Postgraduate Prospectus - WELSH

PAM ASTUDIO YN

Abertawe?

BYWYD ABERTAWE Dinas sy’n cynnig y cyfan. Canol y ddinas, y traeth, y campysau: mae’n hawdd ac yn gyflym cyrraedd pen eich taith. P’un a ydych yn gwirioni ar chwaraeon, yn dwlu ar ddiwylliant neu’n awchu am antur awyr gored, bydd digon i’ch difyrru rhwng darlithoedd. Mae gan Benrhyn Gwyr bum traeth sydd wedi ennill Baner Las – o gildraethau llonydd i fannau poblogaidd i gynnal barbeciw traeth. Dyma faes chwarae perffaith ar gyfer anturiaethau awyr agored. Gallwch fynd ar gefn beic, loncian neu grwydro’n hamddenol ar hyd y promenâd i’r Mwmbwls, pentref swynol ar lan y môr lle gallwch brynu’r hufen iâ gorau. Ar ddiwrnodau gwlyb, gallwch ymweld ag Oriel Glynn Vivian a’r Mission Gallery yng nghanol y ddinas a’r Ganolfan Eifftaidd ar Gampws Singleton. Dylai’r rhai llengar yn eich plith ymweld o leiaf unwaith â chartref Dylan Thomas hefyd. Does dim lle gwell na’r Ardal Forwrol am ddiod ger y môr. Yn ogystal â chaffis a bariau mae’n gartref i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n rhad ac am ddim.

BYWYD CAMPWS Mae Campws y Bae’n cynnig lle unigryw i fyfyrwyr fyw ac astudio gan fod Abertawe’n un o’r ychydig brifysgolion yn y byd sy’n meddu ar ei thraeth ei hun. Mae’r campws hefyd yn cynnig amrywiaeth drawiadol o gyfleusterau i fyfyrwyr, gan gynnwys llety en- suite, llyfrgell o’r radd flaenaf, casgliad mawr o gyfleusterau manwerthu a hamdden a gwasanaethau cymorth myfyrwyr heb eu hail. Mae’r Campws, sy’n gartref i’r Coleg Peirianneg a’r Ffowndri Gyfrifiadol, yn darparu amgylchedd o safon fyd-eang ar gyfer cydweithrediadau ymchwil, dysgu ac addysgu, mentergarwch ac arloesi.

PROFIAD RHAGOROL I FYFYRWYR Cewch gyfleoedd niferus i ryngweithio â myfyrwyr ôl-raddedig eraill, siaradwyr cyhoeddus, academyddion o fri rhyngwladol ac arweinwyr diwydiant drwy ddarlithoedd, seminarau a digwyddiadau rhwydweithio.

7

Made with FlippingBook HTML5