YMCHWIL Mae ein Cyfadran a’n Hysgol yn cynhyrchu ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol o’r radd flaenaf. Mae ein hymchwilwyr yn archwilio iaith, hanes, treftadaeth, a’r byd sy’n newid er mwyn creu amgylchedd mwy diogel a mwy cyson i bobl o bob oed ledled y byd. Credwn y dylai cymunedau lleol a byd-eang ddathlu amrywiaeth, gofalu am eu hardaloedd lleol, a chael hawliau cyfartal a rhyddid mynegiant. Rydym yn ymchwilio i hanes a diwylliant Ewrop a’r byd ehangach ac yn cydnabod bod archwilio diwylliant rhyngwladol yn hanfodol i greu amgylchedd celfyddydau a dyniaethau cyfoethog ac aml-haenog. Dyna pam mae ein grwpiau ymchwil yn canolbwyntio ar wledydd gan gynnwys yr Almaen, Gorllewin Affrica, Portiwgal, Sbaen ac America.
Ystyrir bod ein hamgylchedd ymchwil 100% yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil o ansawdd rhagorol yn rhyngwladol neu o safon fyd-eang
SBOTOLAU AR YMCHWIL: DR GERALDINE LUBLIN, ATHRO CYSYLLTIOL, IEITHOEDD MODERN Mae Dr Geraldine Lublin yn arwain ymchwil sy’n archwilio goblygiadau Theori Gwladychu ac yn cydweithio â chymunedau brodorol i fyfyrio ar eu profiadau a chyfrannu at drafodaethau theoretaidd. Ymhellach, mae’r ymchwil yn hyrwyddo arloesedd digidol drwy’r platfform ‘Orígenes’, a ddatblygwyd ar y cyd â chymunedau brodorol, fel modd o rymuso pobl frodorol i adennill eu treftadaeth a’u cof cyfunol. Nod y dull amlochrog hwn yw meithrin deialog rhyngddiwylliannol a hybu adferiad treftadaeth ym Mhatagonia. Wrth fynd ar drywydd dealltwriaeth a chyfiawnder rhyngddiwylliannol, mae adfywiad Brodorol wedi ennill momentwm ledled y byd yn ystod y degawdau diwethaf, gyda chydnabyddiaeth ffurfiol o hawliau brodorol yn dipyn o gamp. Mae offerynnau rhyngwladol fel Confensiwn 169 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Frodorol yn nodi cerrig milltir hollbwysig yn y daith hon. Mae’r cynnydd hwn yn croestorri â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac yn arbennig o berthnasol yn rhanbarth Patagonia yn yr Ariannin. Mae’r rhanbarth hwn wedi chwarae rhan nodedig ym mhroses adeiladu cenedl yr Ariannin, gan effeithio ar boblogaethau brodorol ac anfrodorol.
Cewch fwy o wybodaeth yma: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/diwylliant-cyfathrebu-a- threftadaeth/tuag-at-ryngddiwylliannedd
Made with FlippingBook HTML5