Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

LLENYDDIAETH SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL

YN Y DU EFFAITH YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) 7 FED

CAMPWS PARC SINGLETON

Rydym wedi bod yn ganolfan glodwiw am ymchwil i lenyddiaeth o'r cyfnod Canoloesol, cyfnod y Dadeni a'r 18fed ganrif ers bron i ganrif.

Heddiw cawn yr un gydnabyddiaeth am arbenigo mewn astudiaethau rhywedd, ysgrifennu Cymreig modern yn yr iaith Saesneg, llenyddiaeth gyfoes, ac ysgrifennu creadigol. Mae sawl aelod o'n staff yn ymddangos fel arbenigwyr ar y radio a'r teledu, ac yn ysgrifennu'n rheolaidd i bapurau newydd safonol a phrif adolygiadau. Yn rhestr rhagoriaeth ymchwil (REF) diweddaraf Llywodraeth y DU (2014), cafodd ein hymchwil Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ei graddio'n 7fed yn y DU ac yn 1af yng Nghymru, gyda chyfran uchel o'n hymchwil yn cael ei dyfarnu'n ‘rhyngwladol ardderchog’ neu ‘o'r radd flaenaf’.

• Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth • Lladin • Llawysgrifau Canoloesol • Lleoliad Astudiaethau Canoloesol • Seintiau a Mystig yn yr Oesoedd Canol • Traethawd Hir Astudiaethau Canoloesol • Y Canoloesoedd Cwiar: Cyrff, Testunoldeb a Gwrthrychau • Y Da a'r Drwg yn y Cynfyd Diweddar Cristnogol LLENYDDIAETH SAESNEGMA ALl RhA Mae'r cwrs MA hwn yn cynnig ystod eang o opsiynau i fyfyrwyr o ran astudiaethau Llenyddiaeth Saesneg ac yn manteisio ar arbenigedd ymchwil unigol aelodau o staff. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau o'r MA mewn Ysgrifennu Cymreig yn yr iaith Saesneg, yn ogystal â modiwlau llenyddiaeth o raglenni MA eraill a addysgir yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Angela Carter • Anufudd-dod Neo-Fictorianaidd: Rhywedd a Thrawma Hiliol mewn Ffuglen (a Ffilm) Neo-Fictorianaidd • Ar ôl Macbeth: Addasu Llwyfan a Sgrîn • James Joyce a Theori Lenyddol • Seintiau a Mystig yn yr Oesoedd Canol

ASTUDIAETHAU CANOLOESOL MA ALl RhA Mae'r MA Astudiaethau Canoloesol yn defnyddio arbenigedd staff sy'n gweithio ar hanes canoloesol ac iaith a llenyddiaeth ganoloesol. Mae'r MA yn cwmpasu'r Cynfyd Diweddar i'r Dadeni, ac Ynysoedd Prydain a Ffrainc i'r Eidal a'r Tir Sanctaidd. Ymhlith y meysydd y mae staff yn arbenigo ynddynt yn benodol mae rhywedd, crefydd a chred, diwylliannau trefol a gwledig, iechyd, meddygaeth a'r corff, iaith ac amlieithrwydd, a hunaniaethau cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol. Cewch gyfle i ymgyfarwyddo â threftadaeth ganoloesol y de a'r ardal gyfagos, drwy weithio gyda Swyddfa Cofnodion Gorllewin Morgannwg a llyfrgell Eglwys Gadeiriol Henffordd a thrwy fod mewn cysylltiad â'r sefydliadau sy'n gyfrifol am gadwraeth safleoedd hanesyddol yng Nghymru, sef Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Cyflwyniad i Astudiaethau Canoloesol Uwch • Darllen dan Gyfarwyddyd mewn Astudiaethau Canoloesol • Enmity and Entanglement: Iddewon Lloegr yr Oesoedd Canol

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael. Am ragor o fanylion, ewch i:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

111

Made with FlippingBook - Online magazine maker