CYFLEUSTERAU
Bydd gennych fynediad i ystod o gyfleusterau anhygoel yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau gan gynnwys: CANOLFAN GELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar y campws, sy’n cynnwys Creu Taliesin, yn darparu theatr ddeinamig, sinema, a gofodau creadigol cynhwysol. Y SEFYDLIAD DIWYLLIANNOL – GWOBR DYLAN THOMAS Mae’r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe yn rheoli gwobr ryngwladol flynyddol Dylan Thomas, ac yn cynnal sgyrsiau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Y wobr lenyddol yw gwobr gyfoethocaf y byd i awduron o dan 40 oed. Mae’r cysylltiad hwn â’r diwydiant llenyddol wrth galon rhaglen Ysgrifennu Creadigol Abertawe, gan ddod â myfyrwyr i gysylltiad ag asiantau, golygyddion, cyhoeddwyr, awduron, perfformwyr a chynhyrchwyr. ARCHIFAU RICHARD BURTON Rydym yn gartref i archif y seren llwyfan a sgrin Richard Burton, sy’n dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cedwir cofnodion o werth hanesyddol yn yr archifau ac maent ar gael i bob myfyriwr. Mae gan yr Archifau gyfoeth o ddeunydd y gellid ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o waith ymchwil, gan gynnwys dyddiaduron Richard Burton, papurau Raymond Williams, a llyfr nodiadau a ailddarganfyddwyd yn ddiweddar gan Dylan Thomas.
Made with FlippingBook HTML5