Llenyddiaeth Saesneg a Ysgrifennu Creadigol

LLENYDDIAETH SAESNEG A YSGRIFENNU CREADIGOL

SAFLE SAESNEG 11EG YN Y DU AM EFFAITH YMCHWIL (REF2021)

SAFLE SAESNEG 101-150 UCHAF YN Y BYD (QS WORLD RANKINGS 2024)

Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/diwylliant-cyfathrebu am yr wybodaeth ddiweddaraf.

CROESO

Croeso cynnes i Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.

RYDYM YN CYNNIG:

Cyfleoedd Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Cyfle i dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr. Cynnwys Cwrs Hyblyg Ystod eang o bynciau Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Sgiliau Ysgrifennu Sgiliau Ymchwil a Dadansoddol Sgiliau Cyfathrebu SGILIAU I’W CAFFAEL:

Meddu ar sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil Manteisio ar gefnogaeth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:

Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

LLENYDDIAETH SAESNEG A YSGRIFENNU CREADIGOL Mae rhaglenni gradd yn ein hadran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ymdrin ag ystod hynod ddiddorol o arddulliau ysgrifennu, genres a phynciau. O Beowulf i astudiaethau heddiw, gallwch deilwra’ch gradd i’ch diddordebau. Gallwch ddysgu oddi wrth awduron sefydledig y mae eu gwaith wedi’i gyhoeddi, ei ddarlledu a’i berfformio’n eang. Mae gennym gysylltiadau agos â’r diwydiannau creadigol, a gallwch gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.

Am fwy o wybodaeth, sganiwch y QR neu ewch i’n gwefan.

swansea.ac.uk/cy/llenyddiaeth-saesneg-ysgrifennu-creadigol

EIN GRADDAU

Q300 QH20 Q302

Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, gan gynnwys genres y Dadeni a Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif a ffuglen gyfoes. Gallwch hefyd ddewis modiwlau yn ymwneud ag ysgrifennu creadigol a phroffesiynol. Abertawe yw man geni Dylan Thomas, a ystyrir gan lawer o ysgolheigion llenyddol fel un o feirdd telynegol mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, ac ymhlith y goreuon erioed.

Q3W9 QHW8 Q3WI Q3W3

Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Bydd y radd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu i chi er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel awdur. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o arddulliau a genres, yn ogystal ag astudio hanes, traddodiadau, a theori Llenyddiaeth Saesneg. Gallwch deilwra’r radd i’ch diddordebau eich hun, gan ddysgu sut i ysgrifennu nofelau, sut i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, sgrin a darllediad, straeon byrion a ffeithiol, ac ysgrifennu barddoniaeth.

QQ31 QQ33 QQ3I

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Byddwch yn astudio’r berthynas rhwng Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Byddwch yn archwilio ac yn dadansoddi ystod o destunau llenyddol o gyd-destunau amrywiol a chyfnodau hanesyddol, o Beowulf hyd heddiw, ochr yn ochr ag archwilio’r berthynas cymhleth rhwng llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes wrth ystyried sut mae geiriau’n cyfuno i’n hysbrydoli a’n cyffroi, ein perswadio, ein hannog a’n difyrru.

QR31

Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Mae Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg gyda Blwyddyn Dramor yn gwrs cyffrous a heriol sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar astudiaethau ar draws dwy iaith. Mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn ymdrin â llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang o genres y Dadeni a Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif a ffuglen gyfoes. Byddwch hefyd yn dod yn ysgolhaig iaith, hanes a diwylliant, a chelfyddydau cyfoethog Ffrainc. Mae’r cwrs yn cynnwys yr iaith Ffrangeg, ffuglen, cyfieithu, ac addysgu iaith. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fyw yn Ffrainc am Flwyddyn ac astudio mewn prifysgol, addysgu neu gael profiad gwaith.

QR32

Llenyddiaeth Saesneg Ac Almaeneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Dewch yn ysgolhaig iaith, hanes, llenyddiaeth, ffilm a diwylliant cyfoethog yr Almaen, Awstria a’r Swistir fodern. Mae’r cwrs yn cynnwys yr iaith Almaeneg, ffuglen, cyfieithu, ac addysgu iaith. Byddwch hefyd yn archwilio dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, gan gynnwys canrifoedd o lenyddiaeth Almaenig. Byddwch yn gwella eich rhagolygon gyrfa ymhellach trwy dreulio Blwyddyn Dramor yn yr Almaen, lle byddwch yn astudio mewn prifysgol, yn ymgymryd â lleoliad gwaith, neu’n addysgu mewn ysgol.

QV31 QV3C QV3I

Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae Llenyddiaeth Saesneg a Hanes yn gwrs amrywiol a heriol, sy’n ymestyn o’r oesoedd canol i’r oes fodern. Archwiliwch dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, tra hefyd yn ymchwilio i rai cwestiynau pryfoclyd y gall ysgrifennu eu datgelu ynghylch rhywedd, diwylliant a mwy. Bydd ystod eang o fodiwlau hanes yn eich galluogi i ddewis meysydd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a gallant gynnwys Ewrop yr Oesoedd Canol, hanes cymdeithasol modern Prydain, hanes crefydd, iechyd a meddygaeth, rhywedd a hanes menywod, hanes diwylliannol, hanes a chof am ryfel a gwrthdaro, hanes cyhoeddus a threftadaeth, a’r Rhyfel Oer.

QR34

Llenyddiaeth Saesneg a Sbaeneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Dewch yn ysgolhaig iaith, hanes a diwylliant cyfoethog Sbaen, Portiwgal ac America Ladin. Mae’r cwrs yn ymdrin â gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen, llenyddiaeth Sbaeneg a Chatalaneg yr 20fed a’r 21ain ganrif yn ogystal â chyfieithu ac addysgu. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang o genres y Dadeni a Gothig, llenyddiaeth y 19eg ganrif a ffuglen gyfoes. Byddwch yn gwella eich rhagolygon gyrfa ymhellach trwy dreulio Blwyddyn Dramor mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith.

QXH3 QX01

Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QXHI

Archwiliwch dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, ochr yn ochr â TESOL, a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i addysgu Saesneg fel ail iaith. Dysgwch am fethodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddi disgwrs. Mae cyfle hefyd i ennill cymhwyster proffesiynol CELTA (Cambridge Certificate in English Language Teaching to Adults) ar gyfer athrawon Saesneg fel iaith dramor, a gydnabyddir yn rhyngwladol.

swansea.ac.uk/cy/llenyddiaeth-saesneg-ysgrifennu-creadigol

QP33 QP34 QP3I

Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae’r rhaglen BA Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg yn cyfuno sgiliau cyfryngol ymarferol ynghyd ag archwilio llenyddiaeth ac ysgrifennu. Byddwch yn archwilio theori a thechnegau sy’n berthnasol i gyfryngau modern ac ymarfer digidol, gan gynnwys cynhyrchu radio a fideo, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, theori’r cyfryngau, cyfraith y cyfryngau a ffilm.

Byddwch hefyd yn astudio ystod eang o genres llenyddiaeth, ysgrifennu creadigol a phroffesiynol, rhywedd a diwylliant, barddoniaeth, a llenyddiaethau cenedlaethol a byd-eang.

QQ3N QQ4N

Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg (Llwybr i Fyfyrwyr Iaith Gyntaf), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QQ39

Mae cychwyn ar y daith hon, gan dreiddio i lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg, yr iaith Gymraeg, ac amlddiwylliannedd, nid yn unig yn addo profiad cyfoethog ond hefyd yn datgelu llu o gyfleoedd gyrfaol deniadol. Mae’r cwrs wedi’i saernïo i’ch arfogi â sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr. Bydd eich archwiliad academaidd yn cynnwys cymhlethdodau iaith, deinameg cyfathrebu cymdeithasol, a llwybr cronolegol trwy ganrifoedd o lenyddiaeth— o’r bardd Dafydd ap Gwilym o’r 14eg ganrif i benillion cyfoes Mererid Hopwood.

QQH5 QQH6

Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Llenyddiaeth Saesneg a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QQHI

Mae archwilio llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg, yr iaith Gymraeg ac amlddiwylliannedd ar y cwrs hwn yn agor ystod o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu’r ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr eu heisiau. Byddwch yn astudio sut mae iaith yn gweithio, sut mae cymdeithasau’n cyfathrebu a chanrifoedd o lenyddiaeth, o’r bardd Dafydd ap Gwilym o’r 14eg ganrif i benillion cyfoes Mererid Hopwood.

CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol: swansea.ac.uk/cy/llenyddiaeth-saesneg-ysgrifennu-creadigol

SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL

CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC

TEITL Y CWRS

BAGLORIAETH RYNGWLADOL

TGAU NEU GYFWERTH

LLENYDDIAETH SAESNEG, BA (Anrh)*

N/A

ABB-BBC

DDM-DMM

30-33

IAITH A LLENYDDIAETH SAESNEG, BA (Anrh)*

LLENYDDIAETH SAESNEG A HANES, BA (Anrh) *

Y CYFRYNGAU A LLENYDDIAETH SAESNEG, BA (Anrh)*

LLENYDDIAETH SAESNEG GYDAG YSGRIFENNU CREADIGOL, BA (Anrh)*

LLENYDDIAETH SAESNEG AC ADDYSGU SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL, BA (Anrh)*

LLENYDDIAETH SAESNEG A FFRANGEG, BA (Anrh)*

ABB-BBC

DDM-DMM 5 TGAU gradd C/4 neu uwch. Mae TGAU

30-33

gradd C (4) o leiaf mewn iaith dramor fodern yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Bydd pob cais iaith yn cael ei ystyried yn ôl teilyngdod.

LLENYDDIAETH SAESNEG AC ALMAENEG, BA (Anrh)*

LLENYDDIAETH SAESNEG A SBAENEG, BA (Anrh)*

LLENYDDIAETH SAESNEG A’R GYMRAEG (LLWYBR I FYFYRWYR IAITH GYNTAF), BA (Anrh)* LLENYDDIAETH SAESNEG A’R GYMRAEG (LLWYBR AR GYFER MYFYRWYR AIL IAITH), BA (Anrh)*

ABB-BBC

DDM-DMM Cymraeg o leiaf Gradd C (4).

30-33

Byddai Safon Uwch Cymraeg yn fwy dymunol.

ABB-BBC

DDM-DMM Cymraeg o leiaf Gradd C (4).

30-33

Bydd angen Cymraeg Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Cymraeg Ail Iaith.

* gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo

Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau disgwyliedig a’ch dewis o gwrs, efallai y byddwn yn cynnig lle i chi ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall - a bydd cwblhau’r cwrs yn arwain at Flwyddyn 1 o’ch dewis gwrs. Dysgir y flwyddyn sylfaen hefyd ar Gampws Singleton. Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@swansea.ac.uk .

MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein gradd 3 blynedd Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh). Mae pob gradd yn cynnig modiwlau amrywiol. Ewch i’n gwefan i weld yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs.

Mae rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol i’w gweld yma: swansea.ac.uk/cy/ israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/llenyddiaeth-saesneg-ysgrifennu-creadigol

LLENYDDIAETH SAESNEG, BA (ANRH)

Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd am y flwyddyn: 60 credyd gorfodol a 60 credyd dewisol.

Angenfilod, Damcaniaethau, Trawsnewidiadau MODIWLAU GORFODOL

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU DEWISOL

Cyflwyniad i Lenyddiaeth a Diwylliant America Agweddau at Rywedd mewn Llenyddiaeth Saesneg

System Sain Saesneg

Ysgrifennu Creadigol: Genres Ffuglen

Y Byd Drama Llwyfan

Blwyddyn 2-3 (Lefel 5-6): 120 credyd o fodiwlau dewisol ar gyfer pob blwyddyn:

Iaith yn y Cyfryngau ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU DEWISOL

Nofel Graffeg

Barddoniaeth yn yr Ugeinfed Ganrif Ysgrifennu ar gyfer Radio a Sgrin

Trawma Darllen/Ysgrifennu

Cymru Gothig / Gothic Wales Dychan Rhufeinig: Brygowthan a Chellwair Prosiect Ysgrifennu Creadigol Personol

Athroniaeth a Llenyddiaeth

Ffuglen Trosedd ers 1920

Polisi a Chynllunio Ieithyddol

Ffuglen Wyddoniaeth a’r Cyfryngau Y tu hwnt i Shakespeare

Ysgrifenedig mewn Gwaed: Darllen y Fampir

Llenyddiaeth Affricanaidd Americanaidd 1910- 1940: Dadeni Harlem

Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is.

Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen .

PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:

EFFAITH GYMDEITHASOL 100 YN Y UCHAF

Mae llawer o fwrlwm yng nghymuned y Gyfadran bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau sesiynau gydag anifeiliaid egsotig, cyfleoedd i ddysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio drwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau celf a chrefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!

IECHYD A LLES

Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol ac yn ysgogi newid. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Hunan Ofal: Mae hunan ofal yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr mewn modd gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS

CLWB LLYFRAU

YSGRIFENNU CREADIGOL

FFILM CYMDEITHAS

SAESNEG

DRAMA

Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies

BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia. Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid

oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb

Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol

Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes ac yn bwriadu ymweld â phob un ohonyn nhw rhywbryd yn y dyfodol, o’r Almaen yr holl ffordd i El

Salvador.

Ochr yn ochr â hyn, fe wnes i ddarganfod llawer amdanaf i fy hun, o ran fy ngallu i fod heb fy ffrindiau a’m teulu a bod yn hollol fodlon o hyd. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr dramor yn y dyfodol fyddai i achub y cyfle hwn, yn bendant. Dydw i erioed wedi difaru’r penderfyniad a bydden i’n gwneud blwyddyn arall pe bawn i’n gallu!

BETHAN WILLIAMS Blwyddyn Dramor: Ecole Superieure de Commerce de Rennes, Ffrainc

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.

MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS

Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.

Rhoddodd y rhaglen BA ym Mhrifysgol Abertawe sylfaen gref i mi yn ieithyddol, yn academaidd ac o ran profiad. Fe wnaeth taith gyfnewid i Brifysgol Bamberg ac interniaeth yn Robert Bosch GmbH yn Stuttgart (Yr Almaen) helpu i mi ddatblygu sgiliau allweddol a’m gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol ar gyfer swyddi yn y dyfodol. Rwyf bellach yn ymchwilydd doethurol Doethuriaeth sy’n canolbwyntio ar bolisi mewnfudo. Rwyf wedi gweithio i rai o’r cyfranogwyr allweddol mewn mewnfudo rhyngwladol, ac wedi cael Ysgoloriaeth y Gymdeithas Japaneaidd ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth yn ddiweddar i gynnal Cymrodoriaeth Ymchwil Wadd yng Nghanolfan Astudiaethau’r Dwyrain Pell, Prifysgol Toyama.

SZYMON PARZNIEWSKI Interniaeth gyda Robert Bosch GmbH yn Stuttgart, Yr Almaen

CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:

Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau

Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio

Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:

• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL MEWN LLENYDDIAETH SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL

Ysgrifennwr copi Addysg Newyddiaduraeth

Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus Gweinyddu prosiect

Gwasanaethau cyhoeddus Teledu, Radio, Theatr Ysgrifenydd

Roedd pynciau penodol Saesneg a Drama yn uniongyrchol ddefnyddiol yn fy ngyrfa deledu. Roedd fy ngradd yn annog cariad at ddarllen a sgriptiau, gweithio gydag actorion/ talent ar y sgrin ac actio, ac agwedd arbrofol at y gwaith. Roedd Theatr Taliesin hefyd yn adnodd gwych a oedd yn rhoi dramâu anhygoel ymlaen. Yn fy ngyrfa, bûm yn gweithio fy ffordd i fyny o fod yn awdur sgriptiau hyrwyddo i fod yn ymchwilydd a chynhyrchydd, ac rwyf wedi bod yn gweithio yn UDA fel cynhyrchydd gweithredol i The X Factor, America’s Got Talent ac American Idol dros y 10 mlynedd diwethaf. Fy nghyngor i fyfyrwyr yw canolbwyntio, gwybod beth rydych eisiau ei gyflawni, a bod yn ddyfal.

PATRICIA KINANE Cynhyrchydd Gweithredol Teledu (The X Factor, America’s Got Talent ac American Idol) | Saesneg a Drama

CYFLEUSTERAU

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfleusterau anhygoel yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau gan gynnwys: CANOLFAN GELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar y campws, sy’n cynnwys Creu Taliesin, yn darparu theatr ddeinamig, sinema, a gofodau creadigol cynhwysol. Y SEFYDLIAD DIWYLLIANNOL – GWOBR DYLAN THOMAS Mae’r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe yn rheoli gwobr ryngwladol flynyddol Dylan Thomas, ac yn cynnal sgyrsiau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Y wobr lenyddol yw gwobr gyfoethocaf y byd i awduron o dan 40 oed. Mae’r cysylltiad hwn â’r diwydiant llenyddol wrth galon rhaglen Ysgrifennu Creadigol Abertawe, gan ddod â myfyrwyr i gysylltiad ag asiantau, golygyddion, cyhoeddwyr, awduron, perfformwyr a chynhyrchwyr. ARCHIFAU RICHARD BURTON Rydym yn gartref i archif y seren llwyfan a sgrin Richard Burton, sy’n dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cedwir cofnodion o werth hanesyddol yn yr archifau ac maent ar gael i bob myfyriwr. Mae gan yr Archifau gyfoeth o ddeunydd y gellid ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o waith ymchwil, gan gynnwys dyddiaduron Richard Burton, papurau Raymond Williams, a llyfr nodiadau a ailddarganfyddwyd yn ddiweddar gan Dylan Thomas.

CYMORTH I FYFYRWYR

Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:

Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol

Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni

Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol

Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd

Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

ARIAN A CHYNGOR

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu

SYLWADAU GAN FYFYRWYR

Dewisais astudio fy nghwrs BA Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg gan fod gennyf ddiddordeb mawr mewn astudio llenyddiaeth glasurol yn Saesneg/Ffrangeg yn ogystal â rhywfaint o ffilm, ac roedd y ddau gwrs yn cynnig yr opsiynau hyn yn y dewis o fodiwlau. Roedd gen i ddiddordeb mawr hefyd mewn cwblhau blwyddyn dramor fel rhan o’m cwrs, a Phrifysgol Abertawe oedd un o’r unig brifysgolion a gynigiodd y cyfuniad unigryw hwn ar radd cyd-anrhydedd, gyda’r cyfle i astudio Llenyddiaeth Saesneg ochr yn ochr â dysgu Ffrangeg.

ALEX ALDERSON Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Mae bod yn fyfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yn yr Adran Saesneg wedi fy ngalluogi i dyfu a chael fy ysbrydoli. Mae’r

amrywiaeth o fodiwlau heriol a hynod ddiddorol wedi fy helpu i ddatblygu fel awdur ac ymchwilydd. Rhoddodd fy mlwyddyn dramor, yn astudio yn Hong Kong, bwrpas a chyfeiriad pellach i mi ar gyfer fy nyfodol. Gall ystrydeb fod yn wir. Byddwch chi’n cael eich hun yma, ac yn cael cefnogaeth i allu dilyn eich hoffterau a’ch diddordebau.

AMBA TYRIE Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor, Llenyddiaeth Saesneg, MA

YMCHWIL

Nodau ein cyfadran a’n Hysgol yw cynhyrchu ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob cwr o’r byd. Mae gan yr adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ddiwylliant ymchwil bywiog gyda meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar bynciau fel Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg, Anabledd ac Iechyd Dyniaethau, Rhywedd ac Ysgrifennu Creadigol. SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Dylanwadu ar addysg Datblygu polisïau digidol a diwylliannol yng Nghymru a thramor Ysbrydoliaeth a ffynonellau newydd ar gyfer ymarferwyr y celfyddydau, cwmnïau cynhyrchu a chyhoeddwyr

ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:

Ysgrifennu Creadigol Ysgrifennu Drama Dylan Thomas

Rhywedd a Diwylliant Llenyddiaeth LGBTQ+ Theori Lenyddol

Llenyddiaeth Menywod

SBOTOLAU AR YMCHWIL: Ymunodd yr Athro Owen Sheers â Dr Chis Pack o’r Adran Cyfryngau a Chyfathrebu a Dr Lloyd Davies o’r Adran Ieithoedd Modern yn ail gyfres cyfres Podlediad Problemau Byd-eang Prifysgol Abertawe, gan rannu sut mae eu hymchwil wedi helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd- eang. Mae’r Athro Sheers, sy’n dysgu ysgrifennu creadigol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn fardd, dramodydd a nofelydd arobryn y mae ei waith yn cynnwys oratorio newid hinsawdd BBC Proms i blant yn 2007.

Gwrandewch ar ein harbenigwyr yn trafod sut mae ffuglen wyddonol yn archwilio’r berthynas rhwng gwyddoniaeth, cymdeithasau a’u hamgylcheddau: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/podlediadau/cyfres-2/newid-yn-yr-hinsawdd

Mae ymchwil yr Athro Kirsti Bohata i lenyddiaeth LGBT o Gymru yn datgelu bod pobl cwiar wedi gwneud cyfraniad pwysig i lenyddiaeth a hanes Cymru a’r byd. Mae blodeugerdd ddiweddar a olygwyd gan yr Athro Bohata - Queer Square Mile: Queer Short Stories from Wales - yn dwyn ynghyd bron i 50 o straeon byrion o 1830-2020 ac yn gosod ysgrifennu cwiar yng nghanol y canon Cymreig.

SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL

STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.

EICH CAMAU NESAF

MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.

HYDRED - TACHWEDD DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.

TACHWEDD - RHAGFYR ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.

EBRILL CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £

CHWEFROR - MAWRTH DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!

IONAWR DYDDIAD CAU UCAS Cofiwch gyflwyno’ch cais ar amser

MEHEFIN DEWISIADAU CADARN AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.

AWST DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.

MAI LLETY

Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau

CHWARAEON

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:

•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian

DARPARIAETH GYMRAEG

DIWYLLIANT

Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personolsy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.

DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR

I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!

Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored

CYSYLLTWCH Â NI

Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU

E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk

www.swansea.ac.uk/cy/diwylliant- cyfathrebu

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Chwiliwch am Prifysgol Abertawe

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5