AP ARWAIN
DYSGA FWY
YSGOLORIAETHAU
Lawrlwytha ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghyd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol sydd ar gael. Cei wybodaeth hefyd am y cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.
Trwy astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae cyfle arbennig i ti gael cymorth ariannol. Mae nifer uchel o gyrsiau’n gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac ysgoloriaethau a bwrsariaethau Academi Hywel Teifi.
LAWRLWYTHA’R AP
Rydym ni yma i ti
CANOLFAN LLWYDDIANT ACADEMAIDD
DYSGA FWY
Bydd y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn dy helpu i ddatblygu dy sgiliau astudio academaidd er mwyn cyflawni dy nodau. Maen nhw’n cynnig cyngor arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau academaidd. Mae’r ddarpariaeth hon wedi ei theilwra ar gyfer y cyd-destun Cymraeg, a rhoddir sylw i anghenion penodol myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys ymarferion dwyieithog, technoleg a meddalwedd priodol, yn ogystal â’r sgiliau sy’n gyffredin i fyfyrwyr o unrhyw iaith - meddwl yn feirniadol, cyfansoddi dadl, cyfeirio ac aralleirio, a sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio.
DYSGA FWY
SWYDDOG MATERION CYMRAEG UNDEB Y MYFYRWYR
Mae’r Swyddog Materion Cymraeg yn un o chwe swyddog llawn amser Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n cael ei ethol bob blwyddyn. Prif gyfrifoldebau’r swydd yw sicrhau bod gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, hawliau cyfartal, a sicrhau bod yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth at graidd popeth y mae’r Brifysgol yn ei wneud. Y nod yw sicrhau bod pob myfyriwr, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, yn byw o fewn y DU neu dramor, yn cael profiad Cymraeg yn y Brifysgol.
LLES A CHYMORTH
CYFLOGADWYEDD
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae dy les yn bwysig i ni! Bydd ein gwasanaethau lles yn sicrhau y byddi di’n cael y budd mwyaf o dy astudiaethau a dy fywyd personol yn ystod dy gyfnod yn Abertawe. Gelli di gael mynediad at: •Myf.Cymru - gofod i siaradwyr Cymraeg gael mynediad at gymorth iechyd meddwl •Togetherall - cymorth 24/7 gyda chlinigwyr hyfforddedig ar-lein bob amser •Student Space gan Student Minds •Cymorth Lles •Adnoddau Hunangymorth •Gweithgareddau am ddim yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Chymorth Astudio – gan gynnwys sesiynau rhoi cwtsh i gi! DYSGA FWY
Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi myfyrwyr at waith yn y dyfodol. Mae Academi Hywel Teifi yn gweithio’n agos gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) ac yn sicrhau bod cyfleoedd i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a’i fod yn parhau’n ffocws pwysig drwy gydol dy astudiaethau.
DYSGA FWY
Mae’r cyfleoedd yn cynnwys: •Tystysgrif Sgiliau Iaith trwy’r Coleg Cymraeg •Profiadau gwaith • Cwrs Datblygu Gyrfa •Gweithio fel Myfyrwyr Llysgennad i’r Coleg Cymraeg neu i’r Brifysgol
Made with FlippingBook HTML5