Y BROSES YMGEISIO
Y BROSES AR GYFER RHAGLENNI ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR:
Dewiswch y cwrs yr hoffech wneud cais amdano.
1
2
Gwiriwch ofynionmynediad y cwrs.
3
Cyflwynwch gais ar-lein drwy sganio’r côd QR isod.
4
Byddwch yn derbyn e-bost sy’n cynnwys eich rhif myfyriwr.
5
Anfonir eich llythyr penderfyniad atoch drwy e-bost.
Y BROSES YMGEISIO AR GYFER RHAGLENNI YMCHWIL ÔL-RADDEDIG:
Craffwch ar arbenigedd ymchwil yr Ysgol i sicrhau bod cynigion PhD yn cydweddu’n dda â darpar oruchwylwyr. Mae croeso mawr i chi drefnu cyfarfod gyda staff perthnasol yn eich maes i drafod eich cynnig cyn ei gyflwyno. Nodwch bwnc ymchwil perthnasol a pharatoi cynnig ymchwil manwl i’w gynnwys gyda’ch cais. Cyflwynwch gais ar-lein yn swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ ymchwil/gwneud-cais Yn eich cais, rhowch enwau’r aelodau staff rydych wedi’u nodi fel eich goruchwyliwr cyntaf a’ch ail oruchwyliwr. Byddai’n syniad da i chi gysylltu â ni cyn cyflwyno eich cais. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn nodi goruchwylwyr priodol a lle bo hynny’n briodol, gallwn weithio gyda chi i fireinio eich cynnig. Os hoffech wneud hynny, dylech gysylltu â thîm Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol yn y lle cyntaf drwy sganio’r côd QR isod.
1
2
3
4
CYSYLLTWCH Â NI E -BOST: astudio@abertawe.ac.uk FFÔN: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth
60
Made with FlippingBook HTML5