HANES
O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL SYDD WEDI’I GRADDIO’N ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL 100%
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/diwylliant-cyfathrebu am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
Croeso cynnes i Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
RYDYM YN CYNNIG:
Addysgu hanes Prydain, Ewrop ac America, o’r oesoedd canol hyd heddiw, o’r safon uchaf. Cymuned ddysgu gefnogol mewn dinas lan môr groesawgar. Astudio deunyddiau archif, gwrthrychau hanesyddol a safleoedd treftadaeth yn uniongyrchol.
SGILIAU I’W CAFFAEL:
Dadansoddi a dehongli tystiolaeth gymhleth. Defnyddio dulliau a thechnolegau ymchwil modern i archwilio’r gorffennol. Cyfleu syniadau mewn amryw ffordd, i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol.
MAE EIN MYFYRWYR:
Yn cael eu harfogi â sgiliau ar gyfer gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad. Yn elwa ar gymorth ac arweiniad helaeth. Yn cael eu cynnwys yn weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol.
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
HANES Archwiliwch dros 1,500 mlynedd o’r gorffennol ym Mhrydain, Ewrop, yr Unol Daleithiau a thu hwnt, gan ddyfnhau hefyd eich dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r gorffennol wedi llywio’r presennol. Mae themâu astudio’n cynnwys gwleidyddiaeth, crefydd, newid cymdeithasol, rhywedd, iechyd a meddyginiaeth, treftadaeth, a rhyfel a heddwch. EIN GRADDAU
Hanes, BA (Anrh) Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
V100 V101 V10I V102
Byddwch yn mwynhau hyblygrwydd gallu astudio amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol a themâu ar draws Prydain, Ewrop ac America, gan archwilio’r cyflwr dynol o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. Byddwch yn dysgu sylfeini’r dulliau sy’n cael eu defnyddio gan haneswyr i ddeall ac esbonio’r agweddau gwahanol ar y gorffennol ac, wrth i’ch astudiaethau fynd rhagddynt, byddwch yn gallu canolbwyntio’n fwy ar y canrifoedd, y diwylliannau a’r mathau o newid hanesyddol sydd o’r diddordeb pennaf i chi. Ymhlith y pynciau y gallwch eu harchwilio y mae gwleidyddiaeth, rhywedd, treftadaeth, meddygaeth, iechyd ac anabledd, a rhyfel a heddwch.
VT17 TV71 VT1I
Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Archwiliwch ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau, o wladychu hyd heddiw, ochr yn ochr â hanes Prydain, Ewrop a hanes y byd. Gallwch ffurfio’r radd amlddisgyblaethol hon yn ôl eich diddordebau eich hun gydag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cerddoriaeth a llenyddiaeth America; ffilm a theledu; a hil a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Hefyd, gallwch fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn yr Unol Daleithiau neu gallwch ymestyn eich gradd gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant.
V116 VV20 VV21
Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol yn caniatáu i chi astudio diwylliannau hynafol Gwlad Groeg, Rhufain a’r Dwyrain Agos, ochr yn ochr â chymdeithasau Prydain ac Ewrop Ganol Oesol, y gwnaethant helpu eu llywio. Mae ein modiwlau’n caniatáu i chi archwilio pynciau fel Prydain Rufeinig, gwaddol yr Ymerodraeth Rufeinig, datblygiad lledaeniad Cristnogaeth ac Islam yn yr Oesoedd Canol cynnar, a’r Croesgadau. Mae themâu i’w harchwilio ar draws y cyfnodau hynafol a’r Oesoedd Canol yn cynnwys rhywedd, cynrychiolaeth yr uchelwyr llywodraethol, masnach ac economeg.
QV31 QV3C QV3I
Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae darllen testunau yn agos ac ystyried cwestiynau genre, arddull, awduraeth a chynulleidfa yn hanfodol i astudio hanes a llenyddiaeth. Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i chi gyfuno archwilio cymdeithasau’r gorffennol, o’r oesoedd canol tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif, gyda dadansoddiad critigol o’r llenyddiaethau a gynhyrchwyd ganddynt.
RV11 RV21 RV41
Ffrangeg a Hanes, BA (Anrh) Almaeneg a Hanes, BA (Anrh) Hanes a Sbaeneg, BA (Anrh)
Mae astudio iaith yn cynnwys sgiliau dehongli, dadansoddi a mynegi, y mae galw mawr amdanynt, gan gynnig llwybr cyflym hefyd at ddeall gwledydd a diwylliannau eraill. Mae astudio iaith och yn ochr â hanes yn ehangu ystod y ffynonellau y gallwch eu defnyddio i archwilio’r gorffennol, gan agor llwybrau ymholi sydd ar gau i fyfyrwyr eraill. Neu, gallwch ddewis cadw dysgu iaith ac astudio hanes ar wahân, trwy ddewis o’n hamrywiaeth eang o fodiwlau ar Brydain ers yr Oesoedd Canol cynnar ac ar America ers y cyfnodau trefedigaethol.
LV21 VL1F
Hanes a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh) Hanes a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
Gwleidyddiaeth y gorffennol yw hanes, ac mae gwleidyddiaeth yn cyflwyno hanes – neu dyna yr arferai gael ei haeru. Mae haneswyr bellach yn ystyried llawer o agweddau amrywiol ar y gorffennol, y tu hwnt i’r gwleidyddol. Ond mae astudio gwleidyddiaeth ynghyd â hanes yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o hyd o elwa o gyfuno pynciau gwahanol, ond ategol. Ymhlith y themâu cyffredin y gellir eu harchwilio trwy’r ddwy ddisgyblaeth y mae hanes meddwl gwleidyddol, datblygiad ac arfer democratiaeth, gwleidyddiaeth hunaniaeth, mudiadau er cyfiawnder cymdeithasol, gwrthdaro, a rôl goruwchbwerau (Prydain, America) olynol wrth lywio’r byd.
LV2C LV2D LV2F
Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes, BA (Anrh) Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Globaleiddio, hawliau dynol, datblygiad rhyngwladol, dyngaroldeb, diplomyddiaeth, datrys gwrthdaro a diogelwch – mae’r rhain i gyd yn agweddau ar bwnc cysylltiadau rhyngwladol, yn canolbwyntio ar y gorffennol diweddar a’r presennol. Ond mae gan lawer o’r pynciau hyn hanes hir, yn ymestyn ymhell yn ôl i’r gorffennol.
Trwy gyfuno hanes â chysylltiadau rhyngwladol, gall y rhaglenni hyn eich helpu i ddatblygu safbwynt hanesyddol dyfnach tuag at bryderon o bwys y presennol.
V150 V152 V15I V151
Astudiaethau’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) Astudiaethau’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Astudiaethau’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Astudiaethau’r Oesoedd Canol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Gellir ystyried bod yr Oesoedd Canol yn perthyn i’r gorffennol pell, eto ar yr un pryd, maent yn teimlo’n fythol bresennol mewn diwylliant poblogaidd ac yn saernïaeth llawer o hunaniaethau cenedlaethol cyfoes.
Mae dilyn gradd mewn astudiaethau canol oesol yn caniatáu i chi archwilio’r Oesoedd Canol a’u perthnasedd parhaus i’r presennol trwy ddisgyblaethau lluosog: hanes a threftadaeth, llenyddiaeth ac ieithoedd.
QV5C QV50
Hanes a’r Gymraeg (llwybr ar gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) Hanes a’r Gymraeg (llwybr ar gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Hanes a’r Gymraeg (llwybr ar gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
QV5I
Er bod rhai modiwlau Hanes ar gael yn rhannol neu’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, gall astudio Hanes a’r Gymraeg gyda’i gilydd roi mantais enfawr i chi ym marchnad swyddi Cymru. Mae llawer o’r cwestiynau y mae ysgolheigion y Gymraeg a diwylliant Cymru yn ymrafael â nhw hefyd yn gwestiynau allweddol i haneswyr: o ble daw’r syniad o genedligrwydd; pa ffactorau sy’n gyrru ymdeimlad unigolyn o hunaniaeth; sut mae syniadau’n cael eu trosglwyddo rhwng cenedlaethau? Bydd dilyn y radd hon yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau hanesyddol yn y ddwy iaith a gwella’ch rhagolygon gyrfaol.
QV51 QV52 QV53
Hanes a’r Gymraeg (llwybr ar gyfer Myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) Hanes a’r Gymraeg (llwybr ar gyfer Myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Hanes a’r Gymraeg (llwybr ar gyfer Myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae astudio Hanes a’r Gymraeg yn bosibl hefyd os Cymraeg yw eich ail iaith. Gallwch ddewis o blith dewis cyfan o fodiwlau a gynigir mewn Hanes, gan ddysgu hefyd am hawliau’r Gymraeg, amlddiwylliannaeth, a’r Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg dros y canrifoedd. Nid yw defnyddio’r Gymraeg wedi’i gyfyngu i astudio Cymru, felly byddwch yn datblygu fel hanesydd gan adeiladu eich sgiliau cyfathrebu i safon broffesiynol, hefyd. Gan nad yw’r defnydd o’r Gymraeg.
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol:
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/hanes
SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL
TEITL Y CWRS
BAGLORIAETH RYNGWLADOL
CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC
TGAU NEU GYFWERTH
ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD A HANES, BA (Anrh)*
N/A
DDM - DMM
ABB-BBC
30-33
HANES YR HENFYD A’R OESOEDD CANOL, BA (Anrh)*
LLENYDDIAETH SAESNEG A HANES, BA (Anrh)*
ASTUDIAETHAU’R OESOEDD CANOL, BA (Anrh)*
ABB-BBC
30-33
ALMAENEG A HANES, BA (Anrh)*
DDM - DMM Almaeneg Isafswm Gradd C (4)
ABB-BBC
DDM - DMM Sbaeneg Isafswm Gradd C (4)
30-33
HANES A SBAENEG,BA (Anrh)*
ABB-BBC
DDM - DMM Ffrangeg Isafswm Gradd C (4)
30-33
FFRANGEG A HANES, BA (Anrh)*
ABB-BBC
N/A
DDM - DMM
30-33
HANES, BA (Anrh)*
BBB
N/A
DDM NEU UWCH
32
HANES A GWLEIDYDDIAETH, BA (Anrh)*
30-33
HANES A’R GYMRAEG (LLWYBR AR GYFER MYFYRWYR IAITH GYNTAF), BA (Anrh)*
ABB-BBC
DDM - DMM Isafswm Cymreig Gradd C (4) yn well
ABB-BBC
DDM - DMM Cymraeg Isafswm Gradd C (4)
30-33
HANES A’R GYMRAEG (LLWYBR AR GYFER MYFYRWYR AIL IAITH), BA (Anrh)*
BBB
N/A
DDM - DMM
32
CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL A HANES, BA (Anrh)*
* gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo
Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau a ragfynegir a’ch dewis o gyrsiau, mae’n bosibl y byddwn yn cynnig lle ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall – y bydd ei chwblhau yn arwain at Flwyddyn 1 o’ch dewis gwrs. Dysgir y flwyddyn sylfaen hefyd ar Gampws Singleton. Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@abertawe.ac.uk .
MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein rhaglenni gradd. Mae pob gradd yn cynnig modiwlau amrywiol. Ewch i’n gwefan i weld manylion am yr opsiynau sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs.
Gellir gweld y rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/hanes
HANES, BA (Anrh):
Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd yn cynnwys 1 modiwl 20 credyd gorfodol a 5 modiwl 20 credyd dewisol
Gwneud Hanes MODIWLAU GORFODOL
ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU DEWISOL Ewrop Ganol Oesol: Cyflwyniad
Prydain a’r Byd, 1800-2000
Modiwl Taith Faes: Y Gorffennol yn ei Le
Ewrop o Eithafoedd, 1789-1989
Blwyddyn 2 (Lefel 5): 120 credyd yn cynnwys 1 modiwl 20 credyd gorfodol a 5 modiwl 20 credyd dewisol
Ymarfer Hanes MODIWLAU GORFODOL
ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU DEWISOL Prydain Ganoloesol, 1250-1461
Prydain, Caethwasiaeth a’r Fasnach Gaethweision, c.1500-1833 Ffoaduriaid yn yr Ugeinfed Ganrif
America Chwyldroadol, 1760- 1791
Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 credyd yn cynnwys 1 modiwl 40 credyd gorfodol a 4 modiwl 20 credyd dewisol
Traethawd Hir Hanes MODIWLAU GORFODOL
ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU DEWISOL
Hanes ar y Sgrin: Teledu, Sinema a Gemau Cyfrifiadurol Rhyfel Cartref Rwsia
Y Groesgad Gyntaf: Defosiwn, Duwioldeb a Grym yn y Byd Cristnogol Lladinaidd Anffurfiad, Gwyredigaeth a Gwahaniaeth: Archwilio Hanes Anabledd
• Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. • Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen . • Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/hanes
PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS
BYD HYNAFOL
HANES
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia. Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid
oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Dewisais Astudiaethau Americanaidd a Hanes oherwydd roedd hi’n teimlo fel petai’r cwrs yn Abertawe wedi’i wneud yn arbennig i mi, gyda modiwlau ar y themâu a’r cyfnodau hanesyddol sydd o’r diddordeb mwyaf i mi. Nawr fy mod i yma, rwy’ hefyd wedi darganfod pynciau newydd doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod y byddwn i’n eu mwynhau. Mae’r profiad i fi fel myfyriwr wedi bod yn anhygoel. Rwy’ wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac rwy’ wedi dod i adnabod fy nhiwtoriaid yn dda, hefyd. Un o’r pethau gorau am fy mhrofiad prifysgol hyd yn hyn fu’r bobl! Byddwn i’n sicr yn argymell y cwrs gan fod cymaint i’w fwynhau a chymaint o amrywiaeth o bynciau i ddewis ohonyn nhw.
GEORGE LANHAM Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.
Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir. MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.
Fe wnes i wir fwynhau’r amrywiaeth o fodiwlau ar fy nghwrs; er enghraifft, roeddwn i’n gallu astudio ar draws amrywiaeth o bynciau o Derfysgaeth yn America i Gyfnod y Dadeni. Roedd fy narlithwyr i’n ddifyr iawn ac yn galluogi myfyrwyr i fwynhau eu pynciau cymaint ag y maen nhw. Mae’r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd allgyrsiol ac roeddwn wedi gallu gwneud dau interniaeth yn ystod fy nghyfnod yn Abertawe. Rwy’n ddiolchgar am yr interniaethau ddarparodd Prifysgol Abertawe i mi. Maen nhw wedi fy helpu i sicrhau fy rôl bresennol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar Raglen Rheolaeth Gyffredinol y GIG i Raddedigion.
CAITLIN GILBERT Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh)
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD DYFODOL MEWN HANES Archifau Busnes a Rheolaeth Gwasanaeth Sifil Addysg Treftadaeth a Thwristiaeth
Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Amgueddfeydd a Threftadaeth Y sector cyhoeddus Dysgu
Ar ôl ymweld â Phrifysgol Abertawe ar ddiwrnod agored, gweld y campws a’r lleoliad unigryw ger y traeth, y cynigion o ran cyrsiau a’r cymorth penodol ar gyfer awtistiaeth, penderfynais mai dyma oedd y lle i mi! Fe wnes i gwblhau BA (cydanrhydedd) mewn Daearyddiaeth a Hanes, gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, cyn gwneud MA mewn Hanes Modern. Ar draws y brifysgol, gan y darlithwyr, ffrindiau, y gwasanaethau cymorth awtistiaeth a thrwy’r cymdeithasau gwych sydd ar gael, teimlais fy mod i’n cael fy nerbyn a fy mod i’n perthyn. Gorffennais fy ngradd meistr gyda rhagoriaeth!
JESSICA SMITH Hanes Modern, MA
CYFLEUSTERAU Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o gyfleusterau gwych yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys: Y GANOLFAN EIFFTAIDD Mae’r Ganolfan Eifftaidd, sef yr amgueddfa ar gampws Prifysgol Abertawe, yn gartref i fwy na 6,000 o arteffactau hynafol, o’r Aifft yn bennaf, ond hefyd o ranbarthau o gwmpas Môr y Canoldir. Rydym yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ddysgu trwy drin a thrafod gwrthrychau hynafol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn rhedeg yr amgueddfa hefyd ac ennill profiad gwaith gwerthfawr yn y diwydiant treftadaeth. CASGLIAD ALLAN MILNE Mae gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe gasgliad mawr o lyfrau yn gysylltiedig â Rhyfel Cartref America, sy’n cefnogi astudiaethau ac ymchwil. Mae gan Gasgliad Milne ryw 4,000 o lyfrau yn gysylltiedig â’r gwrthdaro, ynghyd â’r Argyfwng Trychiadol a’r Oes Ailadeiladu. Fe’i rhoddwyd i’r rhaglen Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010 gan yr addysgwr a’r ymddiddorwr brwd yn y Rhyfel Cartref, Mr Allan Milne o Gaerdydd, ac mae’n parhau i dyfu. ARCHIFAU RICHARD BURTON Rydym yn gartref i archif seren y llwyfan a’r sgrin, Richard Burton. Mae’n dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Caiff cofnodion o werth hanesyddol eu diogelu yn yr archifau ac maent ar gael i’r holl fyfyrwyr eu gweld.
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Roeddwn i wrth fy modd gydag ansawdd y cyfleusterau yn fy nghwrs gradd mewn hanes, yn enwedig y llyfrgell. O’r casgliad o lyfrau i Archifau Richard Burton, fel hanesydd, roedd hyn mor gyffrous i mi. Roeddwn i’n gallu dewis modiwlau amrywiol iawn o’r Ymerodraeth Rufeinig i leoliad gwaith, a oedd yn wych. Ar y cyfan, roedd y Brifysgol yn teimlo fel gartref, ac roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cyflawni pethau gwych yn Abertawe.
ALYS ADEY Hanes, BA (Anrh)
Mae Hanes wedi’i lleoli ar Gampws Singleton, sydd â theimlad cartrefol, braf. Rwy’n gallu dilyn rhai o fy modiwlau Hanes yn Gymraeg. Rwy’ wedi mwynhau dysgu am y Dadeni a chelf o’r cyfnod hwn, yn arbennig. Mae astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg wedi fy helpu i ennill mwy o hyder yn y Gymraeg. Rwy’ wedi datblygu sgiliau fel gwneud cyflwyniadau llafar i’r dosbarth erbyn hyn, a fydd yn fy helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol, pan fydd rhaid i mi siarad a bod yn hyderus.
RHIANNON PIGGON Hanes, BA (Anrh)
YMCHWIL Mae gwaith haneswyr Abertawe yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfnodau a lleoedd: o’r Oesoedd Canol cynnar hyd heddiw, ac o Brydain ac Ewrop i Asia a Chyfandiroedd America. Rydym ni’n astudio’r gorffennol a’i arwyddocâd oesol trwy amrywiaeth o ddulliau – diwylliannol a deallusol, cymdeithasol ac economaidd, cyfreithiol a meddygol, gwleidyddol a milwrol – ac rydym ni’n cymhwyso’n gwybodaeth i faterion cyfoes fel gofal meddygol, diogelu a dehongli treftadaeth, addysg hanes mewn ysgolion, hunaniaethau cenedlaethol, anabledd ac iechyd meddwl. PROSIECTAU A PHARTNERIAETHAU YMCHWIL Mae haneswyr Abertawe yn gweithio gyda phartneriaid a chyllidwyr allanol i gynhyrchu ymchwil academaidd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymchwil sydd ag effaith arwyddocaol yn rhyngwladol. Mae ein partneriaid allanol yn cynnwys amgueddfeydd a mathau eraill o sefydliadau treftadaeth, llywodraeth leol, y sector preifat, a chymdeithasau academaidd a sefydliadau addysgol. Mae enghreifftiau o brosiectau presennol yr ydym yn bartneriaid â nhw yn cynnwys Darlunio Castell Margam, a fydd yn defnyddio realiti rhithwir i ddehongli un o asedau treftadaeth amlycaf Cymru, a’r Tu Hwnt i Ffiniau: Yr Ail Ryfel Byd, Hunaniaethau Cenedlaethol ac Ymerodraeth yn y DU, sy’n ystyried cysyniadau ‘Prydeindod’ ar draws pedair cenedl y Deyrnas Unedig ac a fydd yn cynhyrchu adnoddau newydd i ysgolion ar y cyd â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol. Caiff myfyrwyr gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil trwy ein modiwl, Lleoliad Gwaith Hanes, a thrwy interniaethau â thâl.
SBOTOLAU AR YMCHWIL: Yn ddiweddar, cyhoeddodd Dr Michael Bresalier y gyfrol Modern Flu: British Medical Science and the Viralisation of Influenza, 1890-1950 (Palgrave Macmillan, 2023), sy’n olrhain hanes darganfod firws y ffliw dynol a’r ffyrdd y gwnaeth hyn ysgogi cyfres o drawsnewidiadau ym maes meddygaeth ac iechyd y cyhoedd. Mae’n rhan o dîm sydd wedi cael £2.8 miliwn gan Ymddiriedolaeth Wellcom i astudio anghyfiawnder mewn darpariaeth gofal iechyd dros y chwe blynedd nesaf. Mae Dr. Imogen Dobie newydd ymuno â thîm hanes Abertawe o Brifysgol Rhydychen, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ym mis Rhagfyr 2023. Mae maes ei harbenigedd yn un amserol iawn: Gwaith mudiadau dyngarol yn gysylltiedig â chroesi’r môr gan ffoaduriaid a mudwyr. Cyhoeddwyd ei herthygl, ‘Rocking the Boat: Maritime Rescue and the Professionalization of Relief, 1978-82’, yn yr European Review of History yn 2022. Mae llyfr diweddaraf Dr Tomás Irish, Feeding the Mind: Humanitarianism and the Reconstruction of European Intellectual Life, 1919-1939 (Cambridge University Press, 2023), yn archwilio sut y cafodd bywyd deallusol Ewrop ei ailadeiladu yn dilyn trychineb y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ystyried pam y gwnaeth llawer o sefydliadau, gyda miliynau o bobl dan fygythiad newyn a chlefyd, ddewis canolbwyntio ar gynorthwyo deallusion, gan roi bwyd, meddygaeth a llyfrau iddynt, er mwyn sefydlogi democratiaethau Ewropeaidd ac adeiladu trefn ryngwladol heddychlon.
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.
MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personolsy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU
E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk
www.swansea.ac.uk/cy/diwylliant- cyfathrebu
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24Made with FlippingBook HTML5