Prifysgol Abertawe Cylchgrawn Electronig Coleg Peirianneg

CA I S AM B E I R I ANWY R

ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG

Helpu i ddatblygu diwydiant Dur Gwyrddach, Glanach aMwy Deallus yn y DU gan Dr BeckyWaldram, SUSTAIN

Mae Heriau a ThemâuMawr SUSTAIN yn enghreifftiau gwych o’r amrywiaeth eang o wybodaeth ac arbenigedd sydd eu hangen er mwyn i brosiect peirianneg lwyddo: Rheoli a Defnyddio Allyriadau Sut y gallwn ddal, storio a defnyddio carbon o darddleoedd penodol mawr ? Sut y gallwn wahanu carbon deuocsid oddi wrth nwyon gwastraff eraill ? Prosesau Gwneud Dur Diwastraff Sut y gallwn ailddefnyddio gwastraff domestig a diwydiannol yn y diwydiant dur ? Ar hyn o bryd, mae’r DU yn allforio tua 10 miliwn o dunelli o ddur sgrap y flwyddyn, a allwn ailgylchu’r dur hwn yn lleol ? Arloesi a Lywir gan Ddata Sut y gallwn fanteisio’n well ar y gadwyn gyflenwi gyfan ehangach ? A allwn ymgorffori technegau modelu proses a thechnegau algorithm cyflym er mwyn galluogi efelychiadau a rhagfynegiadau amser real ? Prosesau Cynhyrchu Rhad-ar-ynni Deallus A allwn ailddefnyddio rhywfaint o’r ynni a gynhyrchir yn ystod y broses gwneud dur ? Sut y gallwn defnyddio hydrogen i bweru gwaith dur ? Prosesau Newydd ar gyfer Cynhyrchion Newydd A allwn fonitro microadeiledd wrth brosesu er mwyn datblygu cynhyrchion newydd a gwella effeithlonrwydd graddau dur presennol ?

Uchelgeisiau hollbwysig SUSTAIN ? Datblygu systemau ar gyfer gwneud haearn a dur sy’n niwtral o ran carbon erbyn 2040, dwblu gwerth ychwanegol gros dur erbyn 2030 a rhoi seilwaith deallus o’r radd flaenaf ar waith erbyn 2030. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r prosiect a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy i’r DU.

Mae dur o’n cwmpas ym mhobman. Fe’i defnyddir ym mron yr holl gyfarpar a chynhyrchion hanfodol rydym yn eu defnyddio bob dydd, o’r cerbydau rydym yn teithio ynddynt, ysgolion, gweithleoedd a’r siopau rydym yn ymweld â nhw i’r cyllyll a ffyrc rydym yn eu defnyddio i fwyta, neu i weithgynhyrchu cyfarpar a chynhyrchion o’r fath. Oherwydd gofynion ynni’r broses gwneud dur, mae ganddi ôl troed carbon mawr iawn. Mae hefyd yn effeithlon iawn a gall greu cynhyrchion ar gyfradd uwch ac am gost ariannol a chost ynni is nag unrhyw ddeunydd arall rydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Oherwydd yr argyfwng hinsawdd parhaus ac ymrwymiad y DU i leihau allyriadau carbon i sero-net erbyn 2050, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i ddatgarboneiddio’r diwydiant hollbwysig hwn , diwydiant sy’n galluogi ein safon byw gyfoes ac yn cynnal miloedd ar filoedd o swyddi gweithgynhyrchu crefftus iawn a swyddi mewn cadwyni cyflenwi yn y DU. Nod prosiect SUSTAIN yw darparu’r wyddoniaeth arloesol a’r ymchwil beirianyddol sydd eu hangen i greu cadwyni cyflenwi dur sy’n effeithlon o ran adnoddau ac yn niwtral o ran carbon yn y DU. Byddwn yn galluogi sectorau gweithgynhyrchu’r DU i ddarparu atebion cydnerth o’r radd flaenaf i ddiwallu anghenion trafnidiaeth, ynni ac adeiladu yn y dyfodol, gan oresgyn yr heriau sy’n wynebu cymdeithas sy’n gysylltiedig â gwastraff ac ynni. Mae’r prosiect ar fin dechrau ar ei ail flwyddyn o waith ac rydym eisoes yn cyfrannu’n uniongyrchol at arferion diwydiannol.

Pa feysydd? Mae Canolfan SUSTAIN yn cynnwys staff, myfyrwyr a phartneriaid diwydiannol â chefndir ym meysydd Peirianneg Deunyddiau a Chemegol, Cemeg, Cyfrifiadureg a Rheoli, yn ogystal â’r rhai sydd ag arbenigedd mewn Diwydiannau Sylfaenol a Thechnolegau Gwneud Dur Cynaliadwy.

P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE

16

Made with FlippingBook Ebook Creator