Cinio Gwobrau Chwaraeon 2022 - Cymraeg

Hoffwn i achub ar y cyfle i ddiolch i staff Chwaraeon Abertawe a'r tîm chwaraeon myfyrwyr: Sadie, Charlotte a Rhodri, yn ogystal â Tom yn Undeb y Myfyrwyr. Mae eu hymrwymiad i chwaraeon yn eithriadol, a bu'n ysgogiad mawr i mi yn ystod fy nghyfnod fel Swyddog Chwaraeon. Diolch yn fawr i Sadie, Charlotte, Rhodri a Tom am bopeth rydych chi'n ei wneud am eich holl gymorth dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n diolch yn arbennig i Dîm Gweithredol Chwaraeon Abertawe, sy'n rhan amhrisiadwy o'n cymuned chwaraeon. O lwytho bysus yn gynnar ar fore dydd Mercher i helpu gyda Bar y Capten yn Jack Murphys! Bu'n bleser mawr gallu gweithio gyda'r tîm hwn o wirfoddolwyr o blith y myfyrwyr. Hebddyn nhw, ni fyddai wedi bod yn bosib i ni hwyluso rhai digwyddiadau rhagorol eleni megis cwpan cyntaf y cyn-fyfyrwyr, bocsio coler werdd a'n diwrnod blynyddol i fenywod! Yn olaf, rwy'n diolch yn fawr i aelodau tîm Undeb y Myfyrwyr rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu'n fraint i mi wasanaethu myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn y rôl hon. Nid yw hi wedi bod yn hawdd, ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi eich cynrychioli chi'n dda. Mae chwaraeon yn hynod bwysig i ni i gyd yn yr ystafell hon, gan feddu ar y pŵer i'n huno, hybu ein hyder, a'n helpu i fod yn bobl well. Rwy'n gobeithio y bydd y rhai ohonoch sy'n ein gadael ni eleni'n parhau i gefnogi'r Fyddin Werdd a Gwyn yn frwd, ac rwy'n dymuno pob lwc i'r rhai a fydd yma o hyd y flwyddyn nesaf. Mae chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe mewn dwylo diogel.

Noswaith dda pawb a chroeso i Wobrau Chwaraeon Abertawe 2022!

Mae'n bleser mawr gennyf eich croesawu i Wobrau Chwaraeon Abertawe 2022. Ar ôl bwlch o ddwy flynedd, rwyf wrth fy modd fy mod i yma gyda chi i gyd yn yr un lleoliad i ddathlu blwyddyn arall o chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Er gwaethaf y toriadau dros y blynyddoedd diwethaf, mae chwaraeon yn Abertawe'n ffynnu unwaith eto ac rwyf mor falch o weld ein hathletwyr a'n clybiau'n parhau i ddatblygu a llwyddo. Hoffwn i gynnig diolch o galon i bob un o'n hathletwyr sydd yn yr ystafell heno. Ni fyddai Chwaraeon Abertawe'n werth dim heb yr athletwyr brwdfrydig, gweithgar ac ymroddedig rydyn ni wedi dod yma heno i'w dathlu. Bu rhai uchafbwyntiau syfrdanol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: o gamp y clwb nofio wrth sicrhau ei safle uchaf erioed yn BUCS, i fenter y clwb syrffio o ehangu'r gwersi a gynigir i ddechreuwyr, a pherfformiad gwych gan dîm rygbi'r dynion i adennill Cwpan Varsity Cymru, ar ôl curo Caerdydd o 20-13, a oedd yn goron ar y cwbl! Hoffwn i hefyd gymeradwyo ymdrechion elusennol cynifer o'n clybiau, sydd wedi gwneud llawer o waith i godi arian am achosion megis Tashwedd (Movember), y gwnaethon ni godi mwy na £30,000; ein cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant drwy'r fenter Lasys Enfys; a'r cyfraniadau at yr apêl i gefnogi Wcráin. Dyma ysbryd Abertawe yn ei hanfod, ac rwyf mor falch o fod yn rhan o'r gymuned hon. Mae chwaraeon menywod wedi datblygu'n aruthrol yn Abertawe ers i mi ymuno â'r brifysgol ac rwy'n falch bod criced menywod wedi cael ei gynnwys yn Varsity Cymru am y tro cyntaf, a bu perfformiadau anhygoel gan aelodau tîm pêl-droed y menywod, a ildiodd ddwy gôl yn unig wrth ennill eu cynghrair. Cystadlodd tîm rygbi'r menywod eto yn Varsity Cymru yn Stadiwm Swansea.com, ac enillodd timau pêl-fasged a badminton y menywod ddwbl y gynghrair a'r cwpan y tymor hwn, ymysg campau eraill. Mae ein hathletwyr benywaidd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd a hir oes i hynny.

Llongyfarchiadau i chi i gyd ar flwyddyn anhygoel, ac i'r rhai ohonoch sy'n derbyn gwobrau, rydych chi wir yn eu haeddu.

CINIO GWOBRAU 2022 5

4 CHWARAEON ABERTWAWE

Made with FlippingBook flipbook maker