Shw’mae a
Chroeso
sgania i wylio:
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o’n traddodiad o gefnogi, hyrwyddo a chyfoethogi’r diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg trwy ddarparu profiad Cymraeg a Chymreig mewn Prifysgol sydd ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol. Mae parhau i dderbyn dy addysg trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio trwy gyfrwng yr iaith mewn ysgol neu goleg addysg bellach yn fantais werthfawr o ran dy ddatblygiad personol. Byddi di’n cael dy addysgu gan rai o ysgolheigion mwyaf blaenllaw Cymru o fri rhyngwladol. Ond yn fwy na hynny, byddi di’n rhan o gymuned Gymreig anhygoel. Mae Prifysgol Abertawe yn darparu ymdeimlad cartrefol a chroesawgar trwy ddarparu ystod eang o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Dere i brofi popeth sydd gan Abertawe i’w gynnig yn un o’n Diwrnodau Agored. Dysgu
CADWA DY LE
ACADEMI HYWEL TEIFI
DYSGA FWY
Wrth galon y Brifysgol mae Academi Hywel Teifi sy’n darparu cymuned i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad a dysgu Cymraeg yma. Maen nhw’n hybu addysg ac ymchwil o’r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gartref hefyd i gangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Academi yn cefnogi myfyrwyr sy’n dymuno astudio eu cwrs yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg.
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
DYSGA FWY
Rydym yn gweithio ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Coleg yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth wrth i ti astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gangen yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn gan gynnwys digwyddiadau croeso i lasfyfyrwyr, digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, a fforymau trafod i roi llais i fyfyrwyr ar eu haddysg a’u profiad addysgol.
Made with FlippingBook HTML5