Prosbectws Ol-Raddedig Prifysgol Abertawe 2021 v2

CAMPWS Y BAE MATHEMATEG

Mae ein hadran Fathemateg yn ehangu ac mae bellach wedi'i lleoli yn adeilad newydd y Ffowndri Gyfrifiannol. Mae'r cyfleuster o'r radd flaenaf hwn, sy'n werth £32.5m, yn darparu'r cyfleusterau addysgu ac ymchwil mwyaf diweddar o ansawdd uchel, yn ogystal â gofod rhwydweithio ac ysbrydoli. Yn y Ffowndri, gall partneriaid mewn diwydiant weithio gyda ni, gellir profi syniadau newydd a gall ein myfyrwyr a'n hymchwilwyr weithio ar broblemau go iawn. Rhown bwyslais cryf ar ddatblygu cyflogadwyedd graddedigion, ac mae ein graddedigion wedi cael eu cyflogi gan amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys: AXA, BA, Deutsche Bank, Shell Research, awdurdodau iechyd, Zurich Financial Services, a llywodraeth leol.

MATHEMATEG A CHYFRIFIADUREG AR GYFER CYLLID MSc ALl RhA Mae'r cwrs MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadureg ar gyfer Cyllid wedi'i gynllunio i ateb y galw cynyddol am fathemategwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i weithio ym marchnadoedd ariannol ac yswiriant y byd. Ar y cwrs byddwch yn astudio gwahanol elfennau o fathemateg, cyllid a chyfrifiadura yn ogystal â meithrin eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno drwy brosiect a gyflawnir gennych. Cewch gefnogaeth lawn er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn cefnogi eich cynlluniau gyrfaol at y dyfodol yn y ffordd orau bosibl. Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Calcwlws Itô a Hafaliadau Gwahaniaethol Stocastig

MATHEMATEG MSc ALl RhA Mae'r cwrs MSc mewn Mathemateg wedi'i gynllunio i fyfyrwyr sydd am adeiladu ar eu BSc, ehangu eu hystod o arbenigedd mathemategol mewn mwy o bynciau, a dangos eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth drwy draethawd estynedig. Bydd cymhwyster o'r fath yn dangos bod gan raddedigion ddealltwriaeth ehangach a dyfnach o fathemateg, a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni prosiect sylweddol gyda lefel uchel o annibyniaeth, gan gyflwyno eu canlyniadau mewn adroddiad ysgrifenedig. Bydd hyn yn rhoi

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU

Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael. a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

mantais i raddedigion MSc Mathemateg yn y farchnad swyddi fwyfwy cystadleuol.

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: • Algebra Cymhwysol: Theori Codio • Biofathemateg • Calcwlws Itô • Dadansoddi Rhifyddol • Dadansoddi Swyddogaethau

• Dadansoddi Rhifyddol • Dadansoddiad Fourier

• Damcaniaeth Tebygolrwydd • Hafaliadau Gwahaniaethol • Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol • Mathemateg Ariannol • Prosesau Stocastig • Rhaglennu Java

• Dynameg Ddadansoddol • Geometreg Wahaniaethol • Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol • Mathemateg Ariannol

• Rhifolion ODEs a PDEs • Theori Black-Scholes

• Prosesau Stocastig • Theori Black-Scholes

I gael gwybodaeth fanylach am gynnwys y cwrs, gan gynnwys rhestr lawn o'r modiwlau, ewch i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig

116

Made with FlippingBook - Online magazine maker