Prifysgol Abertawe Cylchgrawn Electronig Coleg Peirianneg

CA I S AM B E I R I ANWY R

ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG

Pa feysydd? Mae ein hymchwil Atebion Rheoli Arfordiroedd a Llifogydd yn cynnwys staff a myfyrwyr â chefndir ym maes Peirianneg Sifil ac Arfordirol.

Atebion Rheoli Arfordiroedd a Llifogydd Yr Athro Harshinie Karunarathna

Mae llifogydd arfordirol yn berygl difrifol ledled y byd. Mae’r hinsawdd fyd-eang yn newid yn gyflym ac, o ganlyniad, mae’r byd yn aml yn gweld llifogydd sy’n lladd pobl, gan gael effaith ddifrifol ar iechyd a llesiant cymunedau arfordirol a difrodi seilwaith ac eiddo arfordirol gwerth biliynau o bunnau. Mae ffoaduriaid hinsawdd cyntaf y byd wedi’u cofnodi yng Nghymru yn dilyn y penderfyniad y bydd pentref arfordirol Fairbourne yn cael ei ddatgomisiynu oherwydd y cynnydd mewn llifogydd arfordirol. Ceir llifogydd arfordirol pan fydd penllanw yn cyfuno ag ymchwydd storm a thonau egnïol iawn. Ymchwydd storm yw pan fydd lefel y môr yn codi dros dro o ganlyniad i wasgedd atmosfferig isel yn ystod storm, corwynt neu deiffŵn. Wedyn, caiff dŵr y môr sydd wedi codi ei wthio tuag at yr arfordir

gan wynt cryf. Os bydd hyn yn cyd- ddigwydd â phenllanw a thonnau mawr a achosir gan wynt cryf, gall dŵr lifo dros amddiffynfeydd arfordirol a gallant gael eu torri, a gall traethau naturiol gael eu herydu a’u gorolchi, gan arwain at lifogydd arfordirol. Mae’r cynnydd yn lefelau’r môr ledled y byd yn gwaethygu’r broses hon. Y dull traddodiadol o liniaru llifogydd arfordirol yw adeiladu amddiffynfeydd arfordirol mwy o faint. Anfantais y dull hwn yw bod strwythurau concrid mawr yn niweidio’r amgylchedd naturiol, yn newid ecosystemau arfordirol bregus ac yn cyfyngu ar fynediad i’r môr – yn ogystal â bod yn ddolur llygad i’r cyhoedd. Yn ein grŵp ymchwil, rydym yn ymchwilio i ddulliau newydd o liniaru llifogydd ac erydu arfordirol drwy ddatblygu’r hyn a elwir yn beirianneg arfordirol seiliedig ar natur. Drwy gyfuno

ymchwiliadau arbrofol yng nghafn tonnau mawr ein Labordy Peirianneg Arfordirol â modelu cyfrifiadurol, rydym yn ymchwilio i’r ffordd y gellir integreiddio systemau arfordirol naturiol megis morfeydd heli, gwelyau morwellt a thwyni tywod â llystyfiant mewn cynlluniau amddiffyn arfordirol. Yn ein harbrofion, rydym yn mesur i ba raddau y mae llystyfiant arfordirol yn gwanhau tonnau a cherhyntau storm. Defnyddir y mesuriadau hynny a’r ddealltwriaeth o brosesau a gafwyd o’r arbrofion i ddatblygu modelau cyfrifiadurol er mwyn efelychu dynameg systemau arfordirol. Mae’r modelau hyn yn ein galluogi i ateb yr heriau sy’n gysylltiedig â rheoli llifogydd ac erydu arfordirol yn yr 21ain ganrif drwy ddatblygu atebion ar gyfer amddiffyn yr arfordir, a all wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, heb amharu ar yr amgylchedd naturiol.

P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE

14

Made with FlippingBook Ebook Creator