CAMPWS PARC SINGLETON Y GYFRAITH
Ymunwch â'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, lle y byddwch yn rhan o amgylchedd cefnogol sy'n ymroddedig i ddeall rhai o faterion mwyaf heriol cymdeithas. Mae gradd ymchwil yn y gyfraith yn cynnig cyfle i chi gyflawni prosiect sy'n seiliedig ar eich hoffterau a'ch diddordebau, gan arwain at gymhwyster sy'n gallu agor y drws i yrfa academaidd neu wella eich
• Cyfraith Trosedd a'r Gyfraith mewn perthynas â Therfysgaeth, Seiberdroseddu a Gwrthderfysgaeth • Hawliau Dynol Rhyngwladol • TechCyfreithiol Efallai yr hoffech chi edrych ar ein hopsiynau PhD ym maes Troseddeg. Gweler tudalen 150 am ragor o wybodaeth.
Y GYFRAITH LLM drwy Ymchwil ALl RhA
Y GYFRAITH MPhil/PhD ALl RhA Gwahoddwn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu diddordebau yn cyfateb i'n meysydd ymchwil: • Cyfraith Amgylcheddol • Cyfraith Forol • Cyfraith Gyffredin, gan gynnwys Cyfraith Contract a Masnachol
• Cyfraith Gyhoeddus • Cyfraith Olew a Nwy
rhagolygon cyflogaeth mewn amrywiaeth o feysydd eraill.
“
Y peth gorau am astudio yn Ysgol y Gyfraith yw'r adnoddau academaidd. O ddeunyddiau addysgu syml, y seminarau rhyngweithiol, y cyfleoedd cyflogadwyedd sydd ar gael a'r sesiynau cyngor un-i-un gyda thiwtor personol. Cymerwch ran weithredol yn eich astudiaethau academaidd, yn enwedig pan fo angen rheoli amser. Cyfrannwch at y modiwlau nad ydynt yn cael eu graddio. Fodd bynnag, ceisiwch beidio â chyfyngu eich hun i'r ystafell ddosbarth yn unig. Ymunwch â chymdeithas anacademaidd. Cysylltwch â'ch cyfoedion a llunio cysylltiadau. Mae gan Ysgol y Gyfraith a'r Brifysgol staff a myfyrwyr o ystod o gefndiroedd diwylliannol ac addysgol sy'n cyfrannu at wella eich profiad dysgu a'ch profiad fel myfyriwr.
Sean Ebenezer Marte Markwei
LLM CYFRAITH FASNACHOL A MORWROL RYNGWLADOL
100
Made with FlippingBook - Online magazine maker