LLENYDDIAETH SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL
CAMPWS PARC SINGLETON
• Traethawd Hir Llenyddiaeth Saesneg • Y Canoloesedd Cwiar: Cyrff, Testunoldeb a Gwrthrychau • Ymarfer Syniadau: Sgiliau Ymchwil Uwch • Yr Aruchel Rhamantaidd • Ysgrifennu Modernaidd yn Llundain, Paris ac Efrog Newydd YSGRIFENNU CREADIGOL MA ALl RhA Mae'r MA Ysgrifennu Creadigol yn rhaglen unigryw sy'n cynnig addysgu integredig mewn ysgrifennu llenyddol a pherfformiad. Mae grŵp o staff sy'n awduron proffesiynol sydd wedi ennill gwobrau yn darparu'r addysgu craidd mewn ffuglen, barddoniaeth, ysgrifennu nad yw'n ffuglen a drama, ac yn llywio myfyrwyr ar hyd llwybrau unigol ym mhrif genres ysgrifennu cyfoes. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael budd o lu o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys sesiynau a arweinir gan awduron gwadd a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Barddoniaeth (1 a 2) • Celfyddyd y Stori Fer • Ffuglen Hir (1 a 2) • Sgriptio • Traethawd Hir Ysgrifennu Creadigol • Ysgrifennu Creadigol nad yw'n Ffuglen ac Ysgrifennu Teithio • Ysgrifennu Drama Radio • Ysgrifennu i'r Llwyfan • Ysgrifennu'r Hunan YSGRIFENNU CREADIGOL (ESTYNEDIG) MA ALl RhA Mae'r rhaglen MA Estynedig hon yn cyfuno'r MA Ysgrifennu Creadigol â chyfnod o astudio dramor yn UDA. Mae'r tymor ychwanegol yn gwneud
YSGRIFENNU CYMREIG YN YR IAITH SAESNEGMA ALl RhA Mae'r MA Ysgrifennu Cymreig yn yr iaith Saesneg yn rhaglen unigryw a addysgir fel rhan o waith CREW (y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru). Mae'r modiwlau yn cynnig cyd-destunau arloesol i fyfyrwyr eu harchwilio o ran amlygrwydd a datblygiad llên ac iaith Saesneg Cymru, wrth hefyd fynd i'r afael â dimensiynau gwleidyddol, cymdeithasol a rhyweddol y llenyddiaeth honno. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau o'r MA mewn Llenyddiaeth Saesneg a'r MA mewn Ysgrifennu Creadigol, yn ogystal â modiwlau llenyddiaeth o raglenni MA eraill Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Dylan Thomas a Thwf Ysgrifennu Cymreig yn yr Iaith Saesneg • Hunaniaethau Cymreig: Llenyddiaeth a Chenedligrwydd • Rhywedd, Genre a'r Genedl: Menywod yn Ysgrifennu'r Gymru Fodern • Traethawd Hir • Ymarfer Syniadau: Sgiliau Ymchwil Uwch a addysgir yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
LLENYDDIAETH SAESNEGMA drwy Ymchwil/MPhil/PhD ALl RhA Mae ymchwil Llenyddiaeth Saesneg
yn Abertawe yn arloesol, yn gydweithredol ac yn aml yn rhyngddisgyblaethol. Mae'n cynnwys mentora agos gan
arbenigwr yn eich pwnc dewisol neu feysydd astudio, a'r cyfle i gymryd rhan mewn diwylliant ymchwil cyffrous o ddarlithwyr gwadd, seminarau, gweithdai hyfforddiant cynigion ymchwil ar gyfer unrhyw bwnc sy'n gysylltiedig â Llenyddiaeth Saesneg, ond dylent yn gyffredinol berthyn yn fras i arbenigeddau ymchwil ein staff. Caiff rhaglenni PhD eu cefnogi gan Ganolfannau Ymchwil canlynol y Brifysgol: academaidd a chynadleddau myfyrwyr ôl-raddedig. Ystyrir Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Canoloesol a Chyfnod Modern Cynnar (MEMO) Mae MEMO yn cynorthwyo staff academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig sy'n gweithio ar bynciau hanesyddol, ieithyddol, a llenyddol o'r Cynfyd Diweddar i tua 1800. Mae ei haelodau wedi cael symiau sylweddol o gyllid gan AHRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, ac Ymddiriedolaeth Wellcome dros y blynyddoedd diwethaf. Themâu ymchwil presennol y Ganolfan yw: • Cymru, Lloegr a'r Gororau • Gofod a Lle • Natur a Magwraeth (gan gynnwys Rhywedd, Iechyd a'r Corff) • P ŵ er, Gwrthdaro ac Ymerodraeth • Testunau a'u Cyd-destunau • Y Gorffennol Parhaus
yr MAE yn gyfwerth ag MA Ewropeaidd o ran credydau.
112
Made with FlippingBook - Online magazine maker