PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR
YR ATHRO ANDY HOPPER
BSc Technoleg Gyfrifiadurol. Blwyddyn Graddio 1974. ATHRO. CYD-SYLFAENYDD CYFRI F IADURON ACORN.
Dwi’n meddwl y byddai’n deg dweud bod cyfrifiaduron wedi cael dylanwad mawr ar eich bywyd. Allwch chi siarad ychydig am hynny? Roedd Abertawe’n cynnig cwrs a oedd yn hynod dda i mi a’r myfyrwyr eraill achos, ar y pryd, roedd yn rhagweld pa mor bwysig fyddai cyfrifiaduron yn y byd yn y dyfodol. Enw’r cwrs oedd Technoleg Gyfrifiadurol. Digwyddais i ei astudio am resymau bydda i’n eu hesbonio, ond gwnaeth y cwrs hwnnw lywio fy ngyrfa gyfan. Beth oedd yn arbennig am y cwrs oedd ei fod yn cyfuno cyfrifiadureg ag electronig ac roedd yn cynnwys cyfrifeg ac economeg hefyd. Yn ystod y cyfnod pan oeddwn i yn Abertawe, roedd llawer o ryddid mewn
Sut daethoch chi i Abertawe? Tri rheswm. Pwyliad ydw i o ran genedigaeth a ches i fy magu’n siarad Pwyleg. Pan oeddwn i yn yr ysgol yn y DU, yn fy arddegau byddem yn treulio rhai o’n gwyliau haf ar fferm yn Llanybydder yng ngorllewin Cymru. Roedd rhai ffermwyr Pwylaidd wedi ymgartrefu yno ar ôl y rhyfel a threuliais i ambell haf yno. Yn ail, doeddwn i ddim wedi gwneud yn dda iawn yn yr ysgol (mae’r DU yn wahanol iawn i Wlad Pwyl), felly awgrymodd ffrind i’r teulu efallai y byddai’r busnes cyfrifiadura yma’n ddiddorol, ac yn drydydd, roeddwn i wedi gwneud cais am leoedd ym Manceinion ac Abertawe, ond doedd fy ngraddau ddim yn ddigon da i fynd i Fanceinion. Dwi ddim yn meddwl y ces i’r graddau ar gyfer Abertawe chwaith, ond gwnaeth Aspinall fy nerbyn serch hynny.
addysg. Roedd Abertawe’n eithaf arloesol, mewn ffordd dda. A dwi’n ddiolchgar i ddau berson yn benodol am hynny. Athro Peirianneg Drydanol o’r enw William Gosling – ei syniad ef oedd cynnig y cwrs – a dyn a gafodd ei recriwtio ganddo o Brifysgol Manceinion - David Aspinall a ddaeth yn Athro a chafodd ei recriwtio i arwain y cwrs yn Abertawe. Roedd gan Gosling lawer o gysylltiadau â diwydiant ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Technegol cwmni o’r enw Plessey. Roedd yn gyfarwydd iawn, drwy ei waith, ag ochr ddiwydiannol pethau ac, wrth gwrs, i mi roedd hynny’n ysbrydoliaeth fawr oherwydd dyna rywbeth dwi wedi’i wneud yn fy ngyrfa oddi ar hynny. Mae fy ngyrfa wedi bod ag ochr academaidd a diwydiannol ar yr un pryd.
16
Made with FlippingBook Learn more on our blog