Cinio Gwobrau Chwaraeon 2022 - Cymraeg

Cydnabyddiaeth Chwaraeon

VICTORIA SMITH Wedi cynyddu elfen saethu â dryll y clwb o ddau aelod i 20 o aelodau. Wedi trefnu digwyddiad treialu saethu â dryll ar gyfer Varsity Cymru. Wedi creu Cystadleuaeth Saethu â Dryll Prifysgol De Cymru. Wedi cael cymeradwyaeth i storio a diogelu cyfarpar y clwb ar y campws. SAETHU A DRYLL A REIFFL MEGAN BEANEY HOCI Ymdriniwyd â materion arwyddocaol eleni oherwydd oedi cyn gosod y llain hoci newydd, ac aeth y tu hwnt i gyfrifoldeb ei rôl i sicrhau bod pob un gosodiad yn cael ei chwarae'n llawn, ac nad oedd yn niweidiol i'w chyd- chwaraewyr. Arweiniodd aflonyddwch at aildrefnu 17 o osodiadau, heb i un fforffedu / cerdded gael ei dderbyn. Bob amser yn barod i fynd y filltir ychwanegol i'w chlwb a chofleidio'r cyfrifoldeb.

Mae'r Wobr Cydnabyddiaeth Chwaraeon yn cael ei chyflwyno gan Chwaraeon Abertawe i fyfyriwr, aelod staff neu aelod cysylltiol sydd wedi cynorthwyo clwb, Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Abertawe a/neu'r gymuned ehangach yn Abertawe drwy weithio ym maes chwaraeon ers blynyddoedd lawer. Gwobr i'w chyflwyno gan Sadie Mellalieu - Rheolwr Chwaraeon Myfyrwyr

JOHN COURTNEY PRIF DIRMON PRIFYSGOL ABERTAWE

Ymunodd John â Phrifysgol Abertawe ym mis Tachwedd 2005, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n rhan annatod o baratoi a chynnal cyfleusterau o safon uchel ar gyfer ein clybiau myfyrwyr, grwpiau cymunedol, clybiau proffesiynol a lleol.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae John wedi rheoli'r gwaith o baratoi'r tir ar gyfer llawer o ddigwyddiadau proffil uchel sy'n cynnwys:

Pencampwriaethau Rygbi Cyffwrdd Ewrop, 2014 Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd IPC, 2014 (tro pedwar diwrnod o gwmpas rhwng y digwyddiad Rygbi ac IPC!) Pencampwriaethau Prifysgol y Byd FISU Rygbi Saith, 2016 Athletau Rhyngwladol y Gemau Celtaidd, 2016 Rhyngwladol Iau Athletau Cymru, 2018 Athletau Rhyngwladol Ysgolion Prydain, 2019 Nifer o ddigwyddiadau Varsity Cymru, gan gynnwys caniatáu i'r cae cyntaf gael ei drawsnewid yn barth cefnogwyr, yna gorfod ei baratoi eto o fewn 3 wythnos ar gyfer y tymor rygbi cyffwrdd! Yn ogystal, roedd Parc Chwaraeon Bae Abertawe a'n cyfleusterau Lôn Sgeti yn Ganolfan Tîm yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2015, gan gynnal Canada, Fiji a Seland Newydd, yn ogystal â Rygbi Merched Cymru yn 2020, yn y cyfnod cyn eu Gemau Chwe Gwlad wedi'u had-drefnu. Enwebwyd Prifysgol Abertawe hefyd am wobr 'Best Maintained Artificial Pitch of the Year' gan y Sefydliad Groundsmanship (IOG) yn 2009 a 2012 ar gyfer ein Lleiniau Hoci, yn seiliedig ar y gwaith cynnal a chadw a wnaed gan John a'r tîm.

CINIO GWOBRAU 2022 23

22 CHWARAEON ABERTWAWE

Made with FlippingBook flipbook maker