Postgraduate Prospectus - WELSH

ECONOMEG

YNGLYN Â’R ADRAN:

MEYSYDD ARBENIGEDD:

• Economeg Llafur • Anghydraddoldeb Cyflogau • Economeg Gwahaniaethu • Hyfforddiant • Economi Cymru • Economeg Addysg • Economeg Chwaraeon • Dadansoddi Cylch Busnes

Mae ein cyrsiau MSc Economeg wedi’u cynllunio i’ch paratoi am yrfa mewn llywodraeth neu fusnes, fel economegydd, neu i astudio am PhD mewn Economeg neu yrfa ymchwil. Ym myd busnes, mae economeg yn helpu i ddeall cymhellion a gweithredoedd cwsmeriaid, cyflenwyr, cystadleuwyr, gweithwyr ac arianwyr. Felly, mae’n chwarae rôl hollbwysig wrth lywio prosesau penderfynu strategol a gweithredol rheolwyr a chyfarwyddwyr. Byddwch yn cael eich addysgu gan arweinwyr sectorau ac arbenigwyr ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n cynghori sefydliadau ac asiantaethau llywodraethau’n rheolaidd ar ddatblygu polisi ac ymchwil economaidd, yn ogystal â chyhoeddi mewn cyfnodolion ymchwil blaenllaw. Byddwch yn elwa o’r cyfle i gydweithio ochr yn ochr â chwmnïau megis Fujitsu ar Gampws y Bae arloesol yn ei leoliad ysblennydd ger y traeth.

13 EG YN Y DU AM WERTH YCHWANEGOL (Complete University Guide 2020/21)

UN O’R 5 YSGOL ORAU YN Y DU AM GYFLOGAU GRADDEDIGION, ECONOMEG (Complete University Guide 2018)

Wrth iddynt astudio yn Abertawe, mae ein myfyrwyr yn mireinio eu galluoedd dadansoddi a’u sgiliau gwneud penderfyniadau. Maent yn ymarfer, yn cymhwyso ac yn mireinio eu sgiliau ymchwilio a gwerthusiad beirniadol er mwyn llunio cyngor priodol ar bolisi i’w roi ar waith yn y byd go iawn ar gyfer llywodraethau, cymdeithas a busnesau. Bydd y sgiliau soffistigedig, amlochrog a throsglwyddadwy maent yn eu meithrin yn agor drysau neu’n darparu pont i amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa eraill mewn masnach, diwydiant a’r byd academaidd.

Yr Athro Steve Cook PENNAETH YR ADRAN ECONOMEG

51

51

Made with FlippingBook HTML5