CA I S AM B E I R I ANWY R
ACHUB Y BYD MEWN C Y F NOD O ARGY FWNG
ychydig o weithiau y bu’n bosibl i mi fynd i mewn i’r Brifysgol a dyna pam mae’r ffaith bod gennyf dîm mor wych o fyfyrwyr EngD a staff ymchwil yn y fan a’r lle wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn. Roedd y 5 wythnos gyntaf yn ddwys iawn am fod yn rhaid i mi gydbwyso anghenion fy myfyrwyr ar gyfer modiwl blwyddyn dau a gwneud y trefniadau ar gyfer y prosiect hwn. Mae’n deg dweud bod oriau gwaith ‘arferol’ wedi mynd allan o’r ffenestr! CaitlinMcCall (EngD) I ddechrau pob dydd, rydym yn dilyn proses gaeth o wisgo cyfarpar diogelu personol ac yna mae pob rhan o’n hamgylchedd gwaith yn cael ei glanhau. Mae sesiwn gyflym i friffio’r tîm, lle mae pawb yn cadw pellter cymdeithasol, ac asesiad o’r hyn sydd angen ei wneud yn ystod y dydd yn paratoi pawb ac yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf. Mae pedair prif weithfan o amgylch yr ystafell weithgynhyrchu fawr ac rydym yn cylchdroi o’r naill i’r llall. Yn gyntaf, mae gennym beiriannau argraffu 3D sy’n argraffu’r bandiau pen drwy’r amser. Ar ôl wyth awr, caiff y rhain eu symud o’r gwelyau argraffu i’r weithfan nesaf er mwyn archwilio eu hansawdd a’u gorffen. Yna, rydym yn cydosod elastig a sbwng a dorrwyd ymlaen llaw, â’r feisor PET a’r bandiau pen argraffedig. Caiff y feisorau wyneb eu labelu â rhifau eu cydrannau a nod CE. Ar ôl archwiliad terfynol, maent
yn barod i’w rhoi mewn bagiau. Ar ôl iddynt gael eu rhoi mewn bagiau, caiff y feisorau wyneb eu rhoi mewn bocsys wedi’u labelu yn ôl y ceisiadau a gawn, ac maent yn barod i’w hanfon. Mae cerddoriaeth a chwmni gwych yn ein cadw mewn hwyliau da wrth i ni barhau i gydosod, gwella ein proses a pharatoi i gynhyrchu mwy o feisorau! Sut beth oedd gweithio o bell gyda thîmy prosiect er mwyn ymateb yn gyflym i’r pandemig? Sefydlodd David O’Connor adnodd cyfathrebu o’r enw Discord (a ddefnyddir i chwarae gemau fel arfer) a ddaeth ag ochr y myfyrwyr o’r tîm at ei gilydd i ddechrau, ac yna ychwanegwyd fi ac ychydig o ffrindiau a chysylltiadau mewn diwydiant. Am fy mod yn aelod o’r staff, roeddwn yn gallu cysylltu ag uwch-gydweithwyr a phorthgeidwaid yn uniongyrchol drwy negeseuon e-bost a chyfarfodydd rhithwir. Digwyddodd pethau yn gyflym iawn. Mantais y llwyfan hwn oedd, pan oedd angen gwybodaeth neu gymorth ar frys, fod un o’r tîm yn ei chasglu/gasglu, ar bob adeg o’r dydd. Mae ymatebolrwydd y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â’r prosiect wedi bod yn broffesiynol iawn ac yn hollol wych! Rwy’n credu bod pob aelod o’r tîm yn adnabod pobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd neu y mae’r pandemig hwn yn effeithio arnynt. Felly mae’r ffaith ein bod yn gallu sianelu’r pryder hwn i wneud rhywbeth wedi bod yn rhan fawr
o’r prosiect hwn i’r tîm; mae hefyd wedi ychwanegu rhywfaint o ‘normalrwydd’, diben cyffredin a chyfle i weld pobl eraill (er o bellter diogel) i’r rhai sy’n mynd i mewn i’r Brifysgol i weithgynhyrchu’r feisorau. Drwy weithio gyda staff, myfyrwyr, ymchwilwyr a chysylltiadau mewn diwydiant, rydym wedi dod â chymysgedd gwych o arbenigedd a syniadau at ei gilydd yn y pair, sydd yn bendant wedi’n helpu i arloesi a datrys problemau wrth iddynt godi. A ydych yn credu y bydd yr ymateb hwn i’r pandemig yn ysbrydoli eraill i feddwl yn wahanol ambeth ywpeirianneg a’r ffordd y gall peirianwyr effeithio ar y byd? Rwy’n gobeithio! Mae’n bendant yn adlewyrchu’r ffordd y gall tîm o staff, myfyrwyr a chysylltiadau allanol gydweithio’n ddynamig i ddiwallu angen cymdeithasol. Daw llawer o’n myfyrwyr o’r ‘Maker Hub’ ymMhrifysgol Abertawe. Mae hyn yn fan lle y gall myfyrwyr dreulio un prynhawn bob wythnos yn defnyddio peiriannau argraffu 3D, torwyr laser a mwy i ‘dorri’ pethau, gwneud pethau a dysgu drwy wneud. Anogir myfyrwyr i weithio ar waith nad yw’n cael ei asesu er mwyn iddynt allu ystyried syniadau a datblygiadau arloesol newydd. Hoffwn weld y ‘Maker Hub’ yn ehangu yn dilyn y prosiect hwn, gyda lle mwy o faint y gellir ei ddefnyddio’n fwy rheolaidd yn cael ei greu i’r grŵp a myfyrwyr yn y dyfodol.
Cydnabyddiaethau: Mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod cydweithwyr a staff eraill am eu cymorth ar wahanol gamau o’r prosiect hwn: Yn arbennig yr Athro Johann Sienz am gymorth ei uwch- dîm rheoli, Dr Naomi Joyce a’r AthroMary Gagen am eu cymorth rheoli prosiect (ymhlith doniau eraill). Yr Athro Davide Deganello am ddarparu cysylltiadau cychwynnol ym maes deunyddiau feisorau a’r cyflenwad cychwynnol o ddeunyddiau o’r fath.
Russ Huxtable am sicrhau bod cyllid ar gael yn gyflym ar gyfer ardystio CE. Technegwyr gwirfoddol am gynnal prosesau cynhyrchu cychwynnol. Kevin Thomas am hwyluso mynediad. FSG tooling – y cwmni allanol a greodd yr adnodd mowldin chwistrellu ar gyfer masgynhyrchu. Martijn Gommeren – cyswllt a ffrind peirianyddol
P E I R I ANNE G YM MHR I F YSGO L A B E R TAWE
8
Made with FlippingBook Ebook Creator