Beth sydd wedi aros gyda chi o’ch amser yn Abertawe?
derbyn a chynnig cymorth ariannol i mi gan ddechrau yn ystod tymor yr hydref. Roeddwn i’n methu credu hynny ac ar ôl siarad â’m teulu, gwnaethon nhw gynnig helpu hefyd – gan fy nghynghori’n daer y byddwn i’n dwp i wrthod y cyfle hwn. Gwnaeth Chicago agor lawer o ddrysau i mi, nid mewn economeg yn unig, ond mewn masnach, cyllid a busnes rhyngwladol hefyd. Un dydd Sadwrn yn ystod fy ail flwyddyn, galwodd Cyfarwyddwr Lleoliadau Gwaith yr Ysgol i awgrymu fy mod i’n cwrdd â chynrychiolydd Banc America a oedd yn ymweld â’r Ysgol. Roedd y banc yn ehangu’n rhyngwladol yn gyflym ar y pryd, ac roedd yn chwilio am ymgeiswyr a fyddai’n cydweddu â’i amcanion. Roeddwn i’n dwlu ar y bobl a’r ddinas ac ymunais i â’r banc ar ôl derbyn fy MBA. Doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd i Abertawe, Chicago na Banc America. Roedd rhywun yn paratoi fy llwybr ymlaen. Ar ôl chwe mis o gael profiad o’r adrannau amrywiol ar raglen hyfforddiant rheoli, ces i fy anfon i ddesg Canada i weithio ar brydlesu jymbo-jetiau newydd i gwmnïau hedfan Canada. Ddwy flynedd wedi hynny, roeddwn i yn y swyddfa yn Singapôr, yn gyfrifol am yr holl fenthyciadau a oedd yn uwch nag uchafsymiau rheolwr cangen yn Singapôr, Maleisia, Brwnei a Fietnam. Nesaf, ces i fy anfon i Kuala Lumpur fel Uwch-swyddog Benthyca ac wedyn fel Rheolwr Gweithredol â chyfrifoldeb am ailstrwythuro benthyciadau problem ac ehangu cysylltiadau â busnesau lleol a rhyngwladol, cyn cael fy mhenodi’n Bennaeth Cyllid yn Asia ym Manila, y Philipinau. Gan weithio gyda pheirianwyr technegol a mwyngloddio, bues i’n arwain wrth sicrhau cyllid ar gyfer sawl mwynglawdd aur a chopr, yn ogystal â busnesau gweithgynhyrchu a thecstilau. Tua diwedd 1976, roeddwn i’n arweinydd tîm o weithwyr proffesiynol yn Ninas Efrog Newydd â chyfrifoldeb am gyllido morgludiant. Y saith mlynedd hynny oedd y cyfnod hiraf dreuliais mewn un lle a gwnaeth yr amser hedfan gyda hwyl a sbri yn Ninas Efrog Newydd ynghyd â llawer o deithio yn yr Unol Daleithiau a thramor. Un o’m hatgofion mwyaf cofiadwy oedd strwythuro cyllid ar gyfer nifer o longau i gwmni olew mawr mewn iard llongau yn y DU dan nawdd llywodraeth y DU. Arweiniodd hyn at y trafodiad prydlesu trawsffiniol, dipio dwbl wedi’i drosoleddu cyntaf .... gwers ddefnyddiol mewn ceisio cyfuno rheidrwydd gwleidyddol ag anghenion busnes.
Nesaf, fel Pennaeth Marchnadoedd Cyfalaf Asia gyfan ar gyfer Banc America, roedd gen i gyfrifoldeb am ranbarth enfawr, o Japan i India ac i lawr i Awstralia a Seland Newydd, yn arwain tîm o 53 o weithwyr proffesiynol. O ganlyniad i’r rhyngweithio dyddiol â chorfforaethau, llywodraethau, diwydianwyr a chystadleuwyr, gan gynnwys amrywiaeth o ddiwylliannau, athroniaethau, ieithoedd a bywyd cymdeithasol, roedd pob diwrnod yn gyffrous. Y cam nesaf yn fy ngyrfa oedd symud i Lundain a chael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol. Ar ôl blwyddyn, gadewais i’r sefydliad i gychwyn fy musnes buddsoddi ac ariannol arbenigol fy hun yn Llundain. Yn dilyn menter fyrhoedlog gydag American Express, es i ar fy liwt fy hun unwaith eto ym 1987 a sefydlu Sandown Capital Corporation. Roedd y busnes yn ymwneud yn bennaf â chyfnewid llog ac arian cyfredol yn ogystal â gwarannau ar gyfer corfforaethau canol y farchnad yn yr Unol Daleithiau nad oedd ganddynt fynediad rhwydd neu uniongyrchol at farchnad gyfalaf Llundain, ac ar gyfer nifer o gwmnïau yn y Deyrnas Unedig hefyd. Yn sgil cyfres o drafodiadau arwyddocaol ac arloesol, cafodd Sandown Capital ei weddnewid yn fusnes Ecwiti Preifat. Roedd Sandown Capital yn ffynnu ond oherwydd yr angen i deithio’n helaeth a’ch oedran, penderfynoch chi ddirwyn y busnes i ben. Beth sydd nesaf i chi? Ar hyn o bryd, dwi’n agosáu at ymddeol ond dwi’n parhau’n weithgar ac yn brysur drwy fy naliadau personol a’m gweithgarwch elusennol mewn meysydd addysgol, dyngarol a’r celfyddydau. Rwy’n aelod o fyrddau ymgynghorol Prifysgol Talaith Montana, Symffoni Bozeman a Chanolfan Shane Lalani ar gyfer y celfyddydau yn ogystal â chwmnïau daliannol busnes personol. Yr agwedd ar fy ngwaith presennol sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw helpu’r genhedlaeth iau i gael mynediad at addysg drwy ddarparu ysgoloriaethau a mentora. Mae rhan sylweddol o hynny’n cynnwys addysg – yn enwedig addysg menywod - yn y byd datblygol ac mewn rhannau penodol o’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig. Mae fy ngwraig a finnau’n weithgar iawn mewn prosiectau i atal caethwasiaeth plant a masnachu pobl. Agwedd arall ar fy mywyd presennol sy’n rhoi boddhad i mi yw helpu darpar entrepreneuriaid a busnesau bach drwy fentora a darparu cyfalaf i sefydlu neu dyfu’r busnes. Hoffwn i barhau â’m hymdrechion dyngarol ac addysgol a darparu cyllid sbarduno i fusnesau, gan fwynhau chwaraeon a theithio’n fyd-eang.
Ar wahân i wersi smwddio crys gan Raj Barchha a oedd yn rhannu llety gyda fi, ces i gyflwyniad i gerddoriaeth glasurol gan Suzanna drwy’r Gymdeithas Gerddoriaeth. Nid fy syniad i o noson ramantus ond mae’r gerddoriaeth wedi aros yn fy mhen, hyd yn oed os na wnaeth y rhamant bara. Dwi bellach yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol y Symffoni Bozeman, sydd wedi rhoi cymaint o bleser i mi. Wnes i ddim datblygu blas am fara lawr yn bendant a dwi wedi ei osgoi oddi ar hynny. Gwnaeth symud i Neuadd Sibley yn yr ail flwyddyn agor fyd newydd cyfan i mi – ciniawau ffurfiol yn gwisgo gynau a grŵp amrywiol o ffrindiau newydd i gael sgyrsiau hir dros goffi, dysgu bridge a gwyddbwyll bob awr o’r dydd a’r nos. Mae’r perthnasoedd ddatblygais i i’n parhau hyd heddiw. Ar wahân i’r criw bridge , fy ffrindiau yn Sibley a chyd-fyfyrwyr Economeg, dwi’n cadw mewn cysylltiad â nifer o fyfyrwyr dramor ledled y byd, ac yn ymweld â nhw o bryd i’w gilydd. Cafodd sawl cyfeillgarwch ei feithrin pan oeddwn i’n Gadeirydd Cymdeithas y Myfyrwyr Tramor, ond hyd yn oed cyn hynny, pan ymunodd Bill Coote o Ganada a mi â’n Ar nodyn ychydig yn fwy tywyll, ces i sgarmes gyda meddyg y coleg dros barcio, a chafodd y mater ei dynnu at sylw’r Pennaeth. Hefyd, yn ystod wythnos Rag, ymunais i â bois Sibley ar gyrch dwyn nicers o breswylfa’r Coleg Nyrsio – cawson ni ein llusgo o flaen Pennaeth yr Heddlu a Phennaeth y Coleg Nyrsio am hynny ac roedd y bygythiad o gael ein taflu allan ac ychydig ddiwrnodau yn y ddalfa yn gosb ddigon addas! Wnaeth eich cyfnod yn y brifysgol ddylanwadu ar eich gyrfa? Tuag amser graddio, gwnaeth yr Athro Dennis Lees fy holi am fy nghynllun, sef i ddechrau swydd gydag Albright a Wilson a dod yn gyfrifydd siartredig ar ôl peth profiad yn y diwydiant. Roedd yr Athro Lees yn benderfynol y dylwn i anghofio am y cynllun hwn a chwblhau rhaglen astudio bellach mewn economeg gymhwysol. Gan ystyried ei bod hi’n ganol y flwyddyn ar y pryd, roedd meddwl am ymgeisio, y broses dderbyn, cyllid a logisteg yn dipyn o her. Heb yn wybod i mi, roedd yr Athro Lees wedi trafod y posibilrwydd o gynnig lle i mi yn uniongyrchol â Phrifysgol Chicago lle roedd ef wedi bod yn athro gwadd. Yna dywedodd wrthyf y byddai Prifysgol Chicago yn hepgor y gofynion gilydd i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ddadlau’r Coleg.
23
Made with FlippingBook Learn more on our blog