YN Y DU EFFAITH YMCHIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 7 FED
IEITHOEDD MODERN, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD
CAMPWS PARC SINGLETON
Mae ein staff ymchwil yn arbenigo mewn Arabeg, Tsieinëeg (Mandarin), Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg. Mae gan ein cyrsiau MA a addysgir hanes hir o ysbrydoli ieithyddion cyffredinol ardderchog i ddod yn gyfieithwyr ac yn ddehonglwyr. Mae diddordebau
ymchwil ein staff yn amrywio o ieithyddiaeth (disgrifiadol, hanesyddol a damcaniaethol) i ystod eang iawn o bynciau ym meysydd llenyddiaeth, ffilm a hanes diwylliannol, i astudiaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, terminoleg, cyfieithu llenyddol, ac adnoddau a thechnolegau cyfieithu. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf (2014), cawsom ein rhoi yn y 7fed safle yn y DU am effaith ein hymchwil.
Rydym yn falch bod y ddwy raglen yn aelodau o Rwydwaith Graddau Meistr mewn Cyfieithu Ewropeaidd (EMT) y Comisiwn Ewropeaidd. Mae MAPT wedi bod yn aelod ers i'r Rhwydwaith gael ei sefydlu yn 2009 a chafodd MATI ei derbyn fel aelod yn 2019. Mae'r ddwy radd MA hyn ar gael ar ddwy ffurf wahanol: Safonol (180 o Gredydau / 90 ECTS, Blwyddyn amser llawn, 3 blynedd rhan amser) ac Estynedig (240 o Gredydau / 120 ECTs, 16-21 mis amser llawn, 4 blynedd rhan amser). Mae'r cymwysterau MA estynedig wedi'u cynllunio i fod o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr a leolir ar gyfandir Ewrop neu sy'n bwriadu gweithio neu astudio yno ar ôl graddio. Maent yn cydymffurfio â phatrwm addysg uwch yr UE, sef 'Bologna', ac felly fe'u cydnabyddir yn llawn yn Ewrop. Caiff ein harbenigedd hir sefydledig mewn adnoddau a thechnolegau cyfieithu ei adlewyrchu yn y Dystysgrif Ôl-raddedig 60-credyd mewn Technoleg Cyfieithu (PGCTT), sydd o ddiddordeb penodol i gyfieithwyr sydd eisoes yn gweithio ac sy'n awyddus i ddiweddaru eu sgiliau technolegol.
CYFIEITHU PROFFESIYNOL MA: MAPT ALl RhA Drwy gyfuno gwaith cyfieithu uwch mewn meysydd gweinyddol a thechnegol â hyfforddiant technoleg cyfieithu eang a gynorthwyir gan gyfrifiadur, mae'r rhaglen Meistr ymarferol hon yn helpu myfyrwyr i feithrin y sgiliau a'r profiad i fod yn gynhyrchiol mewn amgylchedd proffesiynol modern ar unwaith. Yn ogystal â gwaith cyfieithu a therminoleg ymarferol mewn un neu ddau bâr o ieithoedd, yn ystod y ddau semester cyntaf bydd myfyrwyr yn dilyn modiwl gorfodol mewn Sylfeini Cyfieithu a Dehongli, sy'n cynnig cyflwyniad i feysydd perthnasol o ieithyddiaeth a theori cyfieithu, cyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol ar agweddau allweddol ar y diwydiant gwasanaethau iaith, ac ymarfer dulliau o ymchwilio i wybodaeth a therminoleg arbenigol. Y modiwlau gorfodol eraill yw Cyfieithu Uwch ac Adnoddau Cyfieithu. Mae'r modiwl Adnoddau Cyfieithu yn cynnwys prosiect cyfieithu amlieithog gan ddefnyddio SDL Trados Studio, Memsource, a meddalwedd arall, ac yn cynnig y cyfle i sefyll profion ardystio Trados ar bob lefel am ddim.
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU
Caiff ein holl raglenni a addysgir eu cynllunio, gyda mewnbwn proffesiynol gan gyfranogwyr gweithredol yn y diwydiant gwasanaethau iaith, i fod mor gyfredol a phroffesiynol berthnasol â phosibl, gyda chyfran uchel o ddysgu ymarferol ac asesiadau seiliedig ar brosiect. Mae'r Adran yn cynnig dwy raglen MA a addysgir gysylltiedig, hynod Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. Am ragor o fanylion, ewch i: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
ryngwladol, mewn Cyfieithu Proffesiynol (MAPT) ac mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (MATI).
ec.europa.eu – chwiliwch am European master's in Translation
I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig
105
Made with FlippingBook - Online magazine maker