UCHAF YN Y DU ADRAN HANES (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 30
CAMPWS PARC SINGLETON HANES
Rydym yn arbenigo yn hanes Ynysoedd Prydain ac Ewrop, ac mae sawl aelod o staff yn archwilio cysylltiadau rhwng Prydain, Ewrop, a gweddill y byd. Rhydd Cymru ffocws ymchwil cryf i rai aelodau o'r Adran. Mae arbenigedd ein staff yn cwmpasu treftadaeth a hanes cyhoeddus; hanes
cymdeithasol ac economaidd; hanes gwyddoniaeth a meddygaeth; hanes anabledd; hanes diwylliannol a deallusol; hanes rhywedd; hanes gwrthdaro a ph ŵ er; astudiaethau'r cof; tirwedd ac archaeoleg; a hanes trefol a diwydiannol. Mae ystod gronolegol ein gwaith yn ymestyn o'r canoloesoedd cynnar i'r 21ain ganrif. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf Llywodraeth y DU (2014), cafodd ymchwil Hanes yn Abertawe ei graddio'n 27ain yn y DU a dyfarnwyd bod dros 80% o'r gwaith a gyflwynwyd i'w asesu o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*).
• Y Da A'r Drwg yn y Cynfyd Diweddar Cristnogol HANES MA ALl RhA
diwylliannau trefol a gwledig, iechyd, meddygaeth a'r corff, iaith ac amlieithrwydd, a hunaniaethau cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol. Caiff myfyrwyr gyfle i ymgyfarwyddo â threftadaeth ganoloesol y de a'r ardal gyfagos, drwy weithio gyda Swyddfa Cofnodion Gorllewin Morgannwg a llyfrgell Eglwys Gadeiriol Henffordd a thrwy fod mewn cysylltiad â'r sefydliadau sy'n gyfrifol am gadwraeth safleoedd hanesyddol yng Nghymru. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Agonïau ac Ecstasïau: Seintiau a Mystig yn yr Oesoedd Canol • Cyflwyniad i Astudiaethau Canoloesol Uwch 1: Sgiliau a Dulliau Gweithredu • Cyflwyniad i Astudiaethau Canoloesol Uwch 2: Themâu a Ffynonellau • Darllen dan Gyfarwyddyd mewn Astudiaethau Canoloesol • Enmity and Entanglement: Iddewon Lloegr Yr Oesoedd Canol • Lladin • Llawysgrifau Canoloesol • Lleoliad Gwaith Astudiaethau Canoloesol • Y Canoloesoedd Cwiar: Cyrff, Testunoldeb a Gwrthrychau
Mae'r MA Hanes yn cwmpasu ystod eang o bynciau o'r Canoloesoedd ymlaen. Mae arbenigedd amrywiol haneswyr Prifysgol Abertawe yn cynnig y cyfle i astudio Hanes Prydain, Ewrop, America, a'r Byd. Mae'r MA yn galluogi myfyrwyr i archwilio hanes celf a diwylliant, ymerodraeth, rhywedd, gwleidyddiaeth, crefydd, rhywioldeb a gwyddoniaeth. Gan weithio gyda deunyddiau yn Archifau Richard Burton, caiff myfyrwyr y cyfle hefyd i feithrin eu gallu i gyflwyno ymchwil hanesyddol i'r cyhoedd. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • A bertawe a'r Môr • A rferion Newydd wrth Ysgrifennu Hanes • Cymru Ers 1945 • C yrff Meddygol Modern: Prif Themâu yn Hanes Meddygaeth Fodern • D adleuon a Dulliau Gweithredu Mewn Treftadaeth a Hanes Cyhoeddus • D arllen dan Gyfarwyddyd mewn Hanes • Dulliau Gweithredu Hanesyddol
ASTUDIAETHAU'R OESOEDD CANOL MA ALl RhA Mae'r MA Astudiaethau'r Oesoedd Canol yn defnyddio arbenigedd staff sy'n gweithio ar hanes canoloesol ac iaith a llenyddiaeth ganoloesol. Mae'r MA yn cwmpasu'r Cynfyd Diweddar i'r Dadeni, ac Ynysoedd Prydain a Ffrainc i'r Eidal a'r Tir Sanctaidd. Ymhlith y meysydd y mae staff yn arbenigo ynddynt yn benodol mae rhywedd, crefydd a chred, YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. Am ragor o fanylion, ewch i: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
101
Made with FlippingBook - Online magazine maker