ôl-raddedig o bob rhan o'r Brifysgol sy'n ymchwilio i rywedd, gan alluogi aelodau i rannu eu harbenigedd a chydweithio. Mae'r Ganolfan yn cynnal cynadleddau, symposia a gweithdai, gan ddarparu amgylchedd ysgogol i fyfyrwyr PhD. Mae gwaith ysgolheigaidd yn cwmpasu amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys: • Y Cyfryngau a Chyfathrebu • Hanes, y Clasuron ac Eifftoleg • Ieithoedd Modern • Llenyddiaeth Saesneg • Meddygaeth a Bydwreigiaeth Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil yn perthyn i'r Ganolfan Graddedigion yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'r Ganolfan yn darparu cymorth bugeiliol yn ogystal â chymorth gweinyddol ac mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth ym maes sgiliau ymchwil, wrth hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i gymuned ymchwil ôl-raddedig y Coleg o 200 o fyfyrwyr. • Astudiaethau Busnes • Astudiaethau Cyfieithu
Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg yng Nghymru (CREW) Fel yr arweinydd rhyngwladol cydnabyddedig yn y maes hwn o astudiaethau llenyddol a diwylliannol, mae CREW wedi datblygu rhaglen addysgu ac ymchwil helaeth. Mae gan y Ganolfan gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog a chaiff fudd o adnoddau unigryw, gan gynnwys dyddiaduron Richard Burton, papurau Raymond Williams, a llyfr nodiadau a ailddarganfuwyd yn ddiweddar yn perthyn i Dylan Thomas. Mae prosiectau ymchwil CREW yn cwmpasu'r meysydd canlynol: • Astudiaethau Ôl-wladychiaeth • Astudiaethau Rhywedd • Cysylltiadau Trawsiwerydd
YSGRIFENNU CREADIGOL MPhil/PhD ALl RhA Mae Abertawe yn cynnig rhaglen Ysgrifennu Creadigol ôl-raddedig arloesol a arweinir gan diwtoriaid o'r radd flaenaf. Bydd y cwrs yn eich helpu i feithrin ystod eang o sgiliau a deialog ymchwil ar draws y genres, o fyd barddoniaeth a gwaith ffuglen hir i ddramâu llwyfan, sgriptiau, ysgrifennu creadigol nad yw'n ffuglen ac ysgrifennu teithio. Bydd y PhD Ysgrifennu Creadigol yn eich tywys ar hyd llwybr tair blynedd o fentora agos gydag awdur-athro sy'n nodedig yn y genre rydych yn ysgrifennu ynddo. Byddwch hefyd yn cael budd o'r cyfle cyfoethog i rannu gwybodaeth yn y gweithdai PhD Ysgrifennu Creadigol, a gynhelir bob mis.
• Diwylliant Gweledol • Y dyniaethau Digidol • Hanes Diwylliannol
Y Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau a Diwylliant mewn Cymdeithas (GENCAS) Mae GENCAS yn gorff ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n dwyn ynghyd staff a myfyrwyr
113
Made with FlippingBook - Online magazine maker