BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia. Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid
oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Dewisais Astudiaethau Americanaidd a Hanes oherwydd roedd hi’n teimlo fel petai’r cwrs yn Abertawe wedi’i wneud yn arbennig i mi, gyda modiwlau ar y themâu a’r cyfnodau hanesyddol sydd o’r diddordeb mwyaf i mi. Nawr fy mod i yma, rwy’ hefyd wedi darganfod pynciau newydd doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod y byddwn i’n eu mwynhau. Mae’r profiad i fi fel myfyriwr wedi bod yn anhygoel. Rwy’ wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac rwy’ wedi dod i adnabod fy nhiwtoriaid yn dda, hefyd. Un o’r pethau gorau am fy mhrofiad prifysgol hyd yn hyn fu’r bobl! Byddwn i’n sicr yn argymell y cwrs gan fod cymaint i’w fwynhau a chymaint o amrywiaeth o bynciau i ddewis ohonyn nhw.
GEORGE LANHAM Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor
Made with FlippingBook HTML5