Economeg

Mae safleoedd y Brifysgol yn drawiadol iawn, ac fe wnaeth y cyfleusterau diweddaraf ar y campws argraff fawr arna’ i. Mae gan Abertawe enw da am gael cymuned ryngwladol gref, hefyd. Mae dod i Abertawe wedi dysgu i mi sut i ryngweithio ag ystod amrywiol o bobl, gan gynnwys darlithwyr a myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Mae’r Brifysgol yn amlddiwylliannol, ac roedd yn hyfryd gwneud ffrindiau gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd, a chael fy addysgu gan ddarlithwyr sydd â gwahanol arbenigeddau a phrofiad.

GIANLUCA FRISINA Economeg a Chyllid, BSc (Anrh)

Dewisais i Brifysgol Abertawe am y cyfleusterau, yn bennaf. O gymharu â phrifysgolion eraill, roedd hon yn amlwg iawn, ac roeddwn i wir yn hoffi hyblygrwydd y cwrs. Mae gweithio i Siemens yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau trosglwyddadwy, magu fy hyder mewn busnes ac ehangu fy rhwydwaith. Roedd fy rôl o fewn y sector Gwobrwyo a Pholisi, a gweithiais ar amrywiaeth o brosiectau a’m helpodd i ddatblygu’n bersonol. Trwy fy lleoliad, llwyddais i fynd ymlaen i wneud Lleoliad Haf yn gweithio ar Brosiect Brexit, ac fe gynigion nhw swydd i mi ar ôl i mi raddio, hyd yn oed.

JODIE HENNEH Economeg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae’r amrywiaeth o fodiwlau yn wych, ac fe wnaethon nhw fy ngalluogi i deilwra fy ngradd i’r hyn mae gen i ddiddordeb llwyr ynddo. Fe wnes i wir fwynhau’r modiwl Economeg Llafur, a’i ddefnyddio yn fy nghyfweliad swydd ar gyfer fy rôl gyda’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’r amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch chi ymuno â nhw mor drawiadol. Roeddwn i’n rhan o’r Gymdeithas Masnachu Buddsoddiadau a’r Gymdeithas Drafod.

OSMAN FAISAL Economeg, BSc (Anrh)

Made with FlippingBook HTML5