu dal hyd at 30, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personoledig gyda darlithwyr a thiwtoriaid.
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.
MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU
E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk
www.swansea.ac.uk/cy/gwyddorau- cymdeithasol
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28Made with FlippingBook HTML5