Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Cyfieithu ar y Pryd

CYFLEUSTERAU

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfleusterau anhygoel yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys: YSTAFELL DDYSGU GYDA CHYMORTH TECHNOLEG AC YSTAFELL DDEHONGLI CLYWELEDOL LLAWN OFFER Mae’r ystafell ddysgu wedi’i ffitio â sgriniau cyffwrdd a thechnoleg dal darlithoedd, sy’n eich galluogi i ailymweld ag unrhyw un o’ch darlithoedd ar-lein. Yn ogystal â thri labordy sy’n cynnwys y cyfrifiaduron a’r meddalwedd cyfieithu diweddaraf, mae gan fyfyrwyr hefyd fynediad i ystafell ddehongli cynhadledd o’r radd flaenaf. Gyda dau fwth, mae hwn yn gyfleuster arbenigol sy’n darparu amgylchedd rheoledig i ddehonglwyr ymarfer a hyfforddi, gyda’r bythau wedi cael eu hynysu’n llwyr rhag sain i sicrhau na chaiff llais y cyfieithydd ei glywed gan y gynulleidfa, nac i’r gwrthwyneb. LOLFA LINGO, CAFFIS IAITH A HWB GWAITH CARTREF Mae rhyngweithio cymdeithasol wrth galon pob astudiaeth iaith. Dyna pam, bob dydd Mercher, mae staff a myfyrwyr yn ymgynnull am damaid i’w fwyta a’r cyfle i ddal i fyny â newyddion ei gilydd. Mae gennym hefyd gaffis iaith wythnosol – cyfle i gymysgu â myfyrwyr eraill o bob grwp blwyddyn sy’n astudio eich iaith(ieithoedd), yn ogystal â siaradwyr brodorol sy’n astudio yn Abertawe ar hyn o bryd. Yn olaf, pan fydd angen i chi fwrw ati i weithio, mae’r Hwb Gwaith Cartref yn rhoi lle ac amser penodol i chi fynd i’r afael â’ch astudiaethau, gydag aelod o staff bob amser wrth law i’ch arwain gydag unrhyw gwestiynau mwy anodd. ˆ MANNAU ASTUDIO A CHYMDEITHASOL I FYFYRWYR Mae gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas amrywiaeth o fannau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu dreulio ychydig o amser astudio tawel. Mae socedi a phyrth trydanol lluosog, ynghyd â WiFi ym mhob rhan o’r adeilad, yn cynorthwyo mynediad at adnoddau digidol.

Made with FlippingBook HTML5