Hanes

HANES Archwiliwch dros 1,500 mlynedd o’r gorffennol ym Mhrydain, Ewrop, yr Unol Daleithiau a thu hwnt, gan ddyfnhau hefyd eich dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r gorffennol wedi llywio’r presennol. Mae themâu astudio’n cynnwys gwleidyddiaeth, crefydd, newid cymdeithasol, rhywedd, iechyd a meddyginiaeth, treftadaeth, a rhyfel a heddwch. EIN GRADDAU

Hanes, BA (Anrh) Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

V100 V101 V10I V102

Byddwch yn mwynhau hyblygrwydd gallu astudio amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol a themâu ar draws Prydain, Ewrop ac America, gan archwilio’r cyflwr dynol o’r Oesoedd Canol hyd heddiw. Byddwch yn dysgu sylfeini’r dulliau sy’n cael eu defnyddio gan haneswyr i ddeall ac esbonio’r agweddau gwahanol ar y gorffennol ac, wrth i’ch astudiaethau fynd rhagddynt, byddwch yn gallu canolbwyntio’n fwy ar y canrifoedd, y diwylliannau a’r mathau o newid hanesyddol sydd o’r diddordeb pennaf i chi. Ymhlith y pynciau y gallwch eu harchwilio y mae gwleidyddiaeth, rhywedd, treftadaeth, meddygaeth, iechyd ac anabledd, a rhyfel a heddwch.

VT17 TV71 VT1I

Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Archwiliwch ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau, o wladychu hyd heddiw, ochr yn ochr â hanes Prydain, Ewrop a hanes y byd. Gallwch ffurfio’r radd amlddisgyblaethol hon yn ôl eich diddordebau eich hun gydag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cerddoriaeth a llenyddiaeth America; ffilm a theledu; a hil a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Hefyd, gallwch fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn yr Unol Daleithiau neu gallwch ymestyn eich gradd gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant.

Made with FlippingBook HTML5