Y Gyfraith

CYFLEUSTERAU Rydym yn darparu addysg a arweinir gan ymchwil sy’n

canolbwyntio ar sgiliau, a gaiff ei hybu gan gyfleusterau blaengar, gan roi cyfle i’n myfyrwyr drochi eu hunain mewn cymuned sy’n hyrwyddo cydweithio a datblygu. CLINIG Y GYFRAITH Mae’r Clinig Cyfraith pro bono arobryn wedi ei leoli mewn gofod proffesiynol, pwrpasol. Mae’r Clinig yn cynnwys derbynfa, ystafelloedd cyfweld cleientiaid, mannau cydweithio myfyrwyr a swyddfeydd staff. Hefyd ceir gofod sylweddol lle gall ein helusennau partner, sefydliadau anllywodraethol ac asiantaethau gwirfoddol gydweithio mewn amgylchedd creadigol anffurfiol. MANNAU I FYFYRWYR Mae ein dau adeilad yn cynnig mannau astudio a chymdeithasol cynllun agored. Dyluniwyd y cynllun i gynnig gofod gweithio hyblyg, sy’n golygu y gellir symud dodrefn yn hawdd i gynnwys astudiaeth unigol neu waith grwp. Mae socedi trydan lluosog ynghyd â chysylltedd Wi-Fi yn cynorthwyo mynediad i adnoddau digidol. YSTAFELL FFUG LYS Mae ein hystafell lys yn cynnwys dodrefn ystafell lys wirioneddol, sy’n hyrwyddo amgylchedd dysgu rhyngweithiol ac sy’n helpu myfyrwyr i ennill sgiliau eiriolaeth. Mae dadlau yn rhan allweddol o’n cyfres o ddysgu allgwricwlaidd drwy brofiad, gan helpu i feithrin hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau ymchwil, a gwella rhagolygon cyflogadwyedd. Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau dadleuon rhanbarthol a chenedlaethol. YSTAFELLOEDD ADDYSGU Cafodd pob un o’n hystafelloedd addysgu eu huwchraddio i ymgorffori technolegau addysgu o’r radd flaenaf. Mae sgriniau digidol mawr yn darparu offer rhyngweithiol, sy’n annog trafodaeth fywiog, cydweithio grwp a gwaith tîm. Mae’r cyfleusterau ‘dal darlithoedd’ yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cyfeirio’n ôl at holl ddeunyddiau’r cwrs yn ystod cyfnodau adolygu.

Made with FlippingBook HTML5