IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL CAMPWS PARC SINGLETON
Mae'r Adran, ar y cyd â phrifysgolion Bangor a Chaerdydd, yn cynnal Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol ESRC ym meysydd thematig Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd. Mae'r partneriaethau hyn yn cynnig ysgoloriaethau er mwyn sicrhau llif pobl gymwysedig iawn i yrfaoedd ymchwil o fewn academia a thu hwnt. Yn ogystal ag astudiaeth PhD ar y campws, mae'r Adran yn cynnig rhaglen PhD dysgu o bell rhan-amser sydd wedi'i hen sefydlu. Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil yn perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, yn ogystal â hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr.
IEITHYDDIAETH GYMHWYSOL MA drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA Mae'r Adran yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd am gyflawni ymchwil raddedig i ieithyddiaeth gymhwysol, yn enwedig pynciau sy'n ymwneud â: dysgu ac asesu geirfa, y gallu i ddysgu iaith, caffael ail iaith; ieithyddiaeth corpws, a dadansoddi mynegiant. Mae gan yr Adran hanes ardderchog o oruchwylio traethodau hir dylanwadol o ansawdd da, ac mae myfyrwyr ymchwil yn gweithio gyda staff i greu cymuned academaidd ddynamig. Ymhlith pynciau traethodau hir diweddar a chyfredol mae: • Arferion tystio disgyrsiol mewn darllediadau newyddion teledu o ymgyrch fomio Llundain yn 2005 a'i choffáu • Asesu trefniadaeth lecsicaidd mewn ail iaith • Dwyieithrwydd strategol: Nodi'r cyd-destun gorau posibl ar gyfer Cymraeg fel ail iaith yn y cwricwlwm • Meithrin perthynas amhriodol ar-lein o batrymau cyfathrebu i broffiliau pedoffilyddion • Modelu anawsterau a mesur cyfraddau caffael geiriadurol L2 • Piwristiaeth a phoblyddiaeth: rolau ymryson newid cod a benthyca yn esblygiad ieithoedd lleiafrifol. • Y cysylltiad rhwng caffael geirfa a chystrawen L2 • Y lecsicon meddyliol: sut mae cynrychioliadau ieithyddol a chysyniadol yn rhyngweithio ? • Ymchwilio i'r gydberthynas rhwng maint a threfniadaeth lecsicon meddyliol L1 a datblygu geirfa L2
110
Made with FlippingBook - Online magazine maker