Hanes

YMCHWIL Mae gwaith haneswyr Abertawe yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfnodau a lleoedd: o’r Oesoedd Canol cynnar hyd heddiw, ac o Brydain ac Ewrop i Asia a Chyfandiroedd America. Rydym ni’n astudio’r gorffennol a’i arwyddocâd oesol trwy amrywiaeth o ddulliau – diwylliannol a deallusol, cymdeithasol ac economaidd, cyfreithiol a meddygol, gwleidyddol a milwrol – ac rydym ni’n cymhwyso’n gwybodaeth i faterion cyfoes fel gofal meddygol, diogelu a dehongli treftadaeth, addysg hanes mewn ysgolion, hunaniaethau cenedlaethol, anabledd ac iechyd meddwl. PROSIECTAU A PHARTNERIAETHAU YMCHWIL Mae haneswyr Abertawe yn gweithio gyda phartneriaid a chyllidwyr allanol i gynhyrchu ymchwil academaidd o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymchwil sydd ag effaith arwyddocaol yn rhyngwladol. Mae ein partneriaid allanol yn cynnwys amgueddfeydd a mathau eraill o sefydliadau treftadaeth, llywodraeth leol, y sector preifat, a chymdeithasau academaidd a sefydliadau addysgol. Mae enghreifftiau o brosiectau presennol yr ydym yn bartneriaid â nhw yn cynnwys Darlunio Castell Margam, a fydd yn defnyddio realiti rhithwir i ddehongli un o asedau treftadaeth amlycaf Cymru, a’r Tu Hwnt i Ffiniau: Yr Ail Ryfel Byd, Hunaniaethau Cenedlaethol ac Ymerodraeth yn y DU, sy’n ystyried cysyniadau ‘Prydeindod’ ar draws pedair cenedl y Deyrnas Unedig ac a fydd yn cynhyrchu adnoddau newydd i ysgolion ar y cyd â’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol. Caiff myfyrwyr gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil trwy ein modiwl, Lleoliad Gwaith Hanes, a thrwy interniaethau â thâl.

SBOTOLAU AR YMCHWIL: Yn ddiweddar, cyhoeddodd Dr Michael Bresalier y gyfrol Modern Flu: British Medical Science and the Viralisation of Influenza, 1890-1950 (Palgrave Macmillan, 2023), sy’n olrhain hanes darganfod firws y ffliw dynol a’r ffyrdd y gwnaeth hyn ysgogi cyfres o drawsnewidiadau ym maes meddygaeth ac iechyd y cyhoedd. Mae’n rhan o dîm sydd wedi cael £2.8 miliwn gan Ymddiriedolaeth Wellcom i astudio anghyfiawnder mewn darpariaeth gofal iechyd dros y chwe blynedd nesaf. Mae Dr. Imogen Dobie newydd ymuno â thîm hanes Abertawe o Brifysgol Rhydychen, lle cwblhaodd ei doethuriaeth ym mis Rhagfyr 2023. Mae maes ei harbenigedd yn un amserol iawn: Gwaith mudiadau dyngarol yn gysylltiedig â chroesi’r môr gan ffoaduriaid a mudwyr. Cyhoeddwyd ei herthygl, ‘Rocking the Boat: Maritime Rescue and the Professionalization of Relief, 1978-82’, yn yr European Review of History yn 2022. Mae llyfr diweddaraf Dr Tomás Irish, Feeding the Mind: Humanitarianism and the Reconstruction of European Intellectual Life, 1919-1939 (Cambridge University Press, 2023), yn archwilio sut y cafodd bywyd deallusol Ewrop ei ailadeiladu yn dilyn trychineb y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n ystyried pam y gwnaeth llawer o sefydliadau, gyda miliynau o bobl dan fygythiad newyn a chlefyd, ddewis canolbwyntio ar gynorthwyo deallusion, gan roi bwyd, meddygaeth a llyfrau iddynt, er mwyn sefydlogi democratiaethau Ewropeaidd ac adeiladu trefn ryngwladol heddychlon.

Made with FlippingBook HTML5