Hanes

CYFLEUSTERAU Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o gyfleusterau gwych yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys: Y GANOLFAN EIFFTAIDD Mae’r Ganolfan Eifftaidd, sef yr amgueddfa ar gampws Prifysgol Abertawe, yn gartref i fwy na 6,000 o arteffactau hynafol, o’r Aifft yn bennaf, ond hefyd o ranbarthau o gwmpas Môr y Canoldir. Rydym yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ddysgu trwy drin a thrafod gwrthrychau hynafol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn rhedeg yr amgueddfa hefyd ac ennill profiad gwaith gwerthfawr yn y diwydiant treftadaeth. CASGLIAD ALLAN MILNE Mae gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe gasgliad mawr o lyfrau yn gysylltiedig â Rhyfel Cartref America, sy’n cefnogi astudiaethau ac ymchwil. Mae gan Gasgliad Milne ryw 4,000 o lyfrau yn gysylltiedig â’r gwrthdaro, ynghyd â’r Argyfwng Trychiadol a’r Oes Ailadeiladu. Fe’i rhoddwyd i’r rhaglen Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010 gan yr addysgwr a’r ymddiddorwr brwd yn y Rhyfel Cartref, Mr Allan Milne o Gaerdydd, ac mae’n parhau i dyfu. ARCHIFAU RICHARD BURTON Rydym yn gartref i archif seren y llwyfan a’r sgrin, Richard Burton. Mae’n dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Caiff cofnodion o werth hanesyddol eu diogelu yn yr archifau ac maent ar gael i’r holl fyfyrwyr eu gweld.

Made with FlippingBook HTML5