R9XO
Ieithoedd Modern gydag Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio dwy iaith, gan ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg, neu Sbaeneg, ynghyd ag addysg, gyda’r opsiwn i arbenigo mewn dysgu digidol ac addysg â chymorth technoleg. Byddwch yn treulio blwyddyn dramor a gallwch weithio fel athro Saesneg fel Iaith Dramor trwy’r Cyngor Prydeinig. Mae’r radd hon yn agor drysau i yrfaoedd mewn addysgu ac addysg yn bennaf, ond hefyd mewn llywodraeth, cyfieithu, marchnata, a chysylltiadau cyhoeddus. Mae’n hyblyg ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol, gyda’r cyfle i gwblhau lleoliadau addysgu i gael profiad gwerthfawr. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr arloesol sydd â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf.
Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Ffrangeg, BA (Anrh) Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Almaeneg, BA (Anrh) Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Sbaeneg, BA (Anrh)
L2RD L2R2 L2R4
Yn ein byd cynyddol gydgysylltiedig hwn, mae meithrin perthnasoedd rhyngwladol heddychlon yn hollbwysig. Mae ein graddau pedair blynedd BA Cysylltiadau Rhyngwladol gydag Iaith, sy’n cynnwys blwyddyn dramor, yn rhaglen hanfodol ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang. Mae’r cwricwlwm deniadol hwn yn ymdrin â phynciau fel sefydliadau byd-eang, datblygu, hawliau dynol, gwleidyddiaeth, heddwch, gwrthdaro, yr economi wleidyddol, astudiaethau diogelwch, ac astudiaethau strategol, gan gynnig mewnwelediad i effaith pwer, sefydliadau, a chyfreithiau ar ein bywydau bob dydd. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio Ffrangeg/Sbaeneg/Almaeneg ar lefel uwch neu lefel dechreuwr, a modiwlau galwedigaethol mewn cyfieithu a Ffrangeg ar gyfer cyd-destunau proffesiynol. ˆ
4900 490A 490I 490F
Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Gan gyfuno rheolaeth busnes ag ieithoedd a diwylliannau modern, rydym yn gweithio gyda chyrff diwydiannol i’ch galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr a’ch paratoi ar gyfer gyrfa fyd-eang gydag arbenigedd busnes a sgiliau iaith. Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, gweithdai, a dosbarthiadau iaith gyda mynediad i labordai iaith rhithwir, ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â myfyrwyr cyfnewid mewn caffis iaith wythnosol i sgwrsio yn yr ieithoedd yr ydych yn eu hastudio, a fydd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau iaith a hyder.
Made with FlippingBook HTML5