ANRHYDEDD CYFUNOL Teilwrwch eich astudiaethau ar draws llenyddiaeth a diwylliant, treftadaeth a hanes, y cyfryngau ac ieithoedd modern i archwilio dylanwad y Dyniaethau ar y byd rydym yn byw ynddo. Mae’r rhaglen radd ryngddisgyblaethol hon mor unigol â chi. Os yw eich diddordebau yn y Dyniaethau, bydd yn eich galluogi chi i greu eich rhaglen radd bersonoledig eich hun, trwy gyfuniad penagored o fodiwlau a meysydd pwnc. Ar y ffordd, cewch gyfle i grwydro disgyblaethau amrywiol ac archwilio dylanwadau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac ideolegol ar gymdeithasau ddoe a heddiw. Y canlyniad yw cyfuniad o wybodaeth, gallu a phrofiad sy’n unigryw i bob myfyriwr. EIN GRADDAU
Y100 Y10A Y10I
Anrhyedd Cyfunol, BA (Anrh) Anrhyedd Cyfunol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Anrhyedd Cyfunol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Cewch ddewisiadau eang mewn modiwlau ar draws feysydd pwnc canlynol y Dyniaethau:
Astudiaethau Americanaidd (Llenyddiaeth a Hanes), Hanes yr Henfyd, Astudiaethau Clasurol (gan gynnwys opsiynau ieithoedd Groeg a Lladin), Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant Cymru neu’r Gymraeg, Saesneg Iaith, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL), Llenyddiaeth Saesneg, Eifftoleg, Ffilm a Diwylliant Gweledol, Hanes, y Cyfryngau, Ieithoedd Modern (Ffrangeg; Almaeneg; Sbaeneg). Hefyd, mae’n bosibl astudio rhai modiwlau ym meysydd pwnc y Gymraeg, y Cyfryngau ac Ieithoedd Modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Sylwch fod yr holl fodiwlau’n cael eu cynnig yn amodol ar argaeledd a chyfyngiadau’r amserlen.
Made with FlippingBook HTML5