CYMRAEG CAMPWS SINGLETON
100 % AMGYLCHEDD YMCHWIL SY'N ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSYRIR BOD
RHAGLENNI YMCHWIL
• Cymraeg MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA
RHAGLENNI A ADDYSGIR
PAM ABERTAWE? • Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil yn rhan o'n Canolfan y Graddedigion, sy'n darparu cymorth bugeiliol a gweinyddol. Mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth sgiliau ymchwil, yn ogystal â hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i'r gymuned ymchwil ôl-raddedig. • Mae gennym labordai â'r feddalwedd ddiweddaraf yn y diwydiant cyfieithu, ynghyd ag ystafell sy'n efelychu cyfieithu ar y pryd mewn cynhadledd a'r cyfarpar diweddaraf i olrhain symudiadau'r llygad. • Byddi di'n astudio ar ein campws Parc Singleton llawn bwrlwm, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe. • Mae academyddion Adran y Gymraeg wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol Cymru fel beirniaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fel golygyddion cylchgronau, megis Barn, Taliesin, Ysgrifau Beirniadol a Dwned. Mae tri aelod o staff yr Adran hefyd wedi ennill y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. HEFYD, GELLI DY YSTYRIED • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg, PGCert • Llenyddiaeth Saesneg Cymru, MA ARIANNU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
• Cyfieithu Proffesiynol MA ALl RhA
Wyt ti'n frwd am yr iaith Gymraeg a'i diwylliant ? Ymuna â ni yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, rydym yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil ardderchog mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys y cyfryngau a ffilm, llenyddiaeth, polisi dwyieithog, ysgrifennu creadigol, hanes diwylliannol a chymdeithasol a chynllunio iaith. Cei di gyfle hefyd i ymchwilio i'r pynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i ti a chyfrannu at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.
YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae PhD, MPhil neu MA drwy Ymchwil yn yr Adran Gymraeg yn dy alluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol yn seiliedig ar dy frwdfrydedd a dy ddiddordebau personol mewn diwylliant Cymraeg. • Gall y rhaglenni ymchwil gynnig llwybr i yrfa academaidd, neu ehangu dy gyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat. • Mae meysydd ymchwil yn cynnwys; dwyieithrwydd a chynllunio ieithyddol, ysgrifennu creadigol, diwylliant cymoedd diwydiannol De Cymru, drama a ffilm, llenyddiaeth
• Mae’r MA a addysgir mewn Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi cyfle i ti ddatblygu sgiliau arbenigol mewn dehongli i wasanaethau cyhoeddus, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg a mwy. • Mae ein staff sy'n weithgar ym maes ymchwil yn gweithio’n gyson i wneud gwahaniaethau a chyfraniadau go iawn yng Nghymru a thu hwnt.
drwy'r oesoedd, beirniadaeth lenyddol, sosioieithyddiaeth,
technegau a thechnoleg cyfieithu, Cymraeg i oedolion a chaffael iaith.
Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 48
88
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online