ARBENIGEDD YMCHWIL
Mae ein hymchwil yn bwydo’n uniongyrchol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol sy’n golygu y byddwch yn dysgu am y pynciau mwyaf blaengar. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:
Yswiriant risg seiber: meithrin cydnerthedd yng Nghymru Datblygu cyfraith amgylcheddol Hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru Diogelu cyfrinachau masnach ar-lein Cryfhau tystiolaeth mewn ymchwiliadau hawliau dynol Yswiriant morol cynaliadwy Naratifau terfysgol a lledaenu propaganda Effaith clymog Japan ar brynu cartref.
SBOTOLAU AR YMCHWIL:
YR ATHRO STUART MACDONALD, ATHRO Y GYFRAITH
Mynd i’r Afael â Gweithgareddau Ar-lein Terfysgwyr
Mae grwpiau terfysgol yn defnyddio’r rhyngrwyd at amrywiaeth o ddibenion, o ledaenu propaganda a recriwtio i godi arian a rhyfela seicolegol. Mae datblygu ymatebion sy’n effeithiol ac sy’n cynnal parch at hawliau dynol a gwerthoedd sylfaenol yn un o’r heriau mwyaf anodd heddiw, ac mae’n ffocws allweddol i waith yr Athro Stuart Macdonald.
Stuart yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Fygythiadau Seiber, sy’n cynnal y Gynhadledd Terfysgaeth a Chyfryngau Cymdeithasol ddwywaith y flwyddyn (TASM), gan ddod â dros 200 o fynychwyr ynghyd o bob rhan o’r byd, i rannu’r ymchwil ddiweddaraf a thrafod materion amlwg mewn perthynas â gwrthderfysgaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/y-gyfraith/ymchwil-ysgol-y-gyfraith
Made with FlippingBook HTML5