YMCHWI L .
CYFIAWNDER A CHYDRADDOLDEB Mae’n hymchwil yn herio meddwl traddodiadol ac mae wedi newid polisi er mwyn amddiffyn dyfodol pobl fwyaf diamddiffyn ein cymdeithas. Rydym wedi gweithio i helpu i leihau anghydraddoldebau parhaus yn ein cymdeithas. Rydym wedi llywio cyfreithiau newydd ym maes hawliau dynol plant a phobl ifanc drwy ddarparu arweiniad at ddiben newid polisi. Mae’n hymchwil wedi llywio polisi ar wahaniaethu yn y gweithle yn uniongyrchol drwy ddatgelu anghydraddoldebau cryf yng Nghymru ac yn y DU. Rydym wedi ailfframio’r ffordd o drafod polisi cyffuriau ac wedi cyflwyno cysyniadau arloesol, megis hyrwyddo arferion lleihau niwed gan gynnwys rhaglenni cyfnewid nodwyddau a therapi amnewid opioidau. Rydym yn dylanwadu ar ofal, lles ac ansawdd bywyd pobl hŷn, drwy gynnig cyngor ac arweiniad drwy ganolfan flaenllaw Cymru dros astudiaethau heneiddio, sef y Ganolfan dros Heneiddio Arloesol. Rydym yn ystyried y gorffennol a’r presennol er mwyn creu dyfodol mwy cyfiawn, cyfartal a theg i bawb.
abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ cyfiawnder-a-chydraddoldeb
08
Made with FlippingBook - Online magazine maker