Sail Magazine 2020 [CYM]

wedi derbyn grant gwerth £12.8m gan WEFO ar gyfer prosiect sydd â’r nod o weithgynhyrchu a phrofi dyfais ar raddfa lawn. Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous ar gyfer tîm MPS – mae llawer o aelodau’r tîm wedi bod yn rhan o’r daith gyfan, ac mae nifer ohonynt yn raddedigion o Abertawe. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gyflawni’n nod. Yn ddiweddar, gwnaethom ehangu portffolio cynnyrch MPS i gynnwys y DualSub sy’n dal ynni’r tonnau a’r gwynt, a’r WindSub, sy’n dal ynni’r gwynt ar gyfer safleoedd heb adnodd tonnau sylweddol. Mae Graham a finnau’n hynod falch o hyn, gan y bydd yn rhoi cyfle i Gymru a’r DU allforio’n dyfeisiau a grëwyd gan ddau o raddedigion Abertawe’n rhyngwladol. GF: Y cam nesaf yw dangos technoleg MPS ar raddfa lawn a gwerthu’n fasnachol beiriannau sy’n cyflenwi ynni glân ac adnewyddadwy o’r môr i’r grid. Pan fyddwn i wedi gwneud hyn, gallaf edrych yn ôl a bod yn wirioneddol hapus bod y daith wedi dod i ben mewn ffordd mor llwyddiannus. GS: Rwy’n hyderus y bydd tîm MPS unwaith eto yn cyflawni yn ystod y cam nesaf hwn, gan gadarnhau ein bod yn un o arweinwyr y farchnad. O ganlyniad, bydd hyn yn arwain at roi arian yn ôl i’r economi a chreu swyddi sgiliau uchel, gan leihau allyriadau carbon a chael effaith drawiadol ar newid yn yr hinsawdd ac achub y blaned ar yr un pryd! Pwy yw eich ysbrydoliaeth? GF: Byddai’n hawdd rhestru’r bobl amlwg, entrepreneuriaid blaenllaw ym maes technoleg, megis Steve Jobs neu Elon Musk, ond dwi ddim yn argyhoeddedig bod y math hwn o bobl yn enghreifftiau da ar gyfer y rhan fwyaf o bobl: mae’n amlwg eu bod wedi aberthu bywyd yn y cydbwysedd bywyd a gwaith, a dydy’r amgylchedd ddim yn uchel iawn ar eu rhestrau o flaenoriaethau (nid Musk, wrth gwrs). Yn fy marn i, mae Yves Chouinard, sefydlwr Patagonia, wedi gwneud yn dda i gyfuno llwyddiant busnes â moeseg gref. GS: Roedd fy nhad-cu yn y llynges a phan oeddwn i’n ifanc, roedd yn adrodd straeon am wneud llawer o waith dylunio ac adeiladu a photsian â chychod. Gwnaeth hynny fy ysbrydoli i feddwl yn y ffordd hon ers yn ifanc – gan ennyn brwdfrydedd ynghylch sut gellir gwneud pethau’n wahanol neu’n well. Yn ogystal, er bod hyn yn ystrydeb, mae James Dyson wedi fy ysbrydoli. Rwyf hefyd yn edmygu’r lefel o lwyddiant mae wedi ei gyflawni – mae bob amser yn chwilio am ymagwedd newydd ac yn ceisio gweddnewid ein ffordd o wneud pethau.

PATRICK JONES BA Cymdeithaseg ac Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 1987. BARDD. DRAMODYDD. EIRIOLWR. JOHN LOMAX BSc Peirianneg Sifil. Blwyddyn Graddio 1953. UN HANNER STORI GARIAD WYCH A DDECHREUODD YM MHRI FYSGOL ABERTAWE. JACOB DRAPER BSc Economeg. Blwyddyn Graddio 2019. GRADD DOSBARTH CYNTAF. CHWARAEWR HOCI O’R RADD FLAENAF I GYMRU A PHRYDAIN FAWR. KATE EVANS BSc Swoleg. Blwyddyn Graddio 1996. ECOLEGYDD YMDDYGIAD A BIOLEGYDD CADWRAETH AROBRYN. SEFYDLYDD A CHYFARWYDDWR ELEPHANTS FOR AFRICA. COLIN PARRY BA Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1969. YMGYRCHYDD DROS HEDDWCH. ARWEINYDD ELUSEN.

OWEN EVANS. BSc Economeg. Blwyddyn Graddio 1991. PRI F WEI THREDWR. STRATEGYDD. YMGYNGHORYDD.

CAROLINE STOTESBURY BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2009. IS-GONSWL PRYDAIN YN Y GONSWL IAETH BRYDEINIG YN HOUSTON. YN CYNORTHWYO DINASYDDION PRYDEINIG DRAMOR YN ARKANSAS, COLORADO, LOUISIANA, TEXAS, NEW MEXICO AC OKLAHOMA.

Gallwch ddarllen y proffiliau llawn yma: swan.ac/proffiliau

21

Made with FlippingBook Learn more on our blog