Sail Magazine 2020 [CYM]

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

JASON MOHAMMAD

BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1996. CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU.

Mae gan Anne genhadaeth i weddnewid y sector bancio er mwyn darparu profiad gwell i gwsmeriaid. A hithau’n bennaeth banc sefydledig yn y DU, mae Anne hefyd yn eiriolwr pwerus dros benodi rhagor o fenywod i rolau blaenllaw mewn busnes. Beth wnaeth i chi benderfynu astudio Cyfrifiadureg a Chemeg yn Abertawe? Mae un o’r lluniau cynharaf sydd gen i o’m plentyndod yn fy nangos ym mreichiau fy nhad wrth iddo sefyll y tu allan i gampws Prifysgol Abertawe. Ces i fy ngeni a’m magu yn y ddinas ac roedd pawb yn falch iawn o’r brifysgol. Roeddwn i wedi penderfynu astudio meddygaeth ac roeddwn i’n bwriadu teithio ymhellach am fy ngradd. Doedd fy nghanlyniadau Safon Uwch ddim cystal ag roeddwn i’n gobeithio, felly treuliais i fore hir ar y ffôn yn siarad â phrifysgolion amrywiol i weld beth oedd ar gael. Yn y diwedd, ces i sgwrs â rhywun yn Abertawe a soniodd am radd mewn Cyfrifiadureg a’r eiliad clywais i hynny, roeddwn i’n meddwl dyna’r hyn dwi eisiau ei wneud. Roedd yn cyfuno popeth roeddwn i’n ymddiddori ynddo a byddai’n rhoi cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd hefyd.

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe a pham astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth? Roeddwn i’n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr. Beth yw eich prif atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe? Cael fy nysgu gan ddarlithwyr cwbl ragorol, y ffrindiau a wnes i yn y brifysgol a’r llu o weithgareddau chwaraeon y gwnes i gymryd rhan ynddynt. Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe? Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a “dysgwyr ail iaith”. A dyna lle y cafodd fy hyder ei fethrin.

Pam dewis gyrfa mewn darlledu? I fod yn berffaith onest, dyna’r unig beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i’n arfer chwarae recordiau Queen, ABBA a 10cc pan oeddwn i’n ddim ond pum mlwydd oed, felly roedd yn anochel y byddwn yn mynd i weithio i BBC Radio 2 a BBC Radio Wales! Roeddwn i hefyd yn arfer sylwebu ar gemau fideo ‘nôl yn yr 1980au - gemau fideo chwaraeon – felly mae’n debyg nad oedd gyrfa mewn chwaraeon teledu yn gam annisgwyl chwaith. A wnaeth eich cyfnod yn y Brifysgol eich helpu i gychwyn gyrfa mor llwyddiannus mewn darlledu ydych chi’n meddwl? Yn sicr. Fe wnes i gyfarfod â chynghorydd gyrfaoedd, Mr Hugh Jones, pan oeddwn yn ymgeisio am gwrs ysgol newyddiaduraeth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe anogodd fi i fynd amdani. Enillais ysgoloriaeth gyda BBC Cymru ac mae’r gweddill yn hanes. Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw. Beth yw uchafbwynt eich gyrfa? Heb amheuaeth, derbyn yr e-bost gan fy nghynhyrchydd i ddweud fy mod i’n mynd i fod yn rhan o’r tîm cyflwyno ochr y cae ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil rhwng yr Ariannin a’r Almaen. Rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. Pa un oedd eich hoff wlad? Rwsia. Teithiais ledled y wlad yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2018 a chefais fy hudo yn llwyr gan yr hanes, y bensaernïaeth ysblennydd a’r bwyd arbennig.

Beth yw eich atgofion gorau am eich amser yn Abertawe?

Os ydych yn disgwyl clywed straeon am fy nyddiau gwyllt yn y brifysgol, byddwch chi’n cael eich siomi wrth siarad â mi, mae arna i ofn. Treuliais i’r rhan fwyaf o ddiwrnodau yn y llyfrgell. Roeddwn i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m plentyndod mewn siopau llyfrau, neu yn y llyfrgell neu â fy mhen yn y copi ail law o wyddoniadur Britannica roedd fy nhad wedi’i brynu i mi pan oedd yr athrawon ar streic. Nawr roedd gen i gyfle i eistedd yn y llyfrgell yn astudio drwy’r dydd, gwyn fy myd. Roedd cyfrifiadura’n weddol sylfaenol o hyd yn y dyddiau hynny. Roedd gennym gyfrifiadur PDP 11 Unix a oedd yn caniatáu i ni fewnbynnu data ar gardiau. Roedd system lafurus iawn lle byddech yn ysgrifennu eich rhaglen, yna roedd rhaid i chi ruthro i lawr y grisiau â’r cerdyn tyllog a mynd ag ef i ystafell arall ar bwys y ffreutur i’w redeg. Byddai bob amser tipyn o giw ac yna roedd rhaid aros am hanner awr i weld a oedd wedi gweithio.

08

Made with FlippingBook Learn more on our blog