Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021
£8 MILIWN HYD AT O ariannu ar gael ar gyfer astudio ôl-raddedig ÔL-RADDEDIG PRIFYSGOL ABERTAWE 2021
CROESO I
Darganfyddwch fwy am Brifysgol Abertawe a’n rhaglenni Ôl-raddedig trwy archebu lle ar un o’n diwrnodau agored sydd ar ddod*.
CADWCH EICH LLE HEDDIW:
abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored
*edrychwch ar ein gwefan i gael manylion llawn, dyddiadau a fformat y diwrnodau agored sydd ar ddod.
(Yn seiliedig ar 41,000+ o adolygiadau myfyrwyr a gasglwyd)
10 DINAS UCHAF AM FYWYD NOS 2020 (studenthut.com)
FYFYRWYR ORAU
30 UCHAF YN Y DU
(The Times and Sunday Times, Canllaw Prifysgolion Da 2020) 30 PRIFYSGOL YMCHWIL UCHAF YN Y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 – 2021)
RHATAF YN Y DU D I NAS PR I F YSGOL (totallymoney.com 2019) 10
01
CYNNWYS
04 10 12 14 16 18 22 24 26 28 30 32 34 38 41 42 44
PAM MAE YMCHWIL YN BWYSIG ABERTAWE A’R RHANBARTH BARN EIN MYFYRWYR MAP CAMPWS PARC SINGLETON MAP CAMPWS Y BAE LLETY ARIANNU EICH ASTUDIAETHAU GYRFAOEDD, SGILIAU A CHYFLOGADWYEDD ASTUDIO A GWEITHIO DRAMOR MANTEISION ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG
ACADEMI HYWEL TEIFI UNDEB Y MYFYRWYR
CHWARAEON CYFLEUSTERAU CYNALIADWYEDD
LLES A CHYMORTH MYFYRWYR DEWIS GRADD ÔL-RADDEDIG
48
CYRSIAU
154 156 158 166
CADW MEWN CYSYLLTIAD FFIOEDD AC ARIANNU
YMGEISIO MYNEGAI
02
Yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle
Rydym yn croesawu barn newydd, a byddwch yn derbyn yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, gan ein holl staff, a thrwy fynediad i’n hadnoddau er mwyn cyflawni eich uchelgeisiau wrth gyfoethogi ein hamgylchedd ymchwil yn yr un pryd. Mae ymchwil ac arloesi wrth wraidd profiad Abertawe ac yn bwydo’n uniongyrchol i ansawdd ein haddysgu. Fe welwch gyfeiriad at ein heffeithiau yn y byd go iawn – o ystafelloedd dosbarth ynni-bositif i frechlynnau di-boen – ar dudalennau’r prosbectws hwn. Rwy’n gobeithio bod fy ffydd yn ein Prifysgol yn glir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i’n unig – dewch i un o’n diwrnodau agored i gael gwybod rhagor.
Fy rôl academaidd gyntaf oedd fel darlithydd ifanc yn yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe a gallaf ddweud yn gwbl onest fod ansawdd yr addysg a’r amgylchedd anogol heb eu hail. Mae ein Prifysgol wedi esblygu’n fawr dros y blynyddoedd, ond mae ein hegwyddorion yn aros yr un fath. Rydym ni’n gymuned, rydym ni’n rhoi ein pobl yn gyntaf ac mae mewnbwn gwerthfawr ein myfyrwyr ôl-raddedig yn cyfrannu’n fawr at ein llwyddiant. Fel Prifysgol, roedden ni ymhlith y 10 Prifysgol Orau yng nghategori Ôl-raddedigion Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2020 sef cymeradwyaeth glir gan y bobl bwysicaf.
03
PRIFYSGOL
30 PRIFYSGOL YMCHWIL UCHAF YN Y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 – 2021)
O: greu dur gwyrddach a glanach; troi plastig yn hydrogen; gwella iechyd y boblogaeth; gwarchod henebion hynafol i; herio a llunio polisi ynghylch tegwch a chydraddoldeb a sicrhau diogelwch unigolion a chymunedau ledled y byd, mae ein hymchwil yn helpu i atal gwrthdaro ac yn cynnig atebion i heriau byd-eang y byd modern. Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gynnig ymchwil amlddisgyblaethol ym mhob maes, gan annog meddwl gwreiddiol a gweithio cydweithredol i greu canlyniadau arloesol. Gallwch helpu i newid y byd a goresgyn heriau byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe, drwy weithio gydag academyddion byd-enwog, defnyddio cyfleusterau ymchwil blaenllaw a chydweithio â busnesau ac academyddion byd-eang. O’R RADD FLAENAF
90 % EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 – 2021)
abertawe.ac.uk/ymchwil DARGANFYDDWCH FWY
04
YMCHWI L .
ARLOESEDD IECHYD Mae iechyd yn bwysig, boed yn iechyd ein meddwl, ein cyrff neu ein lles. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn datblygu ac yn gwella’r ffordd mae’r byd yn ystyried polisïau, systemau, cynnyrch, technolegau a gwasanaethau iechyd sy’n helpu i wneud pobl a chymdeithas yn well. Mae Prifysgol Abertawe’n gartref i Gronfa Ddata o’r radd flaenaf, SAIL, sy’n cadw data ar yr unigolyn yn ddiogel ac yn ei ddefnyddio mewn ffordd ddienw. Mae ymchwil a wneir yn y Grŵp Gwybodeg Iechyd yn cyflawni canlyniadau i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Mae’n hymchwilwyr yn arwain y ffordd o ran arloesedd iechyd er mwyn gwella bywydau pobl: o greu’r genhedlaeth nesaf o bympiau gwaed chwyddadwy ar gyfer methiant difrifol y galon, i brofi clytiau croen micronodwyddau er mwyn rhoi brechlyn. Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn mabwysiadu ymagweddau arloesol at feddygaeth ac iechyd drwy ymchwilio i’r defnydd o gynrhon i lanhau anafiadau a defnyddio salmonela i wella canser. Rydym yn deall pwysigrwydd iechyd, corfforol a meddwl, ac yn ymdrechu i wella iechyd y boblogaeth a systemau iechyd ledled y DU. abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ arloesi-ym-maes-iechyd
05
YMCHWI L .
ARLOESEDD DUR Rydym yn credu bod dur yn ddiwydiant ar gyfer yr 21ain ganrif sy’n hanfodol ar gyfer y dyfodol. Mae’n hymchwilwyr yn ymchwilio i ffyrdd o greu ceir ysgafnach ac adeiladau gwyrddach. Rydym yn dod o hyd i ffyrdd i gael dyfodol sy’n fwy cynaliadwy, gan greu dur sy’n fwy priodol, yn wyrddach ac yn lanach, gan arbed deunyddiau crai a miliynau o bunnoedd i’r diwydiant ynni. Rydym yn trawsnewid diwydiant dur y DU gyda’r nod o sicrhau y bydd y diwydiant yn garbon-niwtral erbyn 2040. Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi helpu i greu cynnyrch newydd ar sail dur a phan gânt eu defnyddio mewn adeiladau, gallant storio ynni’r haul ac yna rhyddhau’r ynni hwnnw, gan leihau’r angen am adnoddau eraill. O dechnoleg ar lefel nano i effaith enfawr ffwrneisiau chwyth, nod ein hymchwil i ddur yw dylanwadu ar sefydliadau i helpu’r amgylchedd ar gyfer y dyfodol. Mae’n hymchwil ym maes dur yn cael ei defnyddio yn y diwydiant modurol hefyd, drwy ddatblygu dur ysgafnach ar gyfer ceir sy’n fwy ynni-effeithlon. Ein nod yw datblygu dyfodol gwell, gwyrddach a glanach i bawb.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ arloesedd-dur
GWRANDEWCH AR EIN PODLEDIADAU
ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG Lawrlwythwch nawr
abertawe.ac.uk/ymchwil/podlediadau
06
YMCHWI L .
GWEITHGYNHYRCHU SMART Rydym yn gweithio ar y cyd â chwmnïau blaenllaw i sicrhau newid ystyrlon, a gwella cystadleurwydd a chynhyrchedd byd-eang. Mae ein hymchwilwyr yn chwilio am y dulliau mwyaf effeithlon a chynhyrchiol ar gyfer gweithgynhyrchu yn gynaliadwy, gan greu gwerth mewn ffyrdd arloesol. Mae Prifysgol Abertawe yn arwain y prosiect ASTUTE 2020, gan gydweithio â’r diwydiant gweithgynhyrchu ledled Cymru er mwyn arloesi drwy ymchwilio i dechnolegau uwch newydd a symleiddio prosesau. Rydym ar flaen y gad wrth ddatblygu newid mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, o beirianneg maes awyrofod a maes cerbydau i weithgynhyrchu diwydiannol. Rydym wedi trawsnewid cyflymder dylunio aerodynamig, gan helpu i greu car uwchsonig 1000mya cyntaf y byd, a datblygu cynnyrch metal wedi’u caenu ym maes adeiladu gyda gwarant gwrthgyrydu o 40 o flynyddoedd. Mae’n hymchwil o hyd yn esblygu ac yn datblygu technolegau, deunyddiau a dulliau er mwyn helpu i gynnal a gwella economïau a’r amgylchedd.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ gweithgynhyrchu-clyfar
YMCHWI L .
DYFODOL CYNALIADWY, YNNI A’R AMGYLCHEDD
Mae’n hymchwilwyr yn ymdrechu i ganfod atebion i heriau byd-eang enfawr ein hoes. Mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled y byd, mae Prifysgol Abertawe yn gweithio i warchod ein planed i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn gweithio i drawsnewid y ffordd rydym yn byw drwy greu adeiladau sy’n gallu creu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain drwy ddefnyddio’r haul. Rydym wedi datblygu’r dechnoleg i waredu hanner biliwn o dunelli o garbon bob blwyddyn drwy ddal a newid carbon deuocsid, gan wrthbwyso allyriadau carbon byd-eang. Yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, rydym yn darganfod ac yn gweithredu technoleg newydd ar gyfer dyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel i bawb. Rydym yn datblygu atebion i’r argyfwng plastig, gan ddod o
hyd i ddefnydd ar gyfer plastig na ellir ei ailgylchu a’i drawsnewid yn hydrogen gall hynny bweru trafnidiaeth a diwydiant mewn ffordd lân a chynaliadwy. Mae’n hymchwil wedi gwarchod ardaloedd y mae tanau gwyllt yn effeithio arnynt rhag erydu difrifol. Rydym wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o symudiadau, mudo ac ymddygiad anifeiliaid. Ac ar yr Ynys Las, mae’n hymchwilwyr yn gweithio yn yr orsaf wyddonol ryngwladol i ddrilio’n ddwfn i’r iâ i ddeall hanes yr hinsawdd er mwyn amddiffyn dyfodol y blaned. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn mynd i’r afael â phroblemau heddiw, gyda syniadau yfory.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ dyfodol-cynaliadwy
07
YMCHWI L .
CYFIAWNDER A CHYDRADDOLDEB Mae’n hymchwil yn herio meddwl traddodiadol ac mae wedi newid polisi er mwyn amddiffyn dyfodol pobl fwyaf diamddiffyn ein cymdeithas. Rydym wedi gweithio i helpu i leihau anghydraddoldebau parhaus yn ein cymdeithas. Rydym wedi llywio cyfreithiau newydd ym maes hawliau dynol plant a phobl ifanc drwy ddarparu arweiniad at ddiben newid polisi. Mae’n hymchwil wedi llywio polisi ar wahaniaethu yn y gweithle yn uniongyrchol drwy ddatgelu anghydraddoldebau cryf yng Nghymru ac yn y DU. Rydym wedi ailfframio’r ffordd o drafod polisi cyffuriau ac wedi cyflwyno cysyniadau arloesol, megis hyrwyddo arferion lleihau niwed gan gynnwys rhaglenni cyfnewid nodwyddau a therapi amnewid opioidau. Rydym yn dylanwadu ar ofal, lles ac ansawdd bywyd pobl hŷn, drwy gynnig cyngor ac arweiniad drwy ganolfan flaenllaw Cymru dros astudiaethau heneiddio, sef y Ganolfan dros Heneiddio Arloesol. Rydym yn ystyried y gorffennol a’r presennol er mwyn creu dyfodol mwy cyfiawn, cyfartal a theg i bawb.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ cyfiawnder-a-chydraddoldeb
08
YMCHWI L .
gwella gofal iechyd yn ysbytai Abertawe ac yn archwilio effaith technoleg ar ddemocratiaeth. Ni oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i lansio rhaglen meistr ym maes TechGyfreithiol (LegalTech), gan arfogi myfyrwyr â’r sgiliau i fod yn gyfreithwyr yr 21ain ganrif. Rydym hefyd yn gartref i ganolfan ymchwil amlddisgyblaethol, CHERISH-DE, lle mae ymchwilwyr yn archwilio arloesedd digidol sy’n helpu pobl i ymateb i’n byd sy’n ehangu’n gyflym yn dechnolegol, gyda ffocws ar iechyd a gofal cymdeithasol, cymunedau ag adnoddau cyfyngedig, treftadaeth, seiberddiogelwch a seiberderfysgaeth.
Rydym yn byw mewn oes ddigidol lle mae technoleg o hyd yn newid, yn tarfu ac yn trawsnewid. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn meddwl yn gyson am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol mewn byd cynyddol dechnolegol. Mae ein hymchwil sy’n canolbwyntio ar bobl yn archwilio sut mae technoleg yn datblygu ac yn gwella ein bywydau ar draws pob disgyblaeth gan gynnwys y gyfraith, iechyd, gwyddoniaeth, peirianneg, y celfyddydau a’r dyniaethau. Mae’n hymchwilwyr yn defnyddio technoleg i wella gofal iechyd, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, dadansoddi Data Mawr a chreu cyfleoedd masnachol newydd. Drwy ein hymagwedd amlddisgyblaethol, mae Prifysgol Abertawe yn ymgymryd â phrosiectau technoleg sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn dinasoedd yn India, yn DYFODOL DIGIDOL
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein- huchafbwyntiau/dyfodol-digidol
YMCHWI L .
DIWYLLIANT, CYFATHREBU A THREFTADAETH
Mae ein hymchwil, sy’n heriol, yn dosturiol, yn ddylanwadol ac yn arloesol, yn mynd i’r afael â’r heriau mawr y mae’r gymdeithas yn eu hwynebu heddiw. Gyda phoblogaeth gynyddol sy’n heneiddio, ansicrwydd economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol ryngwladol, rydym yn byw mewn byd sy’n newid yn gyflym lle mae’r angen i greu diwylliant o sensitifrwydd, tosturi a pharch yn allweddol. Mae angen i ni fyfyrio ar y gorffennol i hysbysu’r dyfodol, cadw’n treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, dathlu amrywiaeth a diogelu iechyd corfforol a meddwl y boblogaeth. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn archwilio’r pynciau hyn drwy amrywiaeth o gwestiynau ymchwil. Mae’r byd yn newid yn fythol. Er ein bod ni bob amser yn edrych tua’r dyfodol, credwn ei bod hi’n bwysig i ni ddysgu gan y gorffennol.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ diwylliant-cyfathrebu-a-threftadaeth
ABERTAWE A’R
Bannau Brycheiniog, Cymru
AR GARREG Y DRWS Ar benrhyn Gŵyr, cewch lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gennych dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth gwych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Ewch am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr newydd â golygfeydd dros Fae Abertawe. SIOPA Gallwch chi ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gallwch ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu fachu bargen ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.
10
Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gallwch ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau’n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5,000 o arteffactau o’r Hen Aifft.
DIWYLLIANT
ADLONIANT
studentblogs.swan.ac.uk/cy/
Dwi wrth fy modd gyda marchnad dda ac wrth lwc, dwi’n byw yn Uplands sydd â marchnad fisol, lle mae tyfwyr, cynhyrchwyr, ffermwyr ac arlwywyr lleol yn gwerthu eu nwyddau. Mae hon yn farchnad fach hyfryd, felly os wyt yn dwlu ar fwyd a phethau tlws fel fi, mae’n werth ymweld â hi!
CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chewch chi ddim eich siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas! Mae gan Abertawe amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn. Disgwylir i arena gerddoriaeth newydd sbon Abertawe agor yn hydref / gaeaf 2021.
Joanna Wolton, myfyriwr PhD sy’n ysgrifennu blog
CARTREF I DYLAN THOMAS Mae gan y ddinas ger y lli ei llais barddonol ei hun. Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gallwch chi ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau.
11
Delweddu pensaernïol
#BywydPri fAber tawe
@shellfinder
@bearvisuals
@abishemiltx
#PrifAbertawe
@withmimii
@_hannahdavies_
@cristian_gram_
@bearvisuals
@bearvisuals
#SwanseaUniGlobal
@ewanhigh
@abishemiltx
#EinHabertawe
@greta.nele
PrifysgolAbertawe
prifysgol.abertawe Prif_Abertawe prifysgol_abertawe
DILYNWCH NI:
12
#PrifAbertawe
BARN
Dysgwch fwy gan ein myfyrwyr ôl-raddedig presennol a’n myfyrwyr ôl-raddedig sydd newydd raddio a fydd yn rhannu eu profiadau eu hunain am fywyd academaidd a bywyd myfyriwr yma ym Mhrifysgol Abertawe. Gwyliwch ein fideos i fyfyrwyr, gwrandewch ar ein podlediadau a dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael awgrymiadau ar bopeth o fywyd ar ôl graddio, i’r Thesis Tair Munud, a’r hyn ydyw i fyw yn Abertawe. FLOGIAU MYFYRIWR PRIFYSGOL ABERTAWE
Sganiwch i wrando:
Gwrandewch ar beth sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud spoti.fi/2PDfDeu
13
SINGLETON CAMPWS PARC
TRAETH SY’N YMESTYN DROS BUM MILLTIR, TAFLIAD CARREG O’R CAMPWS
0 Y BRIFYSGOL WYRDDAF UCHAF Y DU
(Guardian People & Planet University league 2019)
TA I TH RH I THWI R
abertawe.ac.uk/rhith-daith
14
BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws y Bae, 10 munud i ganol y ddinas TŶ FULTON
CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU GWYDDONIAETH GWYDDORAU DYNOL AC IECHYD MEDDYGAETH Y GYFRAITH A THROSEDDEG CANOLFAN TALIESIN A’R GANOLFAN EIFFTAIDD LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL PARC SINGLETON MY UNIHUB Cynnig gwybodaeth, ac arweiniaid ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian, ymholiadau cwrs i dai
Bar Undeb y Myfyrwyr, Clwb nos, siopau, archfarchnad, Siop Dim Gwastraff, llefydd bwyd (gan gynnwys fegan) UNDEB Y MYFYRWYR ACADEMI HYWEL TEIFI PENTREF CHWARAEON A PHWLL CENEDLAETHOL
CYFLEUSTERAU ARALL:
• Caplaniaeth • Doctor/Deintydd
• Golchdy • Mosg
15
CAMPWS Y BAE
CWRT BWYD, THE CORE FFOWNDRI GYFRIFIADUROL (Cyfrifiadureg a Mathemateg) LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL Y BAE PEIRIANNEG Y COLEG Y NEUADD FAWR YR YSGOL REOLAETH UNDEB Y MYFYRWYR, Tafarn Tawe
BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws Parc Singleton, 10 munud i ganol y ddinas MY UNIHUB Cynnig gwybodaeth, ac arweiniaid ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian, ymholiadau cwrs i dai
CYFLEUSTERAU ARALL: • Siop Goffi Coffeeopolis • Lle i addoli • Campfa a chyfleusterau chwaraeon
• Golchdy • Archfarchnad
16
aeroviews.co.uk
LLEOLIAD GLAN MÔR
TA I TH RH I THWI R
abertawe.ac.uk/rhith-daith
17
DOES UNMAN YN DEBYG
Fel myfyriwr ôl-raddedig sy’n ymuno â chymuned Phrifysgol Abertawe, hoffem eich helpu chi i ddod o hyd i rywle y gallwch chi ei alw’n gartref. Darperir llety i ôl-raddedigion mewn pedair preswylfa: Campws y Bae, Campws Parc Singleton, Tŷ Beck yn ardal gyfagos Uplands, ac ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Yn gyffredinol, cynigir tenantiaethau ar sail sefydlog o 51 wythnos, ond gallwn hefyd gynnig rhai fflatiau penodol i ôl-raddedigion ar denantiaeth 40 wythnos ym Mhentref y Myfyrwyr ac ar Gampws y Bae. BYW AR Y CAMPWS Mae byw yn un o breswylfeydd Campws Parc Singleton neu Gampws y Bae yn golygu eich bod yng nghanol bwrlwm bywyd y brifysgol. Mae llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn ac en suite gyda chegin ac ardal fwyta wedi’u rhannu. BYW YM MHENTREF Y MYFYRWYR* Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan wedi’i leoli tua dwy filltir o’r campws. Mae’r Pentref yn darparu llety hunanarlwyo a chyfleusterau a rennir mewn fflatiau ar gyfer 7. Os byddwch chi’n dewis byw yn y Pentref, bydd gennych
eich ystafell eich hun ar gyfradd fforddiadwy sy’n cymharu’n ffafriol â llety yn y sector preifat. Mae bywyd yn y Pentref yn gymdeithasol, yn gefnogol a bydd y canlynol ar gael: • Golchdy ar y safle
• Tocyn bws First Group Unibus am ddim am gytundebau 13 wythnos
*Mae llety ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/2022
LLETYWCH Â SIARADWYR CYMRAEG ERAILL Mae’r Brifysgol yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yma. O ganlyniad, rydym wedi adnabod dwy neuadd ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill. Darperir llety en suite ac hunanarlwyo gyda gofodau cymdeithasu yn y neuaddau hyn. LLETY I DEULUOEDD YN NHŶ BECK Mae gennym nifer o fflatiau i fyfyrwyr sengl yn ogystal ag i deuluoedd yn ein preswylfa dawel ddynodedig, Tŷ Beck, tua milltir o’r campws yn ardal fyfyrwyr boblogaidd Uplands. Oherwydd y tenantiaethau 51 wythnos, mae’r llety hwn yn fwyaf addas i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhyngwladol. • Cyfleusterau Golchi • Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysylltwch â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth • En suite ar gael
PWYNTIAU ALLWEDDOL
• Rhyngrwyd diwifr am ddim • Ceir rhwydwaith o fyfyrwyr, ResNet, sy’n byw yn y preswylfeydd ac sy’n eich cynrychioli o’u gwirfodd, sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y profiad gorau posibl • Mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ag eithrio fflatiau teuluol Tŷ Beck a nifer cyfyngedig o ystafelloedd â dau wely ar Gampws y Bae)
18
COSTAU BYW NODWEDDIADOL
£91
TOCYN BWS MYFYRIWR Tocyn bws gyda theithio diderfyn £30 Y MIS PRYD O FWYD I DDAU £22 (yn seiliedig ar brif gwrs & diod mewn bwyty lleol) CYFARTALEDD RHENT WYTHNOSOL 10 uchaf rhataf yn y DU am Ddinas Prifysgol (totallymoney.com 2019) CAMPWS I’R DDINAS Tacsi o Gampws Parc Singleton i ganol y ddinas £6 AELODAETH GYM Pentref Chwaraeon y Brifysgol £18.99 Y MIS
abertawe.ac.uk/llety Edrychwch tu mewn
19
Gallwch logi un o’n beiciau Santander. Gyda 100 o orsafoedd docio mewn chwe hyb ar hyd prif lwybr beicio’r ddinas, gallwch fynd ar
eich beic yn eich amser hamdden.
santandercycles.co.uk/swansea
DOD O HYD I’R CARTREF PERFFAITH YN Y SECTOR PREIFAT Os byddai’n well gennych fyw oddi ar y campws, byddwch yn falch o wybod bod cyflenwad da o dai a fflatiau o ansawdd i fyfyrwyr yn y sector preifat yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth prydlesu, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS), yn rheoli 130 eiddo yn ardaloedd poblogaidd Brynmill, Uplandsa Sgeti sy’n gyffredinol o fewn dwy filltir i’r campws ac yn St. Thomas a Port Tennant, sy’n agos at Gampws y Bae. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn agos at gyfleusterau lleol megis siopau, bariau a siopau tecawê. Mae ein cronfa ddata ar-lein, Studentpad, y gellir chwilio drwyddi yn amhrisiadwy. Mae’n eich galluogi i ddod o hyd i dai eraill sydd ar gael yn yr ardal ac yn ei gwneud hi’n haws chwilio am dŷ. saslettings.co.uk
Mae gennym rai ardaloedd tawel a rhai sy’n ddi-alcohol hefyd
Os ydych chi’n siarad Cymraeg mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd
DARGANFYDDWCH FWY abertawe.ac.uk/llety llety@abertawe.ac.uk +44 (0)1792 295101
20
CAMPWS Y BAE
PARC SINGLETON
BETH FYDD Y GOST? Bydd y rhent a dalwch yn dibynnu ar y preswylfa a’r ystafell rydych chi’n ei dewis:
LLETY
MATH O YSTAFELL RHENT WYTHNOSOL*
Banc
Banc
Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Safonol
£95
Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Bar Coffi
Campws Parc Singleton
En suite
£140 – £151
Cyfleusterau Chwaraeon
Canolfan Iechyd
Safonol En suite Fflat Teuluol
£111 £128 – £134 £178 – £216
Tŷ Beck
Cyfleusterau Chwaraeon
Diogelwch 24 awr
Campws y Bae
En suite
£152 – £158
Tai Preifat
Safonol
£82 – £120
Deintyddfa a Meddyg
Golchdy
* Mae’r ffioedd yma ar gyfer sesiwn academaidd 2020/21. Sylwch y bydd graddfa ar gyfer mynediad 2021 yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan cyn gynted ag y byddant wedi’u cadarnhau.
Neuadd Fawr
Diogelwch 24 awr
Neuadd Fwyd
Golchdy
Siop Fach
Neuadd Fwyd
Undeb y Myfyrwyr
Siop Fach
Undeb y Myfyrwyr
21
EICH ASTUDIAETHAU
Rydyn ni’n ymrwymo i fuddsoddi’n sylweddol mewn addysg ôl-raddedig. Yn 2019/20, roedd dros £8 miliwn ar gael mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau er mwyn astudio cyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wobrwyo rhagoriaeth academaidd ac anacademaidd ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu tuag at gostau astudio. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer tri chynllun bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy’n astudio cyrsiau Meistr cymwys yn Abertawe. Mae Bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth ac ar gael i fyfyrwyr o Gymru sy’n 60 oed a hŷn.
Mae bwrsariaethau ar sail incwm ar gael hefyd, ynghyd â chyllid tuag at astudio mewn gwlad arall os rydych yn dewis gwneud hynny fel rhan o raglen gradd. Am wybodaeth bellach, i wirio a ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwyso neu i wneud cais, ewch i:
a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu
DARGANFYDDWCH FWY Am fanylion pellach ar Ffioedd ac Ariannu, gweler tudalennau 156-157.
22
YSGOLORIAETHAU PHD AR GAEL* ARIENNIR YN LLAWN YSGOLORIAETHAU
RHAGORIAETH ÔL-RADDEDIG*
BWRSARIAETHAU MEISTR STEMM LLYWODRAETH CYMRU* £2,000 (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth)
BWRSARIAETHAU MEISTR £4,000 ar gyfer 60+ oed LLYWODRAETH CYMRU
*Gweler amodau a thelerau ar abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ysgoloriaethau *Mae’r manylion ar gyfer cyllid 2021 i’w gadarnhau YSGOLORIAETH RHAGORIAETH CHWARAEON* £2,000 YSGOLORIAETH RHAGORIAETH CERDDOROL* £1,000 BWRSARIAETHAU MEISTR CYFRWNG £1,000 CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU* ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg (Ar gael i f yf yrwyr meistr a addysgir yn unig)
23
MEDDWL AM
CYFLOGADWYEDD: DATBLYGU GYRFA AC ENTREPRENEURIAETH Un o nodau sylfaenol y Brifysgol yw ‘paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd ein myfyrwyr’. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn darparu swyddogaeth hanfodol sy’n creu cyswllt rhwng busnesau a diwydiant a’n myfyrwyr talentog ac yn creu cyfleoedd rhwydweithio sy’n cael effaith wirioneddol. Mae ein rhaglenni academaidd yn darparu cyfleoedd dysgu diddorol sy’n galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y mae cyflogwyr a busnesau yn eu gwerthfawrogi. Rydym yn teilwra ein cyrsiau i sicrhau eich bod yn dysgu’r sgiliau proffesiynol, lefel uchel a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni. Lle bynnag y bo modd, mae cyrsiau hefyd wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnesau, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn golygu y gallwn ychwanegu gwerth gwirioneddol at eich addysg. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd am leoliadau a phrofiadau i helpu ein myfyrwyr i gyflawni’r hynny maent yn chwilio amdano ar ôl graddio. Y TÎM MENTERGARWCH Gall y tîm Mentergarwch eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, cael profiad gwerthfawr a rhoi eich syniadau ar waith drwy ein hystod o wasanaethau, gan gynnwys: gweithdai, cystadlaethau, cynlluniau a mentora busnes, ar y cyd â phartneriaid busnes â phrofiad helaeth o’r byd masnachol. enterprise@abertawe.ac.uk m yuni.abertawe.ac.uk/cyflogadwyedd- menter/menter-myfyrwyr
ADDYSGU A DYSGU YSBRYDOLEDIG Mae’r gwaith ymchwil arloesol a wneir yn yr amrywiol golegau yn sail i’n haddysgu ardderchog. Mae’r ffaith eu bod yn rhan flaenllaw o unrhyw ddatblygiadau newydd a’u bod wedi’u cysylltu’n agos â diwydiant o fudd i bob un o’n cyrsiau, gan sicrhau bod ein graddedigion wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. SUT GALL PRIFYSGOL ABERTAWE FY HELPU I? O’r eiliad pan fyddwch yn cyrraedd, bydd staff arbenigol yn Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn eich helpu i gynllunio eich dyfodol a pharatoi amdano. Cymorth sydd ar gael i chi: • Cyngor ac arweiniad gyrfaoedd un i un a ddarperir gan Ymgynghorwyr • Gweithdai ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliadau • Interniaethau tymor byr â thâl • Bwrsariaethau tuag at weithgareddau cyflogadwyedd • C yfleoedd gwaith rhan-amser fel y Cynllun Llysgennad Myfyrwyr • G allwch gwblhau ein ‘Cwrs Datblygu Gyrfa’ ar-lein sy’n eich galluogi i baratoi ar gyfer eich bywyd proffesiynol a gwella eich rhagolygon gyrfa • Mentrau cyflogadwyedd sy’n benodol i Golegau • Ffair yrfaoedd flynyddol
DARGANFYDDWCH FWY:
abertawe.ac.uk/astudio/cyflogadwyedd
24
CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR:
RAVS – (Siop Dillad Retro) Arcêd Picton, Abertawe Menter a sefydlwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Abertawe
Mae’r Tîm Mentergarwch wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y broses o sefydlu a rheoli fy musnes. Dwi wedi cael llawer o gysylltiad ag aelodau’r tîm, sy’n rhoi gwybod i mi am gyfleoedd i gael cyllid sbarduno a digwyddiadau lle gallaf werthu fy nghynhyrchion. Maen nhw wedi gwneud ymdrech fawr i ddarparu adnoddau a gwybodaeth i mi sydd wedi bod yn hwb mawr i’r busnes a dwi’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi’i wneud. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto’r flwyddyn nesaf, ac wedi hynny, gobeithio! Mae Sion wedi derbyn cymorth parhaus gan y Tîm Mentergarwch yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus yn y gystadleuaeth Big Pitch lle dyfarnwyd £2000 a Lleoliad Gwaith Mentergarwch iddo. Sefydlwyd ‘RAVS’, mewn partneriaeth ag eraill, gan Sion Williams o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. I ddechrau, sefydlodd Sion ei fusnes fel rhan o’i fodiwl ar y Llwybr Entrepreneuriaeth. Ar ôl llwyddiant mawr drwy werthu dillad retro ar y wefan Depop, agorodd Sion ei siop ei hun yng nghanol Abertawe ac mae’n dal i’w rheoli ochr wrth ochr â’i astudiaethau.
Found from website recreated PMS
25
EWCH YN
Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod bod gwella cyflogadwyedd graddedigion i’r dyfodol yn bwysicach nag erioed. Wrth i fwy a mwy o fusnesau fynd ati i gyflogi talent o bob cwr o’r byd, mae’n hanfodol eich bod yn sefyll allan gyda sgiliau ychwanegol. Mae cyflogwyr yn cydnabod gwerth profiad rhyngwladol yn fawr iawn, ac mae myfyrwyr sy’n treulio amser dramor yn meithrin ac yn dangos y rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw: ymwybyddiaeth o’r byd a diwylliannau eraill, aeddfedrwydd, hyder a’r gallu i addasu at amgylcheddau a heriau newydd. Mae astudio a byw dramor yn: • Rhoi agwedd a phrofiad rhyngwladol i chi • Eich galluogi i fagu hyder a dod yn fwy hunanddibynnol • Eich helpu i ddatblygu annibyniaeth a blaengaredd
DARGANFYDDWCH FWY
abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang/
#SwanseaUniGlobal
swanseauniglobal
swanseauniglobal
SwanUniGlobal
26
Ulrike Leonhard
Fel rhan o’r cwrs gradd MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Estynedig, treuliodd Ulrike semester yn Katholieke Universiteit Leuven a semester yn Université Catholique de Louvain, y ddwy ohonynt yng Ngwlad Belg.
Mae fy mlwyddyn dramor yng Ngwlad Belg wedi bod yn brofiad gwych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd o bob cwr o’r byd a ches i gyfle i deithio ledled Gwlad Belg. Mae’r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg a Ffrainc oll o fewn pellter agos felly nid oes terfyn ar y cyfle i archwilio! Ni allai fy mhrofiad fel myfyriwr yn y ddwy brifysgol fod yn well.
Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, cewch gyfle i ennill profiad rhyngwladol fel rhan o’ch gradd. Mae rhai cyrsiau yn rhoi’r opsiwn i chi dreulio cyfnod dramor, gan ymgymryd ag astudiaeth neu leoliad ymchwil er enghraifft. Mae manylion
PROFIADAU
yr opsiynau hyn ar gael ar dudalennau cyrsiau penodol.
Gallwch hefyd archwilio’r nifer fawr o raglenni diwylliannol, gwirfoddoli ac astudio sydd ar gael trwy: abertawe.ac.uk/rhaglenni-haf
Astudiodd Natalie Pittman Radd Meistr Estynedig mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a threuliodd semester dramor yn The Bush School ym Mhrifysgol Texas A&M. Natalie Pittman gyhoeddus yn America. Yn ogystal ag ehangu fy nghyfleoedd gyrfa, bydd y cyfle hwn yn golygu y gallaf astudio fy nghwrs o safbwynt gwahanol. Rwyf wedi mwynhau pob munud o’m cwrs yn fawr ac rwy’n falch iawn fy mod wedi dewis astudio ymhellach ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd astudio ar gyfer y Radd Meistr Estynedig yn gyfle ardderchog, gan gynnwys y cyfle i wneud cais i astudio dramor yn Ysgol Bush, Texas A&M. Bu’n brofiad anhygoel gan fod Ysgol Bush yn cynnig un o’r cyrsiau Cysylltiadau Rhyngwladol gorau gan ysgol
Mae yna ystod o gyfleoedd cyllido ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n dewis mynd dramor – cyfeiriwch at ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: a bertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang/ cyfleoedd-byd-eang/cyllid-ac-ariannu
27
MANTEISION ASTUDIO
Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ymgeisio gweler colegcymraeg.ac.uk
DIWEDD Y GÂN... Gall astudio rhan o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod o fantais i chi yn ariannol gyda nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud. Gallwch ymgeisio am ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe neu wedi i chi gyrraedd. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod modd i unigolion sy’n ddwyieithog ennill cyflog uwch ar gyfartaledd na chyfoedion sydd yn siarad dim ond un iaith. RHAGOLYGON GYRFA Mae cyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg a gall astudio rhan o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn hynod fanteisiol felly. Bydd nodi’r sgiliau hyn yn ychwanegiad atyniadol iawn ar eich CV ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi mewn nifer o achosion. Yn ogystal â hyn mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyfrwng Cymraeg yn y gweithle ac i ennyn cysylltiadau a phrofiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. Y GYMDEITHAS GYMRAEG (GYMGYM) Mae’r GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i chi gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe a Phêl Rwyd Tawe. Mae astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol yn gyfle arbennig i ddatblygu eich sgiliau ac i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn helpu agor y drws i ddyfodol disglair.
Katie Phillips, Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Fel Swyddog Materion Cymraeg, fy mhrif rôl i yw cynrychioli myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol gan sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn derbyn yr un cyfleoedd â phawb. Trwy gydol y flwyddyn, dwi am hyrwyddo defnydd y Gymraeg ar draws y campws gan gynyddu’r cyfleoedd addysgol a chymdeithasol, a hefyd cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg i gymdeithasu. Rydw i’n bwriadu codi ymwybyddiaeth am ddiwylliant Cymru trwy nifer o ddigwyddiadau a dathliadau yn ystod y flwyddyn. BWRSARIAETHAU MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU (£1,000) Bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr a addysgir gwerth 180 credyd llawn ac sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Ewch i dudalen 156 am fanylion.
28
MAE GEN I HAWL
Mae gennych chi hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol.
yn y Gymraeg GWASANAETH CWNSELA
LLYTHYRAU yn y Gymraeg
CAIS AM GYMORTH ARIANNOL
yn y Gymraeg CYFARFODYDD
yn y Gymraeg
LLYFRYN CAIS AM GYMORTH ARIANNOL yn y Gymraeg
yn y Gymraeg TYSTYSGRIFAU
CYFLWYNO GWAITH YSGRIFENEDIG yn y Gymraeg
PROSBECTWS yn y Gymraeg
TIWTOR PERSONOL sy’n siarad Cymraeg
yn y Gymraeg FFURFLENNI
Roedd astudio fy nghwrs ôl-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg yn gysur i mi. Teimlais fy mod yn gallu cyrraedd fy llawn botensial oherwydd fy mod yn fwy cyfforddus yn ysgrifennu yn y Gymraeg. Mae hyn hefyd wedi cryfhau fy rhagolygon gyrfaol. Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n chwilio am unigolion sy’n gallu cyfathrebu’n Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae medru’r Gymraeg hefyd yn fuddiol i gyfathrebu gyda chwsmeriaid a/neu gleientiaid sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg. Mae cael unigolyn dwyieithog yn ddeniadol i gwmni. Derbyniais Bwrsari Llywodraeth Cymru gwerth £1,000 sydd wedi fy helpu i mewn sawl ffordd. Astudiais fy nghwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) ochr yn ochr â fy ngradd Meistr ôl-raddedig a bu’r bwrsari hwn o gymorth imi dalu am wahanol bethau fel gwerslyfrau adolygu.
Elisa Jenkins, LLM Ymarfer Cyfreithiol ac Uwch Ddrafftio
29
ACADEMI
CANGEN PRIFYSGOL ABERTAWE, COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
ASTUDIO A CHYMDEITHASU DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae cangen y Brifysgol wedi’i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ysgoloriaethau doethuriaeth diweddar a gyd-ariannwyd gan y Coleg Cymraeg a Phrifysgol Abertawe yn cynnwys meysydd Seicoleg, Cyfieithu, Cymraeg, Cemeg a Gwyddorau Biofeddygol. Am fwy o wybodaeth ewch i: abertawe.ac.uk/cangen-abertawe YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae cynllun Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg. Am fwy o wybodaeth ac i weld y pynciau sy’n gymwys ewch i:
Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig ac mae Academi Hywel Teifi yma i’ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich amser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi astudio drwy’r iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ac o fantais sylweddol ac fe gewch gefnogaeth ac anogaeth lawn i wneud hynny er mwyn ychwanegu at eich cyflogadwyedd, i feithrin sgiliau dadansoddi ac i ddangos y gallu i weithio mewn mwy nag un iaith. Mae Academi Hywel Teifi yn bwerdy ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Prif nod yr Academi yw cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y Brifysgol er mwyn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn cael y gorau o ddau fyd – profiad Cymraeg a Chymreig mewn prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol heb eu hail. Mae’r Academi yn darparu cymuned i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma, ac i staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Drwy gefnogi adrannau’r Brifysgol mae’r Academi wedi galluogi cynnydd sylweddol yn nifer y pynciau sydd yn cael eu dysgu trwy’r Gymraeg yn Abertawe. Ymhlith y datblygiadau diweddaraf mae ein Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) er mwyn hyfforddi Athrawon Uwchradd y dyfodol mewn ystod o feysydd, ac mae’r cwrs Meddygaeth i ôl-raddedigion yn un uchel iawn ei barch. Ers 2011, bu cynnydd o 113% yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ein data TEF* dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos bod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyflawnwyr uchel o ran cyflogadwyedd. Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn rhan annatod o’r addysgu safon aur a gynigir yma.
abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi/ dysgu/ysgoloriaethau-bwrsariaethau-aht
abertawe.ac.uk/ academi-hywel-teifi
@ AcademiHTeifi
AcademiHywelTeifi
AcademiHywelTeifi
30
Lawrlwythwch ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghŷd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cewch wybodaeth hefyd am y cyfleoedd
i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.
YSGOLORIAETH GOFFA HYWEL TEIFI £3,000
EDRYCHWCH AM Y LOGO
Mae’r Ysgoloriaeth yma ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio gradd Meistr trwy Ymchwil, MPhil neu PhD mewn maes yn ymwneud â chyfraniad y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i ddysg a diwylliant Cymru, meysydd megis llenyddiaeth Gymraeg, yr iaith Gymraeg, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth neu Hanes. Ewch i dudalennau Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol am fanylion pellach.
ar y tudalennau cwrs sy’n dynodi argaeledd ysgoloriaethau a chyfleoedd
ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg!
*Canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018.
31
UNDEB Y
susu_official
swanseaunisu
swanseaunisu
Ffion Davies Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2020 – 2021
Caiff Undeb y Myfyrwyr ei gynnal gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Rydym yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi ac yn cynrychioli’r holl fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn ethol swyddogion amser llawn bob blwyddyn, sy’n cynrychioli myfyrwyr ym mhopeth sy’n ymwneud â’r brifysgol; o Gymdeithasau a Gwasanaethau i Chwaraeon, materion Cymraeg a Lles ac Addysg.
Mae gennym gynrychiolwyr colegau a phynciau hefyd – dyma’r myfyrwyr sy’n gweithio gyda’r Brifysgol i ymdrin â phroblemau sydd gan fyfyrwyr ar eu cwrs. Rydym hefyd yn gyfrifol am y siopau a barrau ar y campws – JC’s, Tafarn Tawe, Rebound, Root Zero, Costcutter a Fulton Outfitters. Mae’r holl arian sy’n cael ei wario yn y lleoliadau hyn yn mynd yn syth yn ôl i brofiad y myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu Pythefnos y Glas, Dawns yr Haf, Varsity, Tooters a llu o ddigwyddiadau gwych eraill i chi eu mwynhau!
32
MAE UNDEB ABERTAWE YN CYNNIG: • Dros 150 o gymdeithasau a dros 50+ o glybiau chwaraeon • Union Collective, platfform i helpu myfyrwyr gydag arian ac adnoddau i gymryd eu syniadau busnes ar lawr gwlad • Cyfle i weithio ar gyfer y papur newydd myfyrwyr, gorsaf deledu a gorsaf radio • Canolfan Gynghori a Chymorth yn helpu gyda phopeth o landlordiaid i anghyfodau academaidd • Meithrinfa ar y campws sy’n hyblyg o gwmpas darlithoedd myfyrwyr • Llais i fyfyrwyr yn y Brifysgol, gan sicrhau bod barn myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel
YN EICH CEFNOGI Mae ein tîm yn cynnal ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o faterion, a mentrau hynod bwysig i’ch cefnogi chi! Dyma ychydig yn unig: Cymorth Astudio: gwasanaethau am ddim i’ch helpu i ymdopi â chyfnodau astudio dwys (gan gynnwys ymweliad gan gŵn bach cudd gan ein ffrindiau yn Achub Milgwn Cymru). Rho Rywbeth Diangen: Ar ddiwedd pob blwyddyn, rydyn ni’n mynd â’ch eitemau diangen fel nad ydyn yn mynd i safleoedd tirlenwi a’u cynnig i fyfyrwyr newydd ym mis Medi. Potiau, sosbenni, seigiau – gallwn ni helpu! BloodyHell: Er mwyn helpu curo tlodi misglwyf, rydym wedi sicrhau bod eitemau misglwyf ar gael yn rhwydd i bob myfyriwr yn ein toiledau a’n derbynfeydd.
Gallwch ddilyn y tîm ar Instagram @susuofficers i ddarganfod beth arall maen nhw’n ei wneud!
33
MEDDYLIWCH AM CHWARAEON...
Yma yn Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a ffyrdd actif o fyw. Mae gennym gyfleoedd chwaraeon sy’n addas i bob un o’n myfyrwyr, o’r athletwyr elît/rhyngwladol i’r
rhai sy’n dechrau o’r dechrau, mae rhywbeth at ddant pawb.
abertawe.ac.uk/y-brifysgol/chwaraeon
34
CHWARAEON CYSTADLEUOL Ni yw’r Brifysgol sy’n gwella
RHAGLEN CAMPWS ACTIF AC IACH Yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, byddwn yn cynnig ystod gwych a newydd o weithgareddau i fyfyrwyr a hoffai ddod yn fwy actif, a chymryd rhan mewn rhywfaint o ymarfer corff. Felly os ydych yn dechrau arni, mae gennym weithgareddau a chyrsiau cymdeithasol llawn hwyl sy’n addas i chi, megis ein cynghreiriau cymdeithasol hynod boblogaidd er enghraifft. CYFLEUSTERAU Mae Abertawe’n gartref i ddau o’r cyfleusterau chwaraeon blaenllaw yng Nghymru, gan gynnwys y Parc Chwaraeon Bae Abertawe, a Maes Hyfforddi Fairwood sy’n ganolfan hyfforddi i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae gan y ddau gampws gyfleusterau iechyd a ffitrwydd ardderchog, gan gynnwys offer a dosbarthiadau o’r radd flaenaf. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleuster cryfder a chyflyru o’r radd flaenaf (Y Sied) sydd ar gael i athletwyr elît. Mae ein hystod eang o gyfleusterau chwaraeon i fyfyrwyr yn cynnwys: • Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe • Cyrtiau tenis • Caeau chwarae • Trac athletau dan do • Pafiliwn chwaraeon • Caeau astroturf • D wy neuadd chwaraeon amlbwrpas ac ardaloedd chwaraeon awyr agored • Gwasanaeth llogi beiciau a llwybrau rhedeg Defnyddiodd Crysau Duon Seland Newydd ein Pentref Chwaraeon Rhyngwladol i hyfforddi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, ac mae ein pwll cenedlaethol 50m wedi’i ddefnyddio fel canolfan hyfforddi i ddau dîm Paralympaidd rhyngwladol. A thithau’n fyfyriwr, cewch ddefnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf hyn.
gyflymaf yn nhablau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac rydym yn yr 18fed safle ar hyn o bryd yn nhabl 2018-19.
Ceir ystod eang o gyfleoedd i chi gynrychioli’r Brifysgol yn gystadleuol yng ngemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a chystadlaethau domestig allweddol oherwydd cewch ymaelodi â dros 50 o glybiau chwaraeon. Mae ein clybiau yn darparu ystod o sesiynau hyfforddi dan arweiniad hyfforddwyr i roi’r cyfle i chi gyflawni eich nodau chwaraeon.
18 SAFLE BUCS FED Tabl Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2018-19
Llewod Prydain ac Iwerddon, chwaraewr Cymru a’r Gweilch a chyn-fyfyriwr Abertawe Alun Wyn Jones
O ganlyniad i’r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn y brifysgol, ces i gyfle i ddilyn dau lwybr gyrfaol ar yr un pryd. Mae gen i atgofion melys o’m hamser ym Mhrifysgol Abertawe, yn enwedig ennill Gêm y Prifysgolion. Dwi’n gwybod na fydd gyrfa mewn chwaraeon yn para am byth, felly dwi’n fodlon ystyried dychwelyd i wella fy nghymwysterau yn y dyfodol.
35
VARSITY Gemau’r Prifysgolion yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Varsity Prifysgolion Prydain, tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Yn ystod Gemau’r Prifysgolion, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Gwyliwch uchafbwyntiau Gemau’r Prifysgolion yma: welshvarsity.com RHAGLEN PERFFORMIAD UCHEL Mae ein Rhaglen Perfformiad Uchel yn cynnig cymorth i athletwyr elît mewn ystod o gampau gwahanol. Cyflawnir pob rhaglen ar y cyd â chlwb chwaraeon proffesiynol neu gorff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer partner chwaraeon. Ar hyn o bryd mae ein rhaglen yn cefnogi chwe champ ac mae’n tyfu bob blwyddyn. Mae pob camp yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel, gwasanaethau ym maes y gwyddorau chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru. Ar hyn o bryd, dyma’r chwaraeon:
• Hoci • Pêl-rwyd • Tenis bwrdd
• Rygbi • Pêl-droed • Nofio
Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS) i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol a chyngor maethol – a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Gall buddion eraill gynnwys aelodaeth o gyfleusterau am ddim a hawlen i barcio ar y campws. DARGANFYDDWCH FWY: a bertawe.ac.uk/ysgoloriaethau
36
DUE TO OUR SUPERB COASTAL LOCATION, SWANSEA HAS ONE OF THE BEST WATER SPORTS OFFERINGS OF ANY BRITISH UNIVERSITY
YN OGYSTAL Â’N LLEOLIAD ARFORDIROL RHAGOROL, MAE ABERTAWE’N CYNNIG RHAI O’R CHWARAEON DŴR GORAU MEWN UNRHYW BRIFYSGOL YM MHRYDAIN
37
38
39
40
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth eang o gynefinoedd i’w mwynhau, o draethau i goetir a pharciau, ac rydym yn angerddol am ddatblygu cynaliadwy er lles ein cymuned leol, y DU a’r byd ehangach. Fel myfyriwr, bydd digon o gyfleoedd i chi gyfrannu at gadwraeth ymarferol. Gallwch wirfoddoli i helpu i gadw’r ardaloedd hyn yn arbennig drwy gymryd rhan yn ein sesiynau rheolaidd i lanhau’r traethau, ein partïon gwaith a monitro bywyd gwyllt. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd, byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd. GWOBR CYNALIADWYEDD Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ailgylchu, bioamrywiaeth, lles neu unrhyw beth yn y canol, mae gennym ni rywbeth i chi!. Ein rhaglen ymgysylltu â myfyrwyr flaenllaw yw’r Wobr Gynaliadwyedd. Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn ar eu cwrs gradd weithio tuag at y wobr hon drwy gydol eu cyfnod gyda ni ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cwblhau’r wobr yn cyfrannu at eich cofnod academaidd ac mae’n addysgu ystod eang o sgiliau i chi. GWNEUD CYNALIADWYEDD YN RHAN HANFODOL O
Plastigau, gan gynnwys poteli plastig
untro, yw’r math o sbwriel a ddarganfyddir amlaf ar draethau’r DU ac nid oes rhaid i chi edrych yn bell i’w canfod yn sbwriel ein trefi a’n mannau gwyrdd hefyd.
Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol gynaliadwy flaenllaw ac rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi Refill (cynllun sy’n darparu gorsafoedd ail-lenwi dŵr mewn lleoliadau ledled Abertawe a’r Brifysgol) gyda’n partneriaid yn Abertawe Plastig Am Ddim ac Undeb Myfyrwyr. Mae Swyddogion Undeb Myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi lansio’r ymgyrch; bellach, mae gennym o leiaf 30 o orsafoedd Adnewyddu ar draws ein campysau Bae a Pharc Singleton i’r gymuned gyfan eu defnyddio. Teifion Maddocks Swyddog Cynaliadwyedd a Lles, Prifysgol Abertawe
abertawe.ac.uk/y-brifysgol/ cynaliadwyedd (Guardian People & Planet University league 2019) 0
Y BRIFYSGOL WYRDDAF UCHAF Y DU
41
RYDYM YMA
Rwyf wedi tyfu cymaint fel person trwy gydol fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig yn Abertawe a nawr yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn ogystal ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy hun. Rwyf wedi sylweddoli cymaint fy mod yn dwlu ar ddysgu o’i gymharu â fy nghyfnod yn yr ysgol am fy mod wedi dewis astudio rhywbeth sy’n llawer mwy pleserus nag astudio ar gyfer arholiadau TGAU neu Safon Uwch lle teimlais nad oedd modd i mi ddysgu am y pethau yr oeddwn yn dymuno dysgu amdanynt. Rwyf wedi bod yn rhan o gymdeithasau ers y pedair blynedd diwethaf ac maent wedi gwella fy nghyfnod yn y Brifysgol mewn ffordd na allwn fod wedi’i dychmygu. Mae cynifer o bethau ar gael ac mae cychwyn eich cymdeithas eich hun yn hawdd iawn os nad oes rhywbeth at eich dant. Trwy fod yn aelod o bwyllgor rwyf wedi gwella fy sgiliau arweinyddiaeth a threfnu a byddwn yn ailadrodd hyn mewn chwinciad. Mae’r adborth academaidd yn dda iawn, caiff gwaith ei farcio’n brydlon ac fel arfer cewch sylwadau ac awgrymiadau sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi defnyddio canolfan gyngor y Brifysgol ar sawl achlysur ac mae’r staff wedi bod yn anhygoel. Roedd modd i mi weld rhywun ymhen ychydig o ddyddiau a derbyniais gyngor a chymorth defnyddiol iawn. Caroline (Myfyriwr Ôl-raddedig, 2019, adolygiad WhatUni)
Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod eich astudiaethau ôl-raddedig, gan sicrhau bod eich amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.
HYB Y MYFYRWYR SUT GALLWN EICH HELPU ?
Mae Hyb y Myfyrwyr yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyriwr o gofrestru i raddio. Mae’r tîm hefyd yn darparu cyngor, arweiniad ac atgyfeiriadau ar gyfer eich holl ofynion cymorth yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Gallwch ymweld â’n timau profiadol a chyfeillgar ar Gampws Singleton a Bae.
42
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36 Page 37 Page 38 Page 39 Page 40 Page 41 Page 42 Page 43 Page 44 Page 45 Page 46 Page 47 Page 48 Page 49 Page 50 Page 51 Page 52 Page 53 Page 54 Page 55 Page 56 Page 57 Page 58 Page 59 Page 60 Page 61 Page 62 Page 63 Page 64 Page 65 Page 66 Page 67 Page 68 Page 69 Page 70 Page 71 Page 72 Page 73 Page 74 Page 75 Page 76 Page 77 Page 78 Page 79 Page 80 Page 81 Page 82 Page 83 Page 84 Page 85 Page 86 Page 87 Page 88 Page 89 Page 90 Page 91 Page 92 Page 93 Page 94 Page 95 Page 96 Page 97 Page 98 Page 99 Page 100 Page 101 Page 102 Page 103 Page 104 Page 105 Page 106 Page 107 Page 108 Page 109 Page 110 Page 111 Page 112 Page 113 Page 114 Page 115 Page 116 Page 117 Page 118 Page 119 Page 120 Page 121 Page 122 Page 123 Page 124 Page 125 Page 126 Page 127 Page 128 Page 129 Page 130 Page 131 Page 132 Page 133 Page 134 Page 135 Page 136 Page 137 Page 138 Page 139 Page 140 Page 141 Page 142 Page 143 Page 144 Page 145 Page 146 Page 147 Page 148 Page 149 Page 150 Page 151 Page 152 Page 153 Page 154 Page 155 Page 156 Page 157 Page 158 Page 159 Page 160 Page 161 Page 162 Page 163 Page 164 Page 165 Page 166 Page 167 Page 168 Page 169 Page 170 Page 171 Page 172Made with FlippingBook - Online magazine maker