BLWYDDYN SYLFAEN
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu llawn botensial academaidd, gan greu llwybr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn amryw feysydd. Mae myfyrwyr yn dewis cwblhau Blwyddyn Sylfaen fel rhan o’u rhaglen gradd am lawer o resymau. Efallai nad yw rhai myfyrwyr yn bodloni’r meini prawf mynediad ar gyfer cael mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1, efallai bod myfyrwyr eraill wedi bod allan o fyd addysg ers tro ac yn teimlo bod angen cymorth arnynt i ddychwelyd i amgylchedd dysgu. Efallai bod rhai dysgwyr yn pryderu am addasu o amgylchedd addysgu Coleg i Brifysgol. Beth bynnag yw eich rheswm dros ystyried Blwyddyn Sylfaen, mae Y Coleg, Prifysgol Abertawe, yn darparu rhwydwaith cymorth cryf ar gyfer myfyrwyr sy’n sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer astudio israddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Y Flwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0) yw eich llwybr at radd anrhydedd. Pan fyddwch yn astudio yn Y Coleg, sydd wedi’i leoli ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, gallwch fanteisio ar yr holl gyfleusterau a chymorth ar draws y Brifysgol o ddiwrnod cyntaf eich astudiaethau. Wedi i chi gwblhau’r Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn ymuno â myfyrwyr ym Mlwyddyn 1 y radd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd wedi’i lleoli ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe.
Dyma sampl o destunau y byddwch yn eu hastudio yn ystod eich blwyddyn sylfaen:
Busnes Meddwl yn Feirniadol
Economeg Globaleiddio
Sgiliau Dysgu Rhyngweithiol a Chyfathrebu
Cewch deimlo’n rhan o’r gymuned mewn amgylchedd hamddenol ac anogol lle byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, gan eich galluogi i ddod i adnabod eich darlithwyr a myfyrwyr eraill sy’n astudio yn Y Coleg. Gydag athroniaeth addysgol bersonoledig a chefnogol, byddwch yn cael eich annog i gyrraedd eich potensial academaidd gorau. Mae myfyrwyr o amryw wledydd a chyfuniad o gefndiroedd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ymhellach.
•I gael y wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i: swansea.ac.uk/cy/gwyddorau-cymdeithasol •Dylai myfyrwyr tramor (nad ydynt o’r Undeb Ewropeaidd) fynd i swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/cyfadrannau/y-coleg i gael mwy o wybodaeth.
Made with FlippingBook HTML5