Byw Mae’r iaith Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd yma yn Abertawe. Rydym yn enwog am ein cymuned Gymreig glos. Mae yna ddigonedd o gyfleoedd ar gael i fyfyrwyr fyw a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ar y campws ac oddi arno. Mae’n gyfle gwych i ti wneud ffrindiau newydd.
CYMDEITHASAU
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym Y GymGym ac Aelwyd yr Elyrch sy’n rhoi cyfleoedd amrywiol i ti gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Maen nhw’n cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol gan gynnwys tripiau rygbi, crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol, gwirfoddoli yn y gymuned leol a llawer mwy. Neu os wyt ti’n hoff o chwaraeon, mae gennym Rygbi Tawe. Dyma’r cyfle perffaith i ti gwrdd â myfyrwyr newydd ar y cae rygbi.
DYSGA FWY
DISCOVERY
LLETY
Ffordd wych arall o wneud ffrindiau newydd yw trwy wirfoddoli gyda’n helusen a arweinir gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Discovery. Gelli di ddysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned leol ac, yn fwyaf oll, gelli di wella dy CV trwy gael hwyl. Mae Discovery wedi derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan
I gefnogi’n cymuned gref o fyfyrwyr Cymraeg yma, rydym wedi creu aelwydydd Cymraeg ar Gampws Parc Singleton ac ar Gampws y Bae ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr eraill.
Gomisiynydd y Gymraeg am ei hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant drwy amryw o fentrau megis darparu cyfleoedd gwirfoddoli yn y Gymraeg a Chlwb Cymraeg.
DYSGA FWY
DYSGA FWY
CYMRAEG YN Y DDINAS
Wrth galon y ddinas mae Ty Tawe sef Canolfan Gymraeg y ddinas, lle gelli di gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau o glybiau darllen i gigs a nosweithiau comedi, neu elli di alw mewn i’r siop am dy gardiau, llyfrau, anrhegion a nwyddau Cymraeg. Mae’r ganolfan yn gartref i Fenter Iaith Abertawe sydd hefyd yn trefnu llu o ddigwyddiadau iaith Gymraeg amrywiol ar draws Abertawe, fel Coffi a Chlonc - sesiwn sgwrsio anffurfiol i siaradwyr newydd, Siop Siarad a llu o
fandiau Cymraeg gan gynnwys Candelas, Adwaith a Bwncath. Un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau Abertawe yw Gwyl Tawe. Mae’r Wyl yn cynnwys perfformiadau gan lu o artistiaid amgen, cyfoes sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous. Rhai o enwau mawr sydd wedi perfformio yw N’famady Kouyaté, HMS Morris, Mellt, a llawer mwy.
DYSGA FWY
Made with FlippingBook HTML5