Fe wnes i wir fwynhau’r amrywiaeth o fodiwlau ar fy nghwrs; er enghraifft, roeddwn i’n gallu astudio ar draws amrywiaeth o bynciau o Derfysgaeth yn America i Gyfnod y Dadeni. Roedd fy narlithwyr i’n ddifyr iawn ac yn galluogi myfyrwyr i fwynhau eu pynciau cymaint ag y maen nhw. Mae’r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd allgyrsiol ac roeddwn wedi gallu gwneud dau interniaeth yn ystod fy nghyfnod yn Abertawe. Rwy’n ddiolchgar am yr interniaethau ddarparodd Prifysgol Abertawe i mi. Maen nhw wedi fy helpu i sicrhau fy rôl bresennol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar Raglen Rheolaeth Gyffredinol y GIG i Raddedigion.
CAITLIN GILBERT Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh)
Dewisais y cwrs hwn oherwydd fod gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Rwy’n hoffi ymchwilio i wrthdaro o amgylch y byd a sut mae gwledydd yn delio â phroblemau fel llai o ymddiriedaeth wleidyddol, mynediad at ddwr, gorboblogi, ac ati. Yn fwy na hynny, mae fy nghwrs yn cynnwys modiwlau a ddetholwyd yn ofalus, yr oeddwn yn gallu eu dewis fy hun. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle gwych i weld drosof fy hun waith Senedd Cymru, sy’n rhoi cipolwg ar wleidyddiaeth Prydain a chenedl ddatganoledig Cymru, a fu’n hynod fuddiol i’m hastudiaethau.
ZUZANNA MIERNIK Lleoliad: Senedd Cymru
Astudiais ym Mhrifysgol Genedlaethol Pusan yn Busan, De Korea ar gyfer fy mlwyddyn dramor. Heblaw astudio, fe wnes i hefyd deithio o gwmpas Korea gyda’r ffrindiau gydol oes y gwnes i tra mod i yno. Fy hoff amser yn Korea yn sicr oedd gwyl y blodeuo ym mis Mawrth. Roedd gweld cymaint o goed prydferth yn eu blodau, hyd yn oed o gwmpas y campws, mor anhygoel. Trwy astudio, dysgais sut i fod yn fwy hyderus ynof fi fy hun a bod yn fwy cymdeithasol, oherwydd mewn llawer o sefyllfaoedd, fi oedd yr unig dramorwr yn fy nosbarth, a oedd yn eithaf brawychus i ddechrau. Ond fe ddes i dros hynny a gwneud llawer o ffrindiau tra roeddwn i yno! Dysgais i lawer amdanaf fy hun drwy’r flwyddyn dramor hon a byddwn i’n annog unrhyw un i gymryd rhan petaen nhw’n cael y cyfle! ˆ
ABBIE CAMPFIELD Year Abroad: Pusan National University in Busan, South Korea
Made with FlippingBook HTML5