Anrhyedd Cyfunol

ANRHYEDD CYFUNOL

AM PROFIAD MYFYRWYR 1 (TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024) YN Y DU AF CYFRYNGAU A CHYFATHREBU

AM RAGOLYGON GRADDEDIGION 1 (TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024) YN Y DU AF ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD

SAFLE SAESNEG 101-150 UCHAF YN Y BYD (QS WORLD RANKINGS 2024)

Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/diwylliant-cyfathrebu am yr wybodaeth ddiweddaraf.

CROESO

Croeso cynnes i Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.

Modiwlau rhyngddisgyblaethol, hyblyg, ar draws amrywiaeth o bynciau’r Dyniaethau Y cyfle i greu eich rhaglen radd bersonoledig eich hun Cyfleoedd Semester, Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant RYDYM YN CYNNIG:

Gallu i addasu a hyblygrwydd Meddwl beirniadol ac ymresymu dadansoddol Cyfathrebu effeithiol a hyfedredd ysgrifennu Galluoedd datrys problemau ac ymresymu moesegol SGILIAU I’W CAFFAEL:

Elwa o gymorth ac arweiniad helaeth Ennill y sgiliau ar gyfer gyrfaoedd buddiol. MAE EIN MYFYRWYR YN:

Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Cymryd rhan yn weithgar yng nghlybiau a chymdeithasau ac ymchwil y brifysgol.

ANRHYDEDD CYFUNOL Teilwrwch eich astudiaethau ar draws llenyddiaeth a diwylliant, treftadaeth a hanes, y cyfryngau ac ieithoedd modern i archwilio dylanwad y Dyniaethau ar y byd rydym yn byw ynddo. Mae’r rhaglen radd ryngddisgyblaethol hon mor unigol â chi. Os yw eich diddordebau yn y Dyniaethau, bydd yn eich galluogi chi i greu eich rhaglen radd bersonoledig eich hun, trwy gyfuniad penagored o fodiwlau a meysydd pwnc. Ar y ffordd, cewch gyfle i grwydro disgyblaethau amrywiol ac archwilio dylanwadau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ideolegol ar gymdeithasau ddoe a heddiw. Y canlyniad yw cyfuniad o wybodaeth, gallu a phrofiad sy’n unigryw i bob myfyriwr. EIN GRADDAU

Y100 Y10A Y10I

Anrhyedd Cyfunol, BA (Anrh) Anrhyedd Cyfunol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Anrhyedd Cyfunol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Cewch ddewisiadau eang mewn modiwlau ar draws feysydd pwnc canlynol y Dyniaethau:

Astudiaethau Americanaidd (Llenyddiaeth a Hanes), Hanes yr Henfyd, Astudiaethau Clasurol (gan gynnwys opsiynau ieithoedd Groeg a Lladin), Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant Cymru neu’r Gymraeg, Saesneg Iaith, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL), Llenyddiaeth Saesneg, Eifftoleg, Ffilm a Diwylliant Gweledol, Hanes, y Cyfryngau, Ieithoedd Modern (Ffrangeg; Almaeneg; Sbaeneg). Hefyd, mae’n bosibl astudio rhai modiwlau ym meysydd pwnc y Gymraeg, y Cyfryngau ac Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Sylwch fod yr holl fodiwlau’n cael eu cynnig yn amodol ar argaeledd a chyfyngiadau’r amserlen.

CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau a ragwelir, cyfeirnod a chymysgedd o bynciau i osod telerau pob cynnig.

Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg ac arweiniad. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad eich cwrs penodol:

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/anrhydedd-cyfun/ba-anrhydedd-cyfun

CYNNIG BTEC CYFATEBOL NODWEDDIADOL

TEITL Y CWRS

TGAU NEU GYFWERTH

BAGLORIAETH RYNGWLADOL

SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL

ANRHYEDD CYFUNOL, BA (Anrh)*

ABB-BBC

30 - 33

DDM-DMM

N/A

*gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo

Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, gyda thri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ystyried pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@abertawe.ac.uk .

(TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024) 2 il

YN Y DU AR GYFER ASTUDIAETHAU CELTAIDD

I gael rhagor o wybodaeth, sganiwch y cod QR neu ewch i’n gwefan.

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/anrhydedd-cyfun/ba- anrhydedd-cyfun

MODIWLAU

Bydd y modiwlau isod yn rhoi blas i chi ar yr hyn y gallech ei astudio ar ein gradd BA (Anrh.), Anrhydedd Cyfunol 3 blynedd.

Ewch i’n gwefan am yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs. Mae’r rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol i’w gweld yma:

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/anrhydedd-cyfun/ba-anrhydedd-cyfun

ANRHYDEDD CYFUNOL, BA (Anrh): Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd. Byddwch yn astudio un modiwl gorfodol ym Mlwyddyn 1. Yna, byddwch chi’n dewis 5 modiwl dewisol. Dau yn Semester 1(S1) a thri yn Semester 2 (S2).

MODIWL GORFODOL Hanfodion y Dyniaethau

Sinema mewn Cyd-destun Byd MODIWLAU DEWISOL S1 Angenfilod, Damcaniaethau, Trawsnewidiadau Ewrop Eithafion, 1789-1989 Cyflwyniad i Astudiaethau Americanaidd

Platfformau’r Cyfryngau Creadigol Rhufain o Bentref i Ymerodraeth: Cyflwyniad i Hanes Rhufeinig Iaith mewn Meddwl Ysgrifennu Creadigol: Arddulliau Ffuglen MODIWLAU DEWISOL S2

Blwyddyn 2 (Lefel 5): 120 credyd yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd. Byddwch yn astudio un modiwl gorfodol ym Mlwyddyn 2. Yna, byddwch chi’n dewis 5 modiwl dewisol. Dau yn Semester 1(S1) a thri yn Semester 2 (S2).

Hanes Saesneg COMPULSORY MODULE MODIWLAU DEWISOL S1 Archwilio’r Siambr Waedlyd: Canoloesol i Ôl-fodern Astudio’r Cyfryngau Digidol Prosiect Amlddisgyblaethol

Hanes Animeiddio Sgrin Darnau o Undeb: Creu a Chwalu Diwylliannol Prydain Dychan Rhufeinig: Rhefru a Chellwair Adfeilion ac Adnewyddu: Ewrop, 1918-1968 MODIWLAU DEWISOL S2

Tanddaearol Fienna: Golygfeydd Tanddaearol o Ddinas yr Ugeinfed Ganrif

Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 credyd yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd. Yna, byddwch yn dewis pedwar modiwl dewisol. Dau yn Semester 1(S1) a thri yn Semester 2 (S2).

MODIWL GORFODOL Traethawd Hir/Prosiect

Cymru Gothig / Gothic Wales MODIWLAU DEWISOL S1

Ffilm a Theledu Cyfoes History on Screen: Television, MODIWLAU DEWISOL S2

France and the Second World War: Legacies of the Dark Years Cultural Influence in Ancient Egypt From Machiavelli to Mussolini: Government and Society in Western Political Thought

Cinema & Gaming Forensic Linguistics The Swansea University International Dylan Thomas Prize Module

• Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. • Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea. ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen . • Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/ cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/anrhydedd-cyfun/ba-anrhydedd-cyfun

BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Mae modd i chi deithio i Ogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.

Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,

byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global) hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i cwrs arferol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith

Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb

Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol

Byddwn i’n argymell astudio tramor yn gryf gan ei fod yn gyfle gwych i gyfarfod â phobl debyg o bob rhan o’r byd a darganfod gwlad hollol newydd. Hefyd, mae profiad prifysgol yn rhywbeth hollol wahanol i’r Deyrnas Unedig a gall eich helpu i ennill cymaint o sgiliau a llawer o hyblygrwydd. Mae’n gyfle unigryw ac yn rhywbeth byddaf i’n sicr yn ei gofio am weddill fy oes.

GEORGE MAUNDER Université Grenoble Alpes, Grenoble & Universidad de Deusto, Bilbao

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir. MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.

Tra ar fy lleoliad gwaith yn ystod fy Mlwyddyn mewn Diwydiant, esblygais yn llwyr fel unigolyn ac fel gweithiwr proffesiynol. Datblygais gymaint o sgiliau gwerthfawr ac fe gynyddodd fy hyder! Newidiais yn llwyr o fod yn berson swil i fod yn fenyw hyderus, annibynnol a phenderfynol. Dysgais sgiliau craidd newydd fel rhwydweithio a chefais brofiad mewn amgylchedd proffesiynol fel: gweithio ar sesiynau tynnu lluniau, dod yn rhan o dîm, ac arwain cyfarfodydd ar draws Ewrop! Byddwn yn argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr. Mae’n radd mor hwyliog, ymarferol sy’n darparu cymaint o fewnwelediadau defnyddiol ac mae’r gefnogaeth gyson a ddarperir gan y darlithwyr mor galonogol.

CARYS EVANS Cyfryngau Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, Prif Swyddfa McArthurGlen Llundain

CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Mae cyflogadwyedd yn ysytyriaeth bwysig yn ystod eich astudiaethau, ac yn rhywbeth sy’n cael ei hyrwyddo’n gyson. Mae gan y tîm hanes o sicrhau swyddi I fyfyrwyr, ac maen nhw’n cynnig cymorth i fyfyrwyr hyd at bum mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:

Ceisiadau Diwrnodau blasu Interniaethau

Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio

Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr, er enghraifft:

• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth wedi’i bersonoli. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.

GYRFAOEDD DYFODOL

Busnes a Masnach Addysg

Sefydliadau Dyngarol Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Gwasanaethau Cyhoeddus

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Treftadaeth ac Amgueddfeydd

Mwynheais yn fawr fy astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y sgiliau a’r wybodaeth a gefais yn ystod fy amser yn Abertawe wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer fy ngyrfa i’r dyfodol. Mae llawer o gwmnïau angen gweithwyr cyflogedig i fod yn aml-sgil. Fe wnaeth y sgiliau fideo a dylunio a ddysgwyd ar fy nghwrs fy helpu i sicrhau rolau cynnar ac maent yn dal i fod yn werthfawr yn fy rôl bresennol.

HARRISON ANDREWS Graddedig o’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Rygbi’r Gweilch

CYFLEUSTERAU

Bydd amrywiaeth o gyfleusterau gwych ar gael i chi yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys: YSTAFELL A STIWDIOS CREADIGRWYDD Y CYFRYNGAU Mae ein campysau’n gartref i ystafelloedd a stiwdios creu cynnwys digidol a fideo cwbl weithredol. Mae ganddynt yr holl gyfleusterau cynhyrchu clyweled gyda sgrin werdd ac ystafelloedd golygu fideo. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar y campws, sy’n ymgorffori Taliesin Create, yn cynnig theatr ddynamig, sinema a mannau creadigol cynhwysol. ARCHIFAU RICHARD BURTON Rydym ni’n gartref i archif seren y llwyfan a ffilm, Richard Burton, sy’n cynnwys deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. LABORDY RHITH-REALITI A GEMAU Datblygwch eich sgiliau rhith-realiti a gemau yn ein labordy pwrpasol, cyflawn. LOLFA LINGO, CAFFIS IAITH A CHANOLFAN GWAITH CARTREF Mae rhyngweithio cymdeithasol yn ganolog i holl astudiaethau iaith. Dyna pam mae staff a myfyrwyr yn dod ynghyd bob ddydd Mercher i gael tamaid i’w fwyta a chyfle i ddal i fyny â’u newyddion ei gilydd. CANOLFAN YR AIFFT Mae Canolfan yr Aifft, yr amgueddfa ar gampws Prifysgol Abertawe, yn gartref i dros 6,000 o arteffactau hynafol, o’r Aifft yn bennaf, ond hefyd o ranbarthau o gwmpas Môr y Canoldir. Rydym ni’n cynnig cyfleoedd unigryw i ddysgu trwy drin a thrafod gwrthrychau hynafol.

SYLWADAU GAN FYFYRWYR

Mae bod yn fyfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yn yr Adran Saesneg wedi fy ngalluogi i dyfu a chael fy ysbrydoli. Mae’r

amrywiaeth o fodiwlau heriol a hynod ddiddorol wedi fy helpu i ddatblygu fel awdur ac ymchwilydd. Rhoddodd fy mlwyddyn dramor, yn astudio yn Hong Kong, bwrpas a chyfeiriad pellach i mi ar gyfer fy nyfodol. Gall ystrydeb fod yn wir. Byddwch chi’n cael eich hun yma, ac yn cael cefnogaeth i allu dilyn eich hoffterau a’ch diddordebau.

AMBA TYRIE Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor, Llenyddiaeth Saesneg, MA

Mae’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu tra’n astudio’r Dyniaethau yn werthfawr. Rwy’n meddwl bod hyn yn arbennig o wir am Hanes yr Henfyd a’r Clasuron. Oherwydd yr amrywiaeth eang yn y testunau sy’n cael eu hastudio, mae’r myfyriwr yn datblygu set sgiliau ddefnyddiol. Mae’r gallu i ddeall a ffurfio dadleuon, ysgrifennu’n gydlynus ac ymchwilio gwybodaeth yn annibynnol i gyd yn sgiliau a fydd yn fy symud ymlaen yn fy ngyrfa.

CALLUM WHITEHOUSE Hanes yr Henfyd, Myfyriwr Graddedig BA (Anrh). Yn addysgu Saesneg yn Japan ar hyn o bryd

Fe wnes i wir fwynhau’r amrywiaeth o fodiwlau ar fy nghwrs; er enghraifft, roeddwn i’n gallu astudio ar draws amrywiaeth o bynciau o Derfysgaeth yn America i Gyfnod y Dadeni. Roedd fy narlithwyr i’n ddifyr iawn ac yn galluogi myfyrwyr i fwynhau eu pynciau cymaint ag y maen nhw. Mae’r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd allgyrsiol ac roeddwn wedi gallu gwneud dau interniaeth yn ystod fy nghyfnod yn Abertawe. Rwy’n ddiolchgar am yr interniaethau ddarparodd Prifysgol Abertawe i mi. Maen nhw wedi fy helpu i sicrhau fy rôl bresennol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar Raglen Rheolaeth Gyffredinol y GIG i Raddedigion.

CAITLIN GILBERT Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh)

Dewisais y cwrs hwn oherwydd fod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Rwy’n hoffi ymchwilio i wrthdaro o amgylch y byd a sut mae gwledydd yn delio â phroblemau fel llai o ymddiriedaeth wleidyddol, mynediad at ddwr, gorboblogi, ac ati. Yn fwy na hynny, mae fy nghwrs yn cynnwys modiwlau a ddetholwyd yn ofalus, yr oeddwn yn gallu eu dewis fy hun. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle gwych i weld drosof fy hun waith Senedd Cymru, sy’n rhoi cipolwg ar wleidyddiaeth Prydain a chenedl ddatganoledig Cymru, a fu’n hynod fuddiol i’m hastudiaethau.

ZUZANNA MIERNIK Lleoliad: Senedd Cymru

Astudiais ym Mhrifysgol Genedlaethol Pusan yn Busan, De Korea ar gyfer fy mlwyddyn dramor. Heblaw astudio, fe wnes i hefyd deithio o gwmpas Korea gyda’r ffrindiau gydol oes y gwnes i tra mod i yno. Fy hoff amser yn Korea yn sicr oedd gwyl y blodeuo ym mis Mawrth. Roedd gweld cymaint o goed prydferth yn eu blodau, hyd yn oed o gwmpas y campws, mor anhygoel. Trwy astudio, dysgais sut i fod yn fwy hyderus ynof fi fy hun a bod yn fwy cymdeithasol, oherwydd mewn llawer o sefyllfaoedd, fi oedd yr unig dramorwr yn fy nosbarth, a oedd yn eithaf brawychus i ddechrau. Ond fe ddes i dros hynny a gwneud llawer o ffrindiau tra roeddwn i yno! Dysgais i lawer amdanaf fy hun drwy’r flwyddyn dramor hon a byddwn i’n annog unrhyw un i gymryd rhan petaen nhw’n cael y cyfle! ˆ

ABBIE CAMPFIELD Year Abroad: Pusan National University in Busan, South Korea

Cwblheais fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe ac rwyf bellach yn gwneud PhD. Mae fy mhrofiad Prifysgol wedi bod yn wych. Rwyf wedi mwynhau pob agwedd ar fy nghwrs yn fawr ac wedi cael llawer o brofiadau bythgofiadwy ac wedi gwneud ffrindiau oes wrth astudio yma. Mae’r modiwlau llenyddiaeth a hanesyddol hefyd wedi fy ngalluogi i ddyfnhau fy ngwybodaeth o Gymru a’i diwylliant, yn ogystal â datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau ysgrifennu dadansoddol, trefnu a rheoli amser.

ALPHA EVANS Cymraeg, BA (Anrh), Cymraeg, PhD

Dewisais Astudiaethau Americanaidd a Hanes oherwydd roedd y cwrs yn Abertawe i’w weld fel petai wedi’i deilwra’n arbennig i mi, gyda modiwlau’n ymdrin â’r themâu a’r cyfnodau amser hanesyddol y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddynt. Nawr rydw i yma, rydw i hefyd wedi darganfod pynciau newydd nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod y byddwn i’n eu mwynhau. Mae’r profiad o fod yn fyfyriwr wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac wedi dod i adnabod fy nhiwtoriaid yn dda hefyd. Un o’r pethau gorau am fy mhrofiad prifysgol hyd yn hyn yw’r bobl! Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs oherwydd mae cymaint i’w fwynhau a chymaint o amrywiaeth pynciau i ddewis ohonynt.

GEORGE LANHAM Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd bod yn rhan o amgylchedd prifysgol mor wych a chefnogol yn ychwanegu at y profiad ac yn gwneud fy nhrosglwyddiad cyffredinol gymaint â hynny’n llyfnach. Fe wnes i ymdrochi’n llwyr yn y cwrs, y brifysgol a’r ddinas ac es ymlaen i gwblhau astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig yn adran y cyfryngau. Rwyf nawr yn defnyddio fy sgiliau a phrofiad, ac yn gweithio gyda Sefydliad Diwylliannol y brifysgol. Mae dewis Prifysgol Abertawe wedi rhoi rhai o gyfleoedd gorau fy mywyd i mi.

SIDARTH DAMODAR Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh)

CYMORTH I FYFYRWYR

Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:

Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol

Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni

Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol

Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd

Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

ARIAN A CHYNGOR

Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu.

Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau i / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol.

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws

PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:

EFFAITH GYMDEITHASOL 100 YN Y UCHAF

Mae llawer o fwrlwm yng nghymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau sesiynau gydag anifeiliaid egsotig, cyfleoedd i ddysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio drwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau celf a chrefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!

IECHYD A LLES

Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i

wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol ac yn ysgogi newid. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Hunan Ofal: Mae hunan ofal yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr mewn modd gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn.

CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS

CLWB LLYFRAU

CYFRYNGAU ASTUDIAETHAU

YSGRIFENNU CREADIGOL

ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD

SAESNEG

HANES

Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies

SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL

STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 RYDYM EISIAU CLYWED AMDANOCH CHI! Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 COFIWCH AM Y TERFYN GEIRIAU! Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.

EICH CAMAU NESAF

MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.

HYDRED - TACHWEDD DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.

TACHWEDD - RHAGFYR ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.

EBRILL CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £

CHWEFROR - MAWRTH DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!

IONAWR DYDDIAD CAU UCAS Cofiwch gyflwyno’ch cais ar amser

MEHEFIN DEWISIADAU CADARN AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.

AWST DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.

MAI LLETY

Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau

CHWARAEON

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:

•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian

DARPARIAETH GYMRAEG

DIWYLLIANT

Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.

DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR

I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!

Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored

CYSYLLTWCH Â NI

Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU

E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk

www.swansea.ac.uk/cy/diwylliant- cyfathrebu

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Chwiliwch: Prifysgol Abertawe

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5