Postgraduate Prospectus - WELSH

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc ECONOMEG A CHYLLID

Mae’r cynllun ar y cyd hwn yn rhoi sylfaen gynhwysfawr i fyfyrwyr yn nifer o’r prif gysyniadau, dulliau modelu a thechnegau ymchwil a ddefnyddir mewn agweddau allweddol ar economeg (megis microeconomeg, macroeconomeg ac econometreg), sydd hefyd â dibenion pwysig mewn cyllid. Bydd y cwrs o ddiddordeb penodol i chi os ydych yn cynllunio gyrfa yn y diwydiant cyllid neu rôl sy’n galw am sgiliau dadansoddi uwch. Mae cysylltiad agos rhwng economeg a chyllid ac weithiau ystyrir bod cyllid yn faes arbenigol o fewn economeg. Felly, yn ogystal â’ch galluogi i archwilio amrywiaeth o bynciau yn nisgyblaethau cyllid ac economeg, bydd yr agweddau amrywiol ar y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer nifer o lwybrau gyrfa gwahanol.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn y DU/UE: £9,650 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £17,900 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gyfwerth dramor). Gofynion iaith Saesneg: IELTS 6.0 neu uwch gan gynnwys o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Bancio Buddsoddi • Uwch-rolau Cyllid mewn Sefydliadau Rhyngwladol • Ymgynghori ar Reoli

• Microeconomeg • Llywodraethu a Moeseg Gorfforaethol • Cyllid Ymddygiadol • Ecwitïau a Gwarantau Incwm Sefydlog

53

Made with FlippingBook HTML5