Anrhyedd Cyfunol

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir. MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.

Tra ar fy lleoliad gwaith yn ystod fy Mlwyddyn mewn Diwydiant, esblygais yn llwyr fel unigolyn ac fel gweithiwr proffesiynol. Datblygais gymaint o sgiliau gwerthfawr ac fe gynyddodd fy hyder! Newidiais yn llwyr o fod yn berson swil i fod yn fenyw hyderus, annibynnol a phenderfynol. Dysgais sgiliau craidd newydd fel rhwydweithio a chefais brofiad mewn amgylchedd proffesiynol fel: gweithio ar sesiynau tynnu lluniau, dod yn rhan o dîm, ac arwain cyfarfodydd ar draws Ewrop! Byddwn yn argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr. Mae’n radd mor hwyliog, ymarferol sy’n darparu cymaint o fewnwelediadau defnyddiol ac mae’r gefnogaeth gyson a ddarperir gan y darlithwyr mor galonogol.

CARYS EVANS Cyfryngau Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, Prif Swyddfa McArthurGlen Llundain

Made with FlippingBook HTML5