Sail Magazine 2020 [CYM]

CROESO I RIFYN Y CANMLWYDDIANT O’N CYLCHGRAWN I GYN-FYFYRWYR,

Ledled y byd, mae’r argyfwng coronafeirws (Covid-19) wedi newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi galw ar 100 mlynedd o wydnwch, arloesedd a chydweithrediad er mwyn ymaddasu, ac i gyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i ymateb i’r argyfwng. Mae ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid yn cydweithio i gefnogi’r gofynion logistaidd ar ein hisadeiledd gofal iechyd. Rydym wedi defnyddio ein hargraffyddion 3D o’r radd flaenaf er mwyn cynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb, ac rydym wedi newid un o’n labordai solar i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos i gyflenwi’r GIG yn lleol. Mae tîm o’n myfyrwyr wedi datblygu triniaeth newydd i ryddhau nwy’n sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr o fewn llai nag 20 munud yn hytrach na 45 munud, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Mae ein hymchwilwyr o’r radd flaenaf yn modelu effeithiau cymdeithasol, economaidd a seicolegol yr argyfwng ar ein bywydau. Rydym yn archwilio effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl, gan ystyried effaith hirdymor y mesurau cadw pellter cymdeithasol a chynnig cymorth lles i’r rhai y mae ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn modelu amgyffred y cyhoedd o’r ap ar gyfer ffonau clyfar i olrhain cysylltiadau o ran Covid-19, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall effaith Covid-19 ar

weithgarwch corfforol a lles pobl ar adegau gwahanol y cyfyngiadau symud yn y DU. Mae ymateb ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid i’r argyfwng hwn wedi bod yn ysbrydoledig, gan adeiladu ar ganrif o effaith gadarnhaol a gweithredoedd pwrpasol. Felly, rwyf wrth fy modd bod rhifyn y Canmlwyddiant o SAIL yn cynnig cyfle i dynnu sylw at draddodiad hir y Brifysgol o gefnogi datblygiad myfyrwyr ysbrydoledig a thalentog, drwy ddangos detholiad o’n cyn-fyfyrwyr a’u cyflawniadau. Er bod gennym lawer mwy o gyn-fyfyrwyr talentog nag y gallem obeithio eu cynnwys mewn un cylchgrawn, mae’r casgliad hwn yn rhoi cipolwg sy’n adlewyrchu pa mor amrywiol y bu llwyddiant ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, ym meysydd ymchwil, chwaraeon, entrepreneuriaeth, cyfraniad at y gymdeithas a gweithredu cymdeithasol. Mae talent ac amrywiaeth ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn destun balchder mawr i’n Prifysgol, wrth i’n cyn-fyfyrwyr barhau i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithasau ledled y byd. Wrth i ni ddechrau ein hail ganrif fel Prifysgol, rwy’n ffyddiog y byddant yn cynnal y traddodiad hwn, gan barhau i ymateb i heriau byd-eang cyfoes fel llysgenhadon balch dros ein Prifysgol. Is-Ganghellor

03. Eich Cefnogaeth, Ein Diolch 04. Ein Hymateb

01.  Cyswllt Prifysgol Abertawe 02. Digwyddiadau’r Canmlwyddiant

Made with FlippingBook Learn more on our blog