Prifysgol Abertawe Cylchgrawn Electronig Coleg Peirianneg

CA I S AM B E I R I ANWY R

ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG

Economi Gylchol a Ffotoffolteg Erbyn 2050, bydd mwy na 60 miliwn tunnell o wastraff Si-PV y bydd yn rhaid ymdrin ag ef

Gwrandewch ar ei bodlediad www.swansea.ac.uk/ research/podcasts/ circular-economy/

Dr MatthewDavies

Mae datblygu a defnyddio technolegau ynni adnewyddadwy cynaliadwy yn hanfodol er mwyn i ni symud i ffwrdd oddi wrth ffynonellau ynni tanwydd ffosil tuag at ddyfodol ynni glân. Fodd bynnag, er yr ystyrir eu bod yn ‘wyrdd’, mae effeithiau amgylcheddol sylweddol yn gysylltiedig â thechnolegau ynni adnewyddadwy. Wrth i ni ymdrechu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn gyflym, mae’n bwysig sicrhau bod ynni adnewyddadwy ei hun hefyd yn gynaliadwy. Mae cost technoleg ffotofoltäig (PV) wedi gostwng yn sylweddol ac mae PV silicon (Si-PV) bellach yn gystadleuol o ran cost ac, mewn rhai lleoliadau, yn rhatach na thanwyddau ffosil, sydd wedi arwain at dwf sylweddol yn y defnydd a wneir ohono. Oes gyfartalog modiwl Si-PV yw tua 25 mlynedd, ond pan na fydd paneli solar yn gweithio mwyach, nid yw’n hawdd eu hailgylchu ar hyn o bryd. Erbyn 2050, bydd mwy na 60 miliwn tunnell o wastraff Si-PV y bydd yn rhaid ymdrin ag ef. Gallem ddatgysylltu

twf economaidd y sector o’r defnydd o ddeunyddiau crai sylfaenol, er mwyn i ni allu defnyddio mwy a mwy o dechnoleg PV heb fod angen cloddio deunyddiau o’r ddaear. Ar hyn o bryd, mae PV yn cyflenwi tua 3% o drydan y byd, ond mae hyn eisoes yn dibynnu ar symiau mawr o ddeunyddiau hanfodol (megis indiwm a thelwriwm). Mae’r deunyddiau hyn hefyd yn cael eu defnyddio mewn technolegau adnewyddadwy a/neu ynni-effeithlon pwysig eraill – mae angen i ni osgoi sefyllfa lle mae technolegau adnewyddadwy yn cystadlu am ddeunyddiau am y bydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i ymateb i newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid cyfuno defnydd helaeth o dechnolegau PV â newid i ‘economi gylchol’, lle y sicrheir bod deunyddiau yn parhau’n weithredol cyhyd â phosibl ar y gwerth uchaf posibl. Yn achos Si-PV, mae’n amlwg bod angen gwneud hyn yn ôl-weithredol ond yn achos technolegau newydd, fel y rhai rydym yn gweithio arnynt yma ymMhrifysgol Abertawe,

credwn fod hwn yn gyfle i ddatblygu a dylunio’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg ffotofoltäig gan gadw economi gylchol a diwedd oes mewn cof o’r dechrau. Nod ein prosiect SPECIFIC yw cyflymu’r broses o fasnacheiddio’r genhedlaeth nesaf o dechnoleg ynni adnewyddadwy gynaliadwy. Rydym yn gweithio ar opsiynau amgen i dechnolegau Si-PV traddodiadol; gan ymchwilio i’r defnydd o ddeunyddiau cost isel argraffadwy y ceir digonedd ohonynt ledled y byd. Un her rydym yn ceisio mynd i’r afael â hi yw eco-ddylunio dyfeisiau er mwyn iddynt allu cael eu hailweithgynhyrchu’n ddyfeisiau newydd ar ddiwedd eu hoes gan ddefnyddio cymaint o’r ddyfais wreiddiol â phosibl. Bydd hyn yn lleihau’r defnydd o ddeunyddiau hanfodol a sicrhau nad oes cysylltiad annatod rhwng twf economaidd ac allyriadau carbon. Ein nod yw sicrhau’r manteision mwyaf posibl i gymdeithas a datblygu technoleg ynni adnewyddadwy gwirioneddol ‘gynaliadwy’.

P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE

23

Made with FlippingBook Ebook Creator