Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

• Ysgrifennu teithio ac astudiaethau trawsgenedlaethol SBAENIG – CYFFREDINOL • Diwylliannau a Llenyddiaeth Sbaenig a Lwsoffon o'r Ugeinfed Ganrif a'r Unfed Ganrif ar Hugain • Llenyddiaeth Gymharol; Semioteg Diwylliannol SBAENEG – SBAEN Sbaeneg: • Dysgu Sbaeneg yn Ddwyieithog neu fel Ail Iaith / Iaith Treftadaeth • Ieithyddiaeth a Sicoieithyddiaeth Sbaeneg • Naratifeg a Semioteg yr Argyfwng Sbaeneg • Sbaeneg – America Ladin Ymhlith pynciau llenyddol diweddar mae: ‘Female Role-Play in Drama’ a ‘English Translations of Don Quixote’. SBAENEG – AMERICA LADIN Cynhelir ymchwil yn y maes hwn drwy'r Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Cymharol Portiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America (CEPSAM) mewn cydweithrediad â staff a myfyrwyr ymchwil Astudiaethau Americanaidd. Y Ganolfan yw'r prif sefydliad ymchwil yn ei maes yng Nghymru. Yn ddiweddar mae wedi derbyn Grant Cyfres Seminarau Rhanbarthol gan Sefydliad Astudio Cyfandiroedd America (Prifysgol Llundain) sydd wedi dwyn ynghyd Americanwyr Lladin yng Nghymru i weithio ar brosiect o'r enw ‘Memory, Place and Space in Latin America’. Cymerodd aelodau CEPSAM ran hefyd yng Nghynhadledd Dyniaethau Gwyrdd 2019, ac maent yn ystyried mentro i feysydd ecofeirniadau amlddisgyblaethol a meysydd cysylltiedig. Mae meysydd o ddiddordeb arbennig yn cynnwys: • Adeiladu Cenhedloedd Sbaenaidd- Americanaidd • Astudiaethau Americanaidd Affro-Lladin

• Ffilmiau Sbaenaidd-Amercanaidd Cyfoes • Llenyddiaeth a Diwylliant Ciwba yn yr Ugeinfed Ganrif • Llenyddiaeth a Diwylliant Colombia yn yr Ugeinfed Ganrif • Llenyddiaeth a Diwylliant yr Ariannin yn yr Ugeinfed Ganrif • Llenyddiaeth Wrwgwái o'r Ugeinfed Ganrif • Llenyddiaeth yr Anialwch a'r Amgylchedd • Patagonia Cymru • Rhyddiaith a Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif • Ysgrifennu gan Fenywod a Theori Ffeministaidd Pynciau PhD presennol a diweddar: ‘Welsh Travellers to Latin America’; ‘Rosas and Perón in the Contemporary Argentine Novel’; a 'Insularity, translation and genre, the case of two Caribbean writers, Hazel Robinson and Edwidge Danticat.' Gellir goruchwylio ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Mae ein myfyrwyr wedi derbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Cronfa Maney, Ymddiriedolaeth Pantyfedwen a SUSPRS, Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Partner Strategol Prifysgol Abertawe. Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Mae diddordebau ymchwil y staff ym maes Cyfieithu a Dehongli yn cwmpasu amrywiaeth o themâu, gan gynnwys: • Adnoddau a Thechnolegau Cyfieithu • Astudiaethau Cyfieithu Cymharol • Cyfieithu a Thrafodaeth Gymdeithasol • Cyfieithu a'r Eirfa • Cyfieithu Clyweledol • Cyfieithu Llenyddol • Cyfieithu Llenyddol â Chymorth Cyfrifiadur (CALT) • Cyfieithu/Addasu ar Gyfer y Theatr • Dadansoddi Cyfieithiadau ar Sail Corpws • Delweddu Cyfieithiadau • Geiriaduraeth a Therminograffeg Gyfrifiadurol

ARABEG Mae meysydd arbenigol yn cynnwys: • Dadansoddi mynegiant testunau Arabeg modern a chlasurol • Dadansoddi testun a mynegiant Qur'aneg • Gr ŵ p Islamaidd yr Aifft • Islamyddion a'r Wladwriaeth • Mudiadau poblyddol ac Islamaidd yn y byd Arabaidd • Plismona cymunedau Arabaidd ac Islamaidd yn y DU a'r Aifft • Pragmateg a chyd-destun wrth ddehongli Arabeg FFRANGEG Mae arbenigeddau staff yn cwmpasu ystod eang o gyfnodau a themâu sy'n ymwneud â Ffrainc a rhannau o'r byd lle y siaredir Ffrangeg. Ymhlith pynciau PhD diweddar mae: ‘Au carrefour des ruptures: une analyse de certains romans de Gisèle Pineau, de Tony Delsham et d’Axel Gauvin’; ‘Malady and Mal(e)contents: Negotiations of Masculinity in Francophone Men’s Writing’ a ‘Wales in Continental Guidebooks (1850-2013): A Country on the Imaginative Periphery’. Mae goruchwyliaeth ymchwil hefyd ar gael trwy gyfrwng Cymraeg. Ein myfyrwyr wedi derbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae meysydd arbenigol yn cynnwys: • Astudio'r cof / astudio gwrthdaro, e.e. Ffrainc dan Oresgyniad, le Shoah, Rhyfel Algeria • Barddoniaeth gyfoes a'r celfyddydau gweledol • Dada a Swrealaeth • Dyniaethau meddygol • Llenyddiaeth a drama o'r ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain • Llenyddiaeth ganoloesol a chyfnod modern cynnar (gan gynnwys Marie de France, y fabliaux, Rabelais) • Llenyddiaeth siaradwyr Ffrangeg a diwylliannau mudol • Ysgrifennu menywod a theori rhywedd (e.e. de Beauvoir, Duras, Darrieussecq)

107

Made with FlippingBook - Online magazine maker