Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

MEDDYL IAU MAWR

Dr Alex Langlands

ARCHAEOLEGYDD A THREFTADAETH PROFFESIYNOL; COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU.

New York Times ei adolygu a’i roi ar y clawr. Mae ei gyhoeddiadau hanes poblogaidd wedi ymddangos ar frig rhestr y Sunday Times o’r llyfrau ffeithiol sy’n gwerthu orau yn y categori clawr caled ac mae ei lyfr diweddaraf, The Ancient Ways of Wessex , sy’n seiliedig ar ei ymchwil academaidd, yn archwiliad beirniadol o dirwedd de Lloegr yn y canol oesoedd cynnar. Oherwydd ei brofiad o’r cyfryngau a’r sectorau treftadaeth ac archaeoleg fasnachol, mae Alex yn cynnig portffolio eang o weithgareddau addysgu, yn amrywio o ddarlithoedd a seminarau traddodiadol i deithiau maes, hyfforddiant meddalwedd a lleoliadau gwaith a gefnogir. Mae’r gweithgareddau allgyrsiol ym meysydd treftadaeth a chloddio archaeolegol sy’n cael eu cynnig gan Alex yn darparu profiad gwerthfawr o’r sectorau hyn i’n myfyrwyr. “Mae Abertawe’n lle gwych i dod i fyw ac astudio ynddo. Mae’n cynnig popeth, o ddinas brysur â chysylltiadau rheilffordd ardderchog â Manceinion a Llundain, i rai o draethau gorau’r DU. Mae’n lle agored a llonydd â mynediad cyfleus at barciau

Mae Dr Alex Langlands yn archaeolegydd ac yn hanesydd y canol oesoedd a ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2015. Mae’n cyfrannu at y rhaglenni hanes a threftadaeth israddedig ac ôl-raddedig. Mae Alex yn cynnig profiad helaeth o dreftadaeth a’r cyfryngau darlledu i’n gweithgarwch addysgu ar ôl cyfnodau hir o weithio yn y sectorau hyn. Bu’n gyflwynydd ac yn gynhyrchydd ar gyfer Victorian Farm, cyfres gan y BBC a ddenodd bron chwe miliwn o wylwyr ac a gafodd ei henwebu am un o wobrau mwyaf blaenllaw’r diwydiant, sef y British Broadcasting Awards, yn y categori Rhaglen Ffeithiol Orau. Mae rhaglenni dilynol ar BBC - Edwardian Farm, Wartime Farm, Full Steam Ahead a Victorian Bakers – i gyd wedi denu dros ddwy filiwn o wylwyr yn rheolaidd. Ond mae Alex wedi gweithio i Channel 4 hefyd, ar raglenni megis Britain at Low Tide a Time Team, ac mae’n un o gyflwynwyr Digging Up Britain’s Past ar Channel 5, sydd bellach ar ei thrydedd gyfres. Enillodd ei gyfres ar BBC2, Tales from the Green Valley, y wobr nodedig Learning on Screen a ddyfarnwyd gan Gyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain. Yn 2018, cyhoeddodd Alex Cræft: How traditional crafts are about more than just making, llyfr a dderbyniodd glod y beirniaid yn y DU ac yn yr UDA lle gwnaeth adolygiad llyfrau wythnosol y

Mae archwilio ein hanes yn feirniadol yn bwysicach nawr nag erioed, wrth i ni ymdrechu i fynd i’r afael â hunaniaethau newydd ac ystyron newydd i ni ein hun, ac mae’n bwysig i ni chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o ysgogi diddordeb y cyhoedd ehangach yn ein canfyddiadau.

dinesig, parciau cenedlaethol a thirweddau o harddwch naturiol

eithriadol. Mae llawer o gyfleoedd am hwyl a sbri hefyd mewn coleg sy’n cynnig y ddarpariaeth ddiweddaraf ar gyfer graddedigion y dyfodol.”

Ffilm fer sy’n arddangos y gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Alex Langlands a’r tîm Treftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe gyda phartneriaid cymunedol a ariennir gan UKRI.

104

Made with FlippingBook - Online magazine maker